• Uwch Archwilydd
    £42,729 - £49,600
    Mae'r cyflog wrth apwyntiad o leiaf yr ystod
    Cymru

Ynglŷn â'r swydd hon

Description

Mae ar Archwilio Cymru eisiau recriwtio Uwch Archwilwyr parhaol ac am gyfnod penodedig i ymuno â’n tîm Gwasanaethau Archwilio gyda swyddi gwag ar gael ledled Cymru.

Ydych chi’n gweithio o fewn tîm cyllid ar hyn o bryd ond yn chwilio am her newydd neu’n gweithio ym maes archwilio ond â’ch bryd ar brofi her gweithio mewn sector newydd?

Ydych? Os felly, efallai mai ein rôl Uwch Archwilydd yw’r hyn yr ydych yn chwilio amdano. Byddwch yn gyfrifydd â chymhwyster CCAB a phrofiad naill ai ym maes archwilio neu o fewn lleoliad cyfrifyddu. Mae profiad o’r sector cyhoeddus yn ddymunol ond nid yw’n hanfodol, ond byddwch yn ymrwymedig i weithio fel rhan o dîm, ac yn awyddus i wella deilliannau i ddinasyddion Cymru.

Rydym yn chwilio am bobl sy’n gryf iawn eu cymhelliant i fod yn rhan o’n timau egnïol a chydnerth. Byddwch yn hyderus yn cynnal perchnogaeth ar eich gwaith eich hun a byddwch yn cynnig eich profiad o gyfrifyddu ac archwilio trwy eich achrediad CCAB.

Mae bod yn WYCH yn ganolog i bopeth a wnawn, ac rydym yn chwilio am rywun ag awch i wneud gwahaniaeth i’r sector cyhoeddus trwy grebwyll cadarn a sgiliau dadansoddi a chyfathrebu rhagorol. 

Pwy yw Archwilio Cymru

Archwilio Cymru yw corff archwilio annibynnol y sector cyhoeddus yng Nghymru. Mae gennym le unigryw yn sector cyhoeddus Cymru, a’n rôl yw:

  • Rhoi sicrwydd i bobl Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei reoli’n dda trwy ein harchwiliadau blynyddol o gyfrifon y sector cyhoeddus.
  • Egluro sut mae arian cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio a sut mae’n diwallu anghenion pobl trwy ein hastudiaethau Gwerth am Arian.
  • Ysbrydoli a grymuso’r rhai yr ydym yn gweithio gyda hwy i wella’n barhaus trwy rannu mentrau ac arfer gorau.

Gweithio i ni

Mae Archwilio Cymru’n lle deinamig a chyfeillgar i weithio, gyda diwylliant anhygoel o gefnogol. Rydym yn frwd dros weithio gyda sector cyhoeddus Cymru a gwneud gwahaniaeth i gymunedau lleol.

Rydym yn Hyblyg – Rydym yn gweithio’n Ddoethach; gan ddarparu dewisiadau o ran sut, pryd a ble y mae unigolion a thimau’n gwneud eu gwaith – rydym yn ymddiried ynoch chi i wneud y dewis cywir i gyflawni'r dasg dan sylw gan eich cefnogi yn eich amgylchiadau unigol, boed hynny’n golygu cyfrifoldebau gofalu neu reoli anableddau.

Mae gennym Delerau Rhagorol – Mae gennym feddwl gwirioneddol fawr o’n pobl ac o ddarparu amgylchedd sy’n hybu cydbwysedd cadarnhaol rhwng bywyd a gwaith trwy ein hwythnos waith 35 awr, a’n 33 diwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn (heb gynnwys gwyliau banc cyhoeddus). Gallwch hefyd brynu gwyliau blynyddol, ei werthu a’i roi yn y ‘banc’ i’ch galluogi i gael gwyliau estynedig.

Rydym yn buddsoddi yn ein Pobl – Rydym o blaid datblygiad personol a phroffesiynol ac yn buddsoddi yn ein pobl i wireddu eu dyheadau gyrfaol i fod y gorau y gallant fod. Rydym yn cynnig pecyn hyfforddi hael a ategir gan ddull cyfunol o ddysgu strwythuredig a di-strwythur. O’n cynllun mentora a choetsio llwyddiannus i’n trwyddedau LinkedIn Learning rydym yn rhoi’r cyfle i staff ddysgu ar adegau ac mewn ffyrdd sy’n gweddu iddynt hwy.

