• Arweinydd Dadansoddi Data
    £63,137 - £73,129 (band cyflog 5)
    Bydd y cyflog yn cychwyn ar bwynt isaf y raddfa.
    Caerdydd

Ynglŷn â'r swydd hon

Description

Ynglŷn â’r rôl

Ydych chi'n frwd dros ddata? Ydych chi'n wyddonydd data profiadol sy'n barod am eich cam nesaf yn eich gyrfa? Ydych chi eisiau gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'r sector cyhoeddus yng Nghymru? Os felly, ymunwch ag Archwilio Cymru fel Arweinydd Dadansoddi Data.


Mae hon yn gyfle cyffrous i berson hynod frwdfrydig fod yn rhan o'n tîm Dadansoddi Data egnïol ac arloesol. Byddwch yn hyderus wrth arwain prosiectau data cymhleth a chyflym mewn modd ystwyth. Bydd gennych sgiliau wrth gynnal perthnasoedd â rhanddeiliaid, a byddwch yn gwbl ymroddedig i weithio'n agos gyda defnyddwyr i ddeall eu hanghenion. A bydd gennych brofiad amlwg o reoli timau ac unigolion.


Pwy yw Archwilio Cymru


Archwilio Cymru yw'r corff archwilio annibynnol ar gyfer y sector cyhoeddus yng Nghymru. Rydym yn dal safle unigryw o fewn sector cyhoeddus Cymru, lle ein rôl yw:

 

  • Sicrhau pobl Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei reoli'n dda drwy ein harchwiliad blynyddol o gyfrifon y sector cyhoeddus.
  • Egluro sut y caiff arian cyhoeddus ei ddefnyddio a sut y mae'n diwallu anghenion pobl drwy ein hastudiaethau Gwerth am Arian.
  • Ysbrydoli a grymuso'r rhai rydym yn gweithio gyda nhw i wella'n barhaus drwy rannu mentrau ac arferion gorau.

Gweithio i ni

Mae Archwilio Cymru yn lle deinamig a chyfeillgar i weithio, gyda diwylliant hynod gefnogol. Rydym yn frwd dros weithio gyda sector cyhoeddus Cymru ac am wneud gwahaniaeth i gymunedau lleol.

Rydym yn hyblyg 

Rydym yn hwyluso’r drefn, gan ddarparu dewisiadau ynghylch sut, pryd a ble mae unigolion a thimau yn cyflawni eu gwaith – rydym yn ymddiried ynoch i wneud y dewis cywir i gyflawni'r dasg dan sylw, wrth eich cefnogi yn eich amgylchiadau unigol, boed hynny'n gyfrifoldebau gofalu neu ymdopi ag anableddau. Rydym hefyd yn croesawu amrywiaeth o batrymau gweithio, gan gynnwys gwaith amser llawn, rhan-amser a rhannu swyddi ar draws y sefydliad.

Mae gennym delerau rhagorol 

Mae ein pobl yn wirioneddol bwysig i ni, yn ogystal â darparu amgylchedd sy'n annog cydbwysedd cadarnhaol rhwng bywyd a gwaith, drwy ein hwythnos waith 33 awr a'n lwfans gwyliau blynyddol o 33 diwrnod (heb gynnwys gwyliau banc cyhoeddus). Gallwch hefyd brynu, gwerthu a rhoi gwyliau yn y ‘banc’ er mwyn galluogi gwyliau estynedig.

Rydym yn buddsoddi yn ein pobl 

Rydym yn hyrwyddo datblygiad personol a phroffesiynol, ac yn buddsoddi yn ein pobl i'w galluogi i wireddu eu dyheadau gyrfa a bod y gorau y gallant fod. Rydym yn cynnig pecyn hyfforddiant hael, a ategir gan ddull cyfunol o ddysgu strwythuredig ac anstrwythuredig.

Mae gennym fuddion rhagorol 

Ochr yn ochr â'n pecyn cyflog hael, rydym yn cynnig cyfle i bob gweithiwr ymuno â Chynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil a ystyrir yn un o'r cyfraddau cyfraniadau cyflogwyr gorau. Mae ein buddion staff hefyd yn cynnwys oriau cywasgedig, lle gallwch gywasgu hyd at 10% o'ch oriau gwaith dros gyfnod o bythefnos - sydd fel arfer yn golygu gweithio 9 diwrnod allan o 10. Yn ogystal, mae gennym gynllun beicio i'r gwaith rhagorol, gostyngiadau siopa a'r opsiwn i gael cerbyd drwy ein cynllun prydlesu manteisiol, ymhlith llawer o bethau eraill.

Rydym yn falch o fod wedi ennill achrediad 

Mae ein diwylliant a’n buddion rhagorol sy’n cefnogi teuluoedd yn golygu ein bod yn falch o fod ymhlith y deg cyflogwr gorau yn ôl mudiad ‘Working Families’, safle rydym wedi’i gynnal am y tair blynedd diwethaf; rydym hefyd wedi ennill achrediad y Cyflog Byw ac yn cydnabod anableddau cudd ymhlith ein gweithlu a’r rhai rydym yn gweithio gyda nhw.

 

Rydym yn datblygu gweithlu amrywiol sy'n cynrychioli'r cymunedau rydym yn gweithio ynddynt a'r sgiliau, y profiadau a'r safbwyntiau sydd ganddynt i'w cynnig, ac rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir. Rydym hefyd yn aelod o'r cynllun Hyderus o ran Anabledd ac yn gwarantu cyfweld â phob ymgeisydd anabl sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ar gyfer y rôl.

Sut beth yw gweithio yn y tîm Dadansoddi Data

Mae gweledigaeth ddata Archwilio Cymru, Gwneud i Ddata Gyfrif, yn nodi uchelgais i ni ddod yn sefydliad sy'n hyddysg ym maes data, lle mae data da yn rhan annatod o'n gwaith. Ei nod yw galluogi defnyddio data yn ein gwaith archwilio, gan arbed amser i archwilwyr a gwella ansawdd yr archwiliad drwy hwyluso penderfyniadau gwell. Mae hefyd yn anelu at gynhyrchion archwilio sy'n llawn data er mwyn ymestyn ein cyrhaeddiad i gynulleidfaoedd ehangach, gan ddarparu dyfnder newydd o fewnwelediad a hyrwyddo atebolrwydd, tryloywder a gwelliant yn y sector cyhoeddus.

 

Mae tîm Dadansoddi Data (DA) Archwilio Cymru yn frwd dros ddata, ac yn gyfrifol am ddarparu arbenