Cyhoeddiadau

Mae’r adroddiadau hyn yn cwmpasu amrywiaeth o bynciau a fyddai o ddiddordeb i chi o bosib.

Mae modd i chi chwilio am adroddiad penodol drwy ddefnyddio’r teclyn chwilio. Gallwch roi gosodiadau chwilio i ddarganfod cyhoeddiad ar destun neu o fewn ardal ddaearyddol benodol.

Os ydych angen unrhyw un o’n cyhoeddiadau mewn ffurf ac/neu iaith wahanol cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion canlynol:

Ffôn: 029 2032 0500

E-bost: post@archwilio.cymru

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg a Saesneg. Gallwch ysgrifennu atom hefyd, yn Gymraeg neu’n Saesneg, ac fe wnawn ymateb yn yr iaith rydych chi wedi ei defnyddio. Ni fydd gohebu yn Gymraeg yn arwain at oedi.

Adroddiadau hŷn

Galwch gael gafael ar adroddiad a gyhoeddwyd cyn 2010 drwy edrych ar hen fersiynau o’n gwefan Archif we'r DU [agorir mewn ffenest newydd]. Gallwch gysylltu â ni’n uniongyrchol hefyd a byddwn yn hapus i roi copi electronig i chi.

Gweler Hefyd: Arfer Da

Darganfod dogfennau

14 Chwef 2012 - 9:35yb

Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi canlyniadau gwaith yr archwilwyr ar gyfer 2010-11 yn y mathau canlynol o awdurdodau yng Nghymru: Awdurdodau unedol (gan gynnwys 
wyth cronfa bensiwn), Awdurdodau'r heddlu, Yr awdurdodau tân ac achub ac Awdurdodau'r parciau cenedlaethol.

30 Ion 2012 - 8:56yb

Mae'r adroddiad hwn yn nodi canlyniadau fy arolygiad arbennig o'r Cyngor o dan adran 21 o'r Mesur. Mae'r Mesur yn ei gwneud yn ofynnol i mi grybwyll unrhyw fater y credaf, o ganlyniad i'r arolygiad, sy'n golygu nad yw'r Cyngor yn cydymffurfio â gofynion Rhan 1 y Mesur (gwella llywodraeth leol).

30 Ion 2012 - 8:49yb

Bob blwyddyn, rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol gyfl wyno adroddiad yn nodi pa mor dda y mae cynghorau, awdurdodau tân ac achub, a pharciau cenedlaethol Cymru yn cynllunio ar gyfer gwella ac yn darparu eu gwasanaethau. Gan ddefnyddio gwaith arolygiaethau perthnasol yng Nghymru, ynghyd â gwaith a gynhelir ar ei ran gan Swyddfa Archwilio Cymru, mae’r adroddiad hwn yn rhoi darlun o welliant dros y fl wyddyn ddiwethaf.

25 Ion 2012 - 8:49yb

Bob blwyddyn, rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol gyfl wyno adroddiad yn nodi pa mor dda y mae cynghorau, awdurdodau tân ac achub, a pharciau cenedlaethol Cymru yn cynllunio ar gyfer gwella ac yn darparu eu gwasanaethau. Gan ddefnyddio gwaith arolygiaethau perthnasol yng Nghymru, ynghyd â gwaith a gynhelir ar ei ran gan Swyddfa Archwilio Cymru, mae’r adroddiad hwn yn rhoi darlun o welliant dros y fl wyddyn ddiwethaf.

13 Ion 2012 - 9:35yb

Yn yr adroddiad hwn, rydym yn ystyried a yw landlordiaid wedi gwneud cynnydd da i wella ansawdd tai cymdeithasol yn unol â SATC.

12 Ion 2012 - 9:02yb

Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi canfyddiadau gwaith archwilio rwyf wedi’i gyflawni yn Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru (yr Ymddiriedolaeth) yn ystod 2011. 

12 Ion 2012 - 9:02yb

Paratowyd y ddogfen hon at ddefnydd mewnol Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru fel rhan o'r gwaith a wnaed yn unol â swyddogaethau statudol, y Cod Ymarfer Archwilio a'r Datganiad o Gyfrifoldebau a gyhoeddwyd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.

29 Tach 2011 - 9:35yb

Ers 2005, mae Swyddfa Archwilio Cymruhefyd wedi cyhoeddi adroddiadau o bwys ar nifer o bynciau sy'n gysylltiedig â grantiau cyhoeddus. Rydym yn dwyn ynghyd yr holl brofiad hwn ynyr adroddiad hwn i ateb y cwestiwn, ‘A gaiff grantiau'r sector cyhoeddus yng Nghymru eu rheoli'n dda?’

14 Hyd 2011 - 10:35yb

Yn yr adroddiad cyntaf o'r enw Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2010, amcangyfrifwyd yr heriau ariannol a wynebai'r gwasanaethau
cyhoeddus yng Nghymru a'r gwersi allweddol o'r gwaith a gyflawnwyd gan fy staff a chontractwyr. Diben yr ail adroddiad hwn yw rhoi mwy o eglurder ynglŷn â'r sefyllfa
gyfredol a helpu gwasanaethau cyhoeddus i ymateb i'r heriau ariannol. Bwriadaf i'r adroddiad hwn fod yn ffynhonnell ddefnyddiol o wybodaeth i arweinwyr gwleidyddola gweinyddol wrth iddynt ddatblygu ymhellach eu cynlluniau ar gyfer llwyddo gyda llai.

6 Medi 2011 - 10:02yb

Paratowyd y ddogfen hon at ddefnydd mewnol Bwrdd Iechyd Hywel Dda fel rhan o'r gwaith a gyflawnir yn unol â swyddogaethau statudol, y Cod Ymarfer Archwilio a'r Datganiad o Gyfrifoldebau a gyhoeddwyd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.

Tudalennau