Mae gennym Fuddion Rhagorol – Ochr yn ochr â’n pecyn cyflog hael, rydym yn cynnig cyfle i bob cyflogai ymuno â Chynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil yr ystyrir ei fod yn un o’r cynlluniau gorau o ran cyfraddau cyfraniadau cyflogwr. Mae ein buddion ar gyfer staff hefyd yn cynnwys cynllun beicio i’r gwaith, disgowntiau siopa a’r opsiwn i gael cerbyd trwy gynllun prydlesu llesiannol a llawer mwy.

Rydym yn Falch o’n Hachrediad – Rydym yn falch o fod yn gyflogwr Teuluoedd sy’n Gweithio a Change 100 ac rydym wedi ennill achrediad Cyflog Byw.

Rydym yn tyfu gweithlu amrywiol sy’n cynrychioli’r cymunedau yr ydym yn gweithio ynddynt a’r sgiliau, y profiadau a’r safbwyntiau y maent yn eu cynnig ac rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir. Rydym hefyd yn aelod o’r Cynllun Hyderus o ran Anabledd ac yn gwarantu cyfweld â’r holl ymgeiswyr anabl sy’n bodloni'r meini prawf hanfodol ar gyfer y rôl.

Sut beth yw gweithio yn y Gwasanaethau Archwilio

Fel Uwch Archwilydd, byddwch yn gweithio yn y Gwasanaethau Archwilio sy’n gyfrifol am gyflawni gwaith archwilio ariannol ac archwilio perfformiad. Mae’r rolau sydd ar gael yn rhoi cymorth i gyflawni’r archwiliadau ariannol o gleientiaid y sector cyhoeddus. Mae ein timau wedi’u rhannu’n ddaearyddol ledled Cymru; y Gogledd, y Gorllewin a’r De a bydd rhanbarth yn cael ei ddyrannu i unigolion. Bydd gan ymgeiswyr llwyddiannus bortffolio o gleientiaid o bob rhan o’r sector cyhoeddus, a hynny’n cwmpasu llywodraeth ganolog, llywodraeth leol a’r GIG. Er y byddai profiad o’r sectorau hyn yn fanteisiol, nid yw’n hanfodol, a bydd hyfforddiant a chymorth llawn yn cael eu rhoi.

Mae Uwch Archwilwyr yn gyfrifol am gefnogi ein Harweinwyr Archwilio ar archwiliadau mwy, sy’n fwy cymhleth ac maent hefyd yn bennaf gyfrifol am gyflawni archwiliadau o gleientiaid llai. Byddech hefyd yn rhoi cymorth i oruchwylio staff iau.

Er ein bod yn gweithredu model gweithio hybrid, i roi cymorth i gyflawni ein gwaith yn llwyddiannus a chefnogi cydweithwyr, mae disgwyl i Uwch Archwilwyr fod ar y safle gyda’u timau am o leiaf ddau ddiwrnod yr wythnos.

Rhagor o wybodaeth

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y cyfrifoldebau, y sgiliau a’r profiad sy’n ofynnol ar gyfer y rôl yn y swydd ddisgrifiad. I gael trafodaeth anffurfiol am y cyfle cyffrous hwn, cysylltwch â Clare James neu Rhodri Davies ar 029 2032 0500.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw hanner nos ar 4 Ionawr 2023. Sylwer y bydd proses ddethol ac iddi ddau gam ar gyfer y swydd hon. Yn dilyn nithio eich cais ar-lein, bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu gwahodd i gyfranogi mewn asesiad a fydd yn cynnwys cyfweliad ac ymarfer technegol. Bydd yr holl asesiadau a chyfweliadau’n cael eu cwblhau yn y cnawd yn ein Swyddfa yng Nghaerdydd.

Wrth ymgeisio ar-lein cofiwch bwyso’r botwm parhau yn dilyn cyflwyno eich cais – unwaith y byddwch wedi gwneud hyn byddwch yn cael cydnabyddiaeth i gadarnhau bod eich cais wedi cael ei gyflwyno. Os nad ydych yn cael cydnabyddiaeth, cysylltwch â’n Tîm Adnoddau Dynol ar unwaith ar 02920 320500 neu drwy AdnoddauDynolaChyflogres@archwilio.cymru

Sylwer nad ydym yn gallu noddi fisas gwaith.

Dyddiad Cau

  • 16/01/2023
Darganfyddwch sut brofiad yw gweithio yn Archwilio CymruDarllen mwy