Trawsgrifiad fideo [PDF 169KB Agorir mewn ffenest newydd]
Cynhaliwyd seminar yn rhad ac am ddim ar Reoli Adeiladau gan Swyddfa Archwilio Cymru, Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth ac Arfer Da Cymru. Roedd y seminar yn dwyn ynghyd yr arferion mwyaf cyfredol ar draws Cymru a thu hwnt. Erbyn diwedd y seminar, roedd cynrychiolwyr wedi rhannu a dysgu dulliau gwahanol o ran rheoli adeiladau, gan eu galluogi nhw i gyflawni mwy gyda llai o adnoddau.
Gellir gwylio'r cyflwynwyr yn trafod eu cyfraniad [Agorir mewn ffenest newydd] i’r seminar.
Roedd y seminar wedi ei anelu at reolwyr a swyddogion â chyfrifoldeb dros:
- Rheoli adeiladau;
- Rheoli cyfleusterau;
- Rheoli asedau a chynllunio; a
- Datblygu cynaliadwy.
Amlinelliad o’r seminar
Roedd y seminar yn cynnwys sesiynau arddangos llawn:
-
Dull Cydgysylltiedig o Reoli Asedau (Yn Saesneg unig) [PDF 681KB Agorir mewn ffenest newydd]
Cyngor West Lothian, Paul Kettrick -
Trosglwyddo Asedau Cymunedol [PDF 1.19MB Agorir mewn ffenest newydd]
Cronfa'r Loteri Fawr, Robert Roffe
A dewis i fynychu dau o'r gweithdai canlynol:
-
Rhannu a Chyd-weithio - Partneriaeth 'Pathfinder' (Yn Saesneg unig) [PDF 579KB Agorir mewn ffenest newydd]
Cyngor Sir Caerwrangon, Peter Parkes neu Alan Stokes -
Symleiddio eich Eiddo - profiad yn dilyn uno cwmnïau (Yn Saesneg unig) [PDF 1MB Agorir mewn ffenest newydd]
Cyfoeth Naturiol Cymru, Antony Wallis -
Cyllid a rhannu safle - gwersi o addysg bellach (Yn Saesneg unig) [PDF 1.33MB Agorir mewn ffenest newydd]
Coleg y Cymoedd, Karen Phillips
Ble a Phryd
0900 - 1300
Dydd Iau 12 Rhagfyr 2013
Swyddfa Archwilio Cymru, 24 Heol y Gadeirlan, Caerdydd CF11 9LJ.
0900 - 1300
Dydd Mercher 8 Ionawr 2014
Glasdir, Plas yn Dre, Llanrwst, Conwy, LL26 0DF