• Swyddog Prosiect Newid
    £31,382- £37,673 (band cyflog 2)
    Mae'r cyflog wrth apwyntiad o leiaf yr ystod
    Caerdydd

Ynglŷn â'r swydd hon

Description

Ynglŷn â'r swydd

Mae Archwilio Cymru yn awyddus i recriwtio Swyddog Prosiect Newid, swydd sy'n ganolog wrth gyflawni ein Rhaglen Newid.

Gan weithio ochr yn ochr â chydweithwyr ar draws y busnes a'n rhanddeiliaid allanol, byddwch yn cefnogi'r Tîm Newid canolog a rheolwyr prosiect i gydlynu a chyflawni gweithgareddau rheoli newid.

Mae'r swydd yn un amrywiol ac mae'n cynnwys gweinyddu a chydgysylltu cynlluniau, ymgysylltu a chyfathrebu â rhanddeiliaid, monitro ac adrodd, dadansoddi data a chefnogi digwyddiadau allweddol a chyfarfodydd llywodraethu.

Mae ein swyddogaeth rheoli newid yn Archwilio Cymru yn sicrhau bod pobl yn cael eu rhoi wrth wraidd newid. Byddwch yn cyfrannu'n rhagweithiol at hyn drwy gefnogi datblygiad gwasanaethau a phrosesau drwy ddarparu cymorth ac arweiniad, gan ymgorffori dull cyson o reoli newid yn Archwilio Cymru.

Mae hon yn swydd allweddol o ran rheoli a chefnogi swyddogaeth weinyddol y tîm newid a darparu lefel uchel o wasanaeth, tra'n sicrhau bod y ddarpariaeth yn adlewyrchu gwerthoedd ac ymddygiadau HYDER Archwilio Cymru.

Sut brofiad yw gweithio yn y Tîm Newid

Mae'r Tîm Newid yn Archwilio Cymru yn hynod gefnogol a phositif. Rydyn ni wir yn caru'r hyn rydyn ni'n ei wneud ac rydyn ni'n angerddol am gael effaith ar y sefydliad. Er bod ein Rheolwyr Newid a'n Rheolwr Rhaglen yn arwain prosiectau gwahanol, rydym yn dal i fod yn un tîm, gan gynnig mewnbwn ac arweiniad i'n gilydd. Mae rôl y Swyddog Prosiect yn cynnig y cyfle unigryw i gael mewnwelediad a chynnig cymorth hanfodol ar draws y rhaglen newid i gyflawni ein prosiectau, gan weithio gyda thimau ledled Archwilio Cymru i gyflawni canlyniadau.

 Canfuwch fwy

Gallwch ganfod mwy am y cyfrifoldebau, y sgiliau a'r profiad sydd eu hangen ar gyfer y swydd yn y swydd ddisgrifiad. I gael trafodaeth anffurfiol am y cyfle cyffrous hwn, cysylltwch â Ceri Hughes.

Gwahoddir ymgeiswyr llwyddiannus i gymryd rhan mewn asesiad meddwl beirniadol. Bydd yr holl asesiadau a chyfweliadau yn cael eu cynnal yn bersonol yn Swyddfa Caerdydd, 1 Cwr y Ddinas, Stryd Tyndall, Caerdydd, CF10 4BZ yn ystod yr wythnos sy'n dechrau 20 Mai.

Wrth ymgeisio ar-lein, cofiwch wasgu’r botwm ‘continue’ ar ôl cyflwyno’ch cais – unwaith y byddwch wedi gwneud hyn byddwch yn derbyn e-bost i gydnabod fod eich cais wedi ei gyflwyno. Os na fyddwch yn derbyn yr e-bost yma, cysylltwch ag Adnoddau Dynol ar unwaith.

Dyddiad Cau

  • 01/05/2024
Darganfyddwch sut brofiad yw gweithio yn Archwilio CymruDarllen mwy