Trawsgrifiad fideo [PDF 107KB Agorir mewn ffenest newydd]
Buddion mynychu
Cynhaliodd Swyddfa Archwilio Cymru, CLlLC ac Arfer Da Cymru seminar rhyngweithiol, rhad ac am ddim i ddod â'r arferion mwyaf cyfredol o Gymru a thu hwnt at ei gilydd. Fe wnaeth cynrychiolwyr rhannu a dysgu dulliau gwahanol rheoli fflyd. Erbyn diwedd y seminar, roedd cynrychiolwyr yn gallu dewis ac addasu dulliau at eu hanghenion rheoli fflyd, er mwyn eu galluogi i gyflawni mwy â llai.
Gellir gwylio y cyflwynwyr [Agorir mewn ffenest newydd] yn trafod eu cyfraniad i’r seminar.
Cafodd y seminar ei anelu at reolwyr sector cyhoeddus a'r trydydd sector a swyddogion sy'n gweithio mewn:
- Fflyd;
- Cyfleusterau;
- Cyllid;
- Cludiant;
- Cyflenwi gwasanaethau;
- Caffael; a
- Prosiectau â chyfrifoldebau rheoli fflyd.
Amlinelliad o’r seminar
Roedd y seminar yn cynnwys sesiwn arddangos lawn:
-
Dynladdiad Corfforaethol - y Gwirionedd Pum Mlynedd yn Ddiweddarach [PDF 271KB Agorir mewn ffenest newydd]
Capital Law, Phil Jones
A dewis i fynychu dau o'r gweithdai canlynol:
-
Gwir Fuddion Telemateg [PDF 1.74MB Agorir mewn ffenest newydd]
Heddlu De Cymru, Ray Forsey -
Adolygu eich Cludiant Teithwyr Integredig a Fflyd [PDF 563KB Agorir mewn ffenest newydd]
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Lee Robinson -
O Ble Mae'r Carbon yn Dod? [PDF 378KB Agorir mewn ffenest newydd]
Ymddiriedolaeth Arbed Ynni, David Nicholas neu Helen Moor