Fy mlwyddyn gyntaf fel prentis yn Archwilio Cymru

05 Tachwedd 2020
  • Yn rhan o’n hymgyrch recriwtio, rydym wedi gofyn i rai o’n Prentisiaid flogio am eu profiad o fod yn brentis yn Archwilio Cymru. Yma, mae Jordan yn sôn am ei blwyddyn gyntaf.

    I gael rhagor o wybodaeth ac i ymgeisio, ewch i’n gwefan.

    Fy enw i yw Jordan ac rwy’n brentis archwilio ariannol yn fy mlwyddyn gyntaf. Ymunais ym mis Medi 2018 ac roeddwn yn teimlo’n gartrefol ar unwaith yn Archwilio Cymru. Mae pawb mor gyfeillgar, fe ymgartrefais i ymhen dim.

    Rwyf wedi bod yn ddigon ffodus i weithio ar sawl archwiliad gwahanol ers i mi ddechrau ym mis Medi fel Cyngor Dinas Casnewydd, Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro, Cronfeydd Amaethyddol ac rwyf hyd yn oed wedi cael cyfle i weithio gyda’r tîm Cyllid yn Archwilio Cymru. Mae gweithio gyda gwahanol dimau yn gyfle gwych i rwydweithio a datblygu eich sgiliau a’ch gwybodaeth.

    Gall ymuno ag unrhyw weithle newydd fod yn frawychus ond yma yn Archwilio Cymru mae gennych chi rywun bob amser i ateb eich cwestiynau neu rannu eich pryderon. Ar y cychwyn cyntaf efallai y byddwch yn teimlo eich bod wedi eich llethu, ond peidiwch â phoeni – nid yw neb yn disgwyl i chi wybod popeth. Bydd y bobl yn eich tîm archwilio yn eich helpu chi a byddan nhw yno i ateb unrhyw gwestiynau.

    Caiff eich datblygiad yn Archwilio Cymru ei ystyried o ddifrif. Byddwch yn mynd ar amrywiaeth o gyrsiau hyfforddi a gwrandewir ar eich anghenion datblygu a byddan nhw’n cael eu diwallu pryd bynnag y bo hynny’n bosibl. Er enghraifft, roeddwn i eisiau datblygu fy sgiliau Excel, felly cefais y cyfle i gymryd rhan mewn diwrnod o hyfforddiant Excel a oedd o gymorth mawr i mi.

    Fel prentisiaid Archwilio Cymru, rydym ar hyn o bryd yn gweithio tuag at Lefel 4 AAT, sy’n gam mawr tuag at fwrw ymlaen i astudiaethau eraill ym maes cyfrifyddu.

    Mae ymgeisio am swydd prentis yma yn Archwilio Cymru yn gyfle na ddylid ei golli. Ewch amdani! Ni fyddwch yn difaru.

    Jordan Davies

    Mae Jordan Davies yn brentis blwyddyn gyntaf yn Archwilio Cymru. Ymunodd â ni ar ôl graddio o'r Brifysgol yn 2010 gyda gradd mewn Osteopathi.