Cyhoeddiadau

Mae’r adroddiadau hyn yn cwmpasu amrywiaeth o bynciau a fyddai o ddiddordeb i chi o bosib.

Mae modd i chi chwilio am adroddiad penodol drwy ddefnyddio’r teclyn chwilio. Gallwch roi gosodiadau chwilio i ddarganfod cyhoeddiad ar destun neu o fewn ardal ddaearyddol benodol.

Os ydych angen unrhyw un o’n cyhoeddiadau mewn ffurf ac/neu iaith wahanol cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion canlynol:

Ffôn: 029 2032 0500

E-bost: post@archwilio.cymru

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg a Saesneg. Gallwch ysgrifennu atom hefyd, yn Gymraeg neu’n Saesneg, ac fe wnawn ymateb yn yr iaith rydych chi wedi ei defnyddio. Ni fydd gohebu yn Gymraeg yn arwain at oedi.

Adroddiadau hŷn

Galwch gael gafael ar adroddiad a gyhoeddwyd cyn 2010 drwy edrych ar hen fersiynau o’n gwefan Archif we'r DU [agorir mewn ffenest newydd]. Gallwch gysylltu â ni’n uniongyrchol hefyd a byddwn yn hapus i roi copi electronig i chi.

Gweler Hefyd: Arfer Da

Darganfod dogfennau

17 Hyd 2017 - 12:01yb

Rydym wedi bod yn chwilio am dystiolaeth bod y trefniadau caffael presennol yng Nghymru’n helpu i roi gwerth am arian o ran gwario cyhoeddus, a’u bod yn addas i’r dyfodol.

11 Hyd 2017 - 4:18yp

Prif bwrpas yr adroddiad hwn yw darparu mewnwelediad, rhannu arferion presennol ac ysgogi sgyrsiau a thrafodaethau pellach rhwng cynghorau a sefydliadau eraill.

12 Medi 2017 - 12:19yp

Mae’r gwaith a gyflawnwyd ers yr Adroddiad Gwella Blynyddol diwethaf, gan gynnwys gwaith y rheoleiddwyr perthnasol, yn yr adroddiad hwn.

1 Medi 2017 - 3:00yp

Nod ein hadolygiad oedd canfod a yw Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn sicrhau bod cleifion yn cael mynediad at wasanaethau MT tu allan i oriau sy’n effeithiol a chydnerth.

31 Awst 2017 - 12:01yb

Rydyn ni wedi cynnal archwiliad er mwyn canfod a yw Llywodraeth Cymru wedi rhoi trefniadau effeithiol ar waith i reoli'r Rhaglen Cefnogi Pobl, a sicrhau ei bod yn cyflenwi wasanaethau o ansawdd uchel sydd wedi'u targedu'n briodol.

18 Awst 2017 - 8:00yb

Cychwynnodd yr adolygiad hwn ym mis Ionawr 2017 ac rydym wedi asesu a yw’r Bwrdd Iechyd wedi gwneud digon o gynnydd yn sgil canfyddiadau ac argymhellion yr adolygiad gwreiddiol.

8 Awst 2017 - 12:03yp

Tynnodd ein galwad am dystiolaeth o ymatebion gan amrywiaeth o gyrff cyhoeddus ar y trefniadau darparu presennol, ariannol a risgiau gwasanaeth a'r newid diweddar yn y ddeddfwriaeth. 

8 Awst 2017 - 12:02yp

Tynnodd ein galwad am dystiolaeth o ymatebion gan amrywiaeth o gyrff cyhoeddus ar y trefniadau darparu presennol, ariannol a risgiau gwasanaeth a'r newid diweddar yn y ddeddfwriaeth. 

25 Gorff 2017 - 2:31yp

Mae’r Cyngor yn debygol o fodloni ei ofynion statudol mewn perthynas â gwelliant parhaus ar yr amod ei fod yn gwreiddio trefniadau a fydd yn ei alluogi i wynebu heriau presennol a heriau’r dyfodol. 

21 Gorff 2017 - 9:00yb

Mae pwyslais yr adolygiad hwn ar effeithiolrwydd trefniadau llywodraethu’r Cyngor ar gyfer penderfynu ar newidiadau sylweddol i wasanaethau: rydym yn diffinio hyn fel unrhyw newid sylweddol, wrth ddarparu gwasanaethau, a/neu ym mhrofiad defnyddwyr gwasanaeth allanol o’r gwasanaethau.

Tudalennau