Shared Learning Webinar
Paned a Sgwrs - CEIC
Rhywbeth Difyr gyda Rhywun Difyr
Ynglŷn â'r digwyddiad hwn

Ydych chi'n ymwybodol o'r Economi Gylchol, ond eisiau dysgu mwy?

Os felly, mae gennym ni rywbeth difyr gyda rhywun difyr i chi!

Bydd Jill Davies o Gymunedau Arloesi'r Economi Gylchol (CEIC) yn cyflwyno gwaith CEIC dros y blynyddoedd diwethaf ble maent wedi bod yn datblygu sgiliau a gwybodaeth arloesi ymysg busnesau Cymreig er mwyn cefnogi twf gwyrdd a dyfodol cynaliadwy i Gymru.

Mae CEIC yn dod a sefydliadau at ei gilydd o bob sector yn Ne Cymru er mwyn gweithio tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy trwy greu rhwydweithiau arloesi cydweithredol. Gan gydweithio gyda phartneriaid o'r byd busnes a'r trydydd sector, mae rhaglen CEIC (sydd wedi ei chyllido'n llawn) yn ceisio datblygu'r ddealltwriaeth o'r economi gylchol ac annog cynlluniau arloesi sydd yn gynaliadwy.

Gan gynnal rhaglenni estynedig sy'n ymateb i broblemau yn y byd go iawn gan ddefnyddio egwyddorion cynalawyedd ac economi gylchol, mae CEIC yn hwyluso datblygu cymunedau ymarfer i rannu syniadau, ysbrydoli a datblygu gwybodaeth. Trwy ddod a grŵp amrywiol o bobl at ei gilydd, ceisia CEIC annog datblygiad cynlluniau arloesi fydd yn annog buddsoddiad bellach a gyrru newid gweladwy.

Os hoffech gael eich hysbysu, cofrestrwch a dilynwch y digwyddiad hwn

Bydd rhagor o wybodaeth am y digwyddiad hwn yn cael ei ychwanegu yn fuan