Cyhoeddiadau

Mae’r adroddiadau hyn yn cwmpasu amrywiaeth o bynciau a fyddai o ddiddordeb i chi o bosib.

Mae modd i chi chwilio am adroddiad penodol drwy ddefnyddio’r teclyn chwilio. Gallwch roi gosodiadau chwilio i ddarganfod cyhoeddiad ar destun neu o fewn ardal ddaearyddol benodol.

Os ydych angen unrhyw un o’n cyhoeddiadau mewn ffurf ac/neu iaith wahanol cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion canlynol:

Ffôn: 029 2032 0500

E-bost: post@archwilio.cymru

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg a Saesneg. Gallwch ysgrifennu atom hefyd, yn Gymraeg neu’n Saesneg, ac fe wnawn ymateb yn yr iaith rydych chi wedi ei defnyddio. Ni fydd gohebu yn Gymraeg yn arwain at oedi.

Adroddiadau hŷn

Galwch gael gafael ar adroddiad a gyhoeddwyd cyn 2010 drwy edrych ar hen fersiynau o’n gwefan Archif we'r DU [agorir mewn ffenest newydd]. Gallwch gysylltu â ni’n uniongyrchol hefyd a byddwn yn hapus i roi copi electronig i chi.

Gweler Hefyd: Arfer Da

Darganfod dogfennau

20 Maw 2014 - 1:34yp

Rydyn ni wedi paratoi’r memorandwm hwn ar y Gwasanaeth Awyr oddi mewn i Gymru ar gais Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol.

20 Chwef 2014 - 12:00yb

Diffiniad codio clinigol yn ôl Gwasanaeth Dosbarthiadau’r GIG yw trosi termau meddygol, a ysgrifenodd gan yr ymgynghorydd, i ddisgrifio cwyn y claf, y broblem, diagnosis, triniaeth neu reswm am sylw meddygol i fformat codio a gydnabyddir yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.

6 Chwef 2014 - 3:07yp

Rydym wedi paratoi’r memorandwm ffeithiol hwn ar gyflogau uwch reolwyr ar draws sector cyhoeddus Cymru ar gais Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol. Mae’r memorandwm hwn yn hysbysu ymchwiliad gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar y pwnc hwn, a gellir dod o hyd i’r manylion ar wefan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

30 Ion 2014 - 9:00yb

Cyhoeddwyd yr adroddiad hwn er budd y cyhoedd o dan adran 22 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (Deddf 2004). Mae Deddf 2004 yn ei gwneud yn ofynnol i mi ystyried p’un a ddylwn, er budd y cyhoedd, gyflwyno adroddiad ar unrhyw fater a ddaw i’m sylw yn ystod yr archwiliad, er mwyn i’r corff archwiliedig ei ystyried neu er mwyn tynnu sylw’r cyhoedd ato.

30 Ion 2014 - 9:00yb

Cyhoeddir yr adroddiad hwn er budd y cyhoedd dan adran 22 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (Deddf 2004). Mae’r Ddeddf yn ei gwneud hi’n ofynnol i mi ystyried a ddylwn i, er budd y cyhoedd, ysgrifennu adroddiad ar unrhyw fater a ddaw i’m sylw yn ystod yr archwiliad, er mwyn i gorff archwilio ei ystyried neu ei ddwyn i sylw’r cyhoedd.

27 Ion 2014 - 11:59yp

Yn yr adroddiad hwn ceir trosolwg o’r graddau y mae cynghorau yng Nghymru yn ymateb i’r pwysau ariannol y maent yn eu hwynebu. Mae’n trafod effeithiolrwydd eu cynllunio ariannol, eu dull o wneud penderfyniadau ariannol a’r camau y maent yn eu cymryd i leihau effaith toriadau sylweddol i’r gyllideb. Mae hefyd yn ystyried i ba raddau y mae cynghorau’n deall effaith eu gweithredoedd ac yn amlinellu rhai syniadau cynnar ar oblygiadau Adolygiad o Wariant 2013 i lywodraeth leol yng Nghymru.

27 Ion 2014 - 5:01yp

Mae gofyn i’r Archwilydd Cyffredinol, o dan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009, adrodd ar waith archwilio ac asesu o ran os yw’r Cyngor wedi cyflawni ei ddyletswyddau a chwrdd ag anghenion y Mesur

9 Ion 2014 - 9:00yb

Mae hwn, fy nhrydydd adroddiad blynyddol ar gyfrifon cyrff llywodraeth leol, yn crynhoi canlyniadau gwaith archwilwyr yn 2012-13 yn y mathau canlynol o gyrff a archwilir yng Nghymru: Awdurdodau unedol, Cronfeydd pensiwn llywodraeth leol, Comisiynwyr heddlu a throseddu a phrif gwnstabliaid, Awdurdodau tân ac achub, Awdurdodau parciau cenedlaethol ac Cyd-bwyllgorau.

1 Ion 2014 - 5:01yp

Mae'r adroddiad hwn yn crynhoi fy nghanfyddiadau o'r gwaith archwilio a wnaed gennyf ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg (y Bwrdd Iechyd) yn ystod 2013.

10 Rhag 2013 - 12:00yb

Edrychodd yr archwiliad hwn ar ddull Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg o reoli rhagnodi ym maes gofal sylfaenol gan geisio ateb y cwestiwn canlynol: 'A yw'r dull sy'n cael ei fabwysiadu gan y Bwrdd Iechyd yn cefnogi rhagnodi diogel, effeithiol a darbodus ym maes gofal sylfaenol?' 

Tudalennau