Mae newid sefydliadol, trawsnewid gwasanaethau ac arloesedd oll yn golygu rhywfaint o risg a methiant er mwyn cyflawni'r amcan o newid pethau er gwell. Mewn rhai achosion, y risg fwyaf yw peidio â chymryd risg o gwbl. Fodd bynnag, ni all gwasanaethau cyhoeddus gymryd risgiau byrbwyll gan ein bod yn darparu gwasanaethau i'r bobl sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas, ac nid yw'n dderbyniol defnyddio arian y trethdalwr mewn ffordd esgeulus mewn cyfnod o galedi ariannol.
Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi dweud yn gyhoeddus ei bod yn bwysig i wasanaethau cyhoeddus gymryd risgiau sydd wedi'u rheoli'n dda wrth drawsnewid gwasanaethau cyhoeddus ac arloesi.
Rydym yn cydnabod ei bod yn bwysig bod prosesau rheoli risg sefydledig, perthnasol ar waith. Mae nifer o agweddau eraill y mae angen rhoi sylw iddynt hefyd, yn ogystal â chydymffurfio â phrosesau. Mae'r diwylliant a'r ymddygiad sy'n gysylltiedig â 'chymryd risgiau sydd wedi'u rheoli'n dda' yn berthnasol i unigolion yn ogystal â sefydliadau. Gwelwyd bod cysylltu dulliau rheoli risg â fframweithiau sefydledig wedi bod yn ddefnyddiol wrth helpu pobl a sefydliadau i ddeall beth sydd fwyaf effeithiol yn eu cyd-destun penodol nhw.
I bwy mae'r seminar
Mae'r seminar hon yn wahanol i'n seminarau traddodiadol. Mae'n fodel yr hoffem ei brofi a'i ddatblygu ymhellach gyda phobl sydd naill ai:
- yn rhan o dimau sy'n gyfrifol am newid sefydliadol;
- yn gwneud cynlluniau i drawsnewid gwasanaethau dros yr ychydig fisoedd nesaf; neu
- yn cynnal treialon arloesol.
Nid yw'r seminar hon wedi'i hanelu at reolwyr risg.
Cyflwyniadau
Deunydd i'w rannu o'r diwrnod (Saesneg yn unig) [PDF 1,216KB Agorir mewn ffenest newydd]
Cyfryngau cymdeithasol
- Gweler ein Storify [Agorir mewn ffenest newydd]
- Blogbostau'r Gyfnewidfa Arfer Da [Agorir mewn ffenest newydd]