O Hanes i Swyddfa Archwilio Cymru

05 Tachwedd 2020
  • Fel rhan o’n hymgyrch recriwtio, rydym wedi gofyn i ambell o’n hyfforddai graddedig i flogio am sut beth yw hi i fod yn hyfforddai yn y Swyddfa Archwilio. Yma, mae Charles yn trafod ei brofiadau yn ei flwyddyn gyntaf.

    I gael gwybod rhagor am y cynllun, a sut i wneud cais, edrychwch ar ein gwefan [agorir mewn ffenest newydd].

    Ar wahân i wybod fy mod am weithio yn y sector cyhoeddus, pan adawais Brifysgol Caerdydd ym mis Medi 2018, doedd gen i ddim syniad pendant beth roeddwn i am ei wneud â ‘mywyd. Erbyn hyn, mae tri mis wedi mynd heibio ers imi ddechrau ar yrfa newydd sydd eisoes yn ddifyr ac yn fuddiol.

    Yn y brifysgol, fe ddilynais lwybr cyffredin iawn ac astudio pwnc roeddwn i’n ei fwynhau (Hanes) ond nad oedd yn arwain at lwybr gyrfa uniongyrchol. Fe wnes i gais i gael lle ar gynlluniau amrywiol gan wybod fy mod am helpu i wneud gwahaniaeth yn y sector cyhoeddus a’m herio fy hun ar yr un pryd. Dyna sut bu imi wneud cais am swydd ym maes archwilio’r sector cyhoeddus yma yn Swyddfa Archwilio Cymru.

    Mae cynllun Swyddfa Archwilio Cymru'n wahanol i lawer o’r cynlluniau eraill oherwydd ei fod yn barod i roi lle i bobl o wahanol gefndiroedd academaidd a buddsoddi ynddyn nhw. Pan ddechreuais ar y swydd hon, doeddwn i ddim yn siŵr beth fyddwn i’n ei wneud drwy’r dydd. Doeddwn i ddim wedi cydio mewn cyfrifiannell ers pedair blynedd a doeddwn i ddim yn gwybod y mymryn lleiaf am gyfrifyddu. Ar ôl pob sesiwn yn y coleg, ochr yn ochr â’r profiad gwaith o ddydd i ddydd, rwy’n credu fy mod yn dechrau dod i ddeall beth yw archwilio!

    Mae’r cyfnodau yn y coleg yn gyfle gwych i ddod i adnabod yr hyfforddeion eraill, i gael gwybod lle mae pawb wedi bod, ac i gymdeithasu. Mae’r gwmnïaeth honno wedi datblygu i fod yn gyfeillgarwch, gyda phob un ohonom yn ein cynorthwyo ein gilydd i ddeall beth sy’n ddebyd a beth sy'n gredyd yn ystod y seibiannau adolygu! Mae’r coleg ei hun yn ffordd wych o adeiladu sylfaen wybodaeth o’r dechrau’n deg, gyda digonedd o gacennau a bisgedi i’n cynnal. Mae ein lwfans gwyliau hael hefyd wedi rhoi cyfle imi roi sylw i feysydd sy’n her.

    Yn y gwaith, rwy’n ffodus o fod yn rhan o dîm archwilio perfformiad sy’n gweithio ym maes llywodraeth leol. Yn wahanol i waith archwilio traddodiadol, rydym yn canolbwyntio ar chwilio am werth am arian i’r trethdalwyr, yn ogystal â chwilio am welliannau, effeithlonrwydd a chynaliadwyedd. Mae’r tîm o’m hamgylch wedi bod yn gefnogol iawn drwy ateb fy nghwestiynau, fy helpu i ymgyfarwyddo â’r gwaith, a’m llywio drwy acronymau’r sector cyhoeddus. Fe wnaethon nhw hyd yn oed ddygymod â'r ffaith imi gefnogi Lloegr yn ystod Cwpan Rygbi’r Byd heb ormod o dynnu coes.

    Rwyf hanner ffordd drwy lefel gyntaf y cymhwyster ACA a bydd gennyf dri arholiad arall ar ôl y Nadolig. Byddaf hefyd yn symud i dîm archwilio ariannol mewn awdurdod lleol. O sgwrsio â hyfforddeion eraill, rwy’n siŵr y byddaf yn parhau i fwynhau’r un amrywiaeth o waith ag a geir ym maes archwilio perfformiad, gyda’r fantais ychwanegol o weld sut mae’r gwaith coleg yn trosi’n waith archwilio o ddydd i ddydd.

    Pan fydd eich astudiaethau'n dod i ben, os nad ydych yn sicr pa lwybr i’w ddilyn neu pa gynllun i wneud cais amdano, rwy’n eich annog i fod yn eangfrydig. Pan oeddwn i yn eich sefyllfa chi, doedd gen i ddim syniad y byddwn i ar y ffordd i fod yn gyfrifydd siartredig cymwysedig a, hyd yma, mae popeth yn mynd yn dda. Mae gweithio a dysgu ar yr un pryd mewn amgylchedd cefnogol yn ffordd wych o feithrin sgiliau newydd a’ch herio’ch hun.

    Am yr awdur

    charles-rigby

    Mae Charles Rigby yn hyfforddai graddedig yn ei flwyddyn gyntaf yn y Swyddfa Archwilio.