Trawsgrifiad Fideo [Word 143KB Agorir mewn ffenest newydd]
Mae gan Gymru boblogaeth sydd â’r gyfran fwyaf o bobl hŷn yn y DU. Mae bron i un o bob pump (19%) o boblogaeth Cymru’n 65 oed a hŷn erbyn hyn. Mae disgwyl i’r nifer hwn gynyddu 50 y cant rhwng 2012 a 2037, gan greu gofynion cynyddol o bosib i wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.
Er mwyn atal y gofynion hyn rhag cynyddu, mae’n rhaid i wasanaethau cyhoeddus newid y ffordd y cyflwynir gwasanaethau ar hyn o bryd, a meddwl am ffyrdd arloesol a chost effeithiol o sicrhau bod pobl hŷn yn cael y cyfleoedd gorau posib i barhau i fyw’n annibynnol.
Roedd y seminar hon yn darparu enghreifftiau o wasanaethau sy’n cyflawni’r canlynol:
- cefnogi pobl hŷn i fyw’n annibynnol yn eu cartrefi a’u cymunedau eu hunain
- darparu datrysiadau arloesol i ynysu cymdeithasol ac unigrwydd, a
- darparu dulliau creadigol o weithio ar gyfer cyfleoedd dysgu gydol oes y mae eu gwir angen.
Nod y seminar hon oedd cynrychioli llais pobl hŷn ledled Cymru, fel nad ydynt yn teimlo’n ynysig ac i atal gwahaniaethu yn eu herbyn. Hefyd i sicrhau eu bod yn derbyn y gefnogaeth a’r gwasanaethau y mae arnynt eu hangen.
At bwy oedd y digwyddiad wedi ei anelu
Roedd seminar hon ar gyfer rheolwyr a swyddogion y sector cyhoeddus a’r trydydd sector sy’n gyfrifol am y canlynol:
- iechyd
- gofal cymdeithasol
- tai
- awdurdodau tân a heddlu
- y llywodraeth ganolog
- arolygiaethau
- mentrau cymdeithasol/grwpiau cymunedol
Cyflwyniadau
Caerdydd
- Cylch Caron [PDF 2MB Agorir mewn ffenest newydd] - Teresa Owen, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Nerys Lewis a Parry Davies, Cyngor Sir Ceredigion
- Cynllun Grant bychan Cynhwysiant Cymunedol [PDF 301KB Agorir mewn ffenest newydd] - Delyth Pridding, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
- Gofal a Thrwsio Cymru [PDF 675KB Agorir mewn ffenest newydd] - Neil Williams, Gofal a Thrwsio Cymru
- Gwasanaeth llyfrgell achlysurol [PDF 1.6MB Agorir mewn ffenest newydd] - Christopher Edwards, Cyngor Sir Bro Morgannwg
Llanrwst
- Llyfr Amdanoch Chi [PDF 1.38MB Agorir mewn ffenest newydd] - Tom Barham, Book of You, Comisiwn Iechyd Cymru
- Cynhwsiant Digidol - Kevin Roberts, Cymunedau Digidol Cymru
- Gwasanaeth Atal Codymau Sir Ddinbych [PDF 1.06MB Agorir mewn ffenest newydd] - Jane Boyd, Cyngor Sir Ddinbych/ Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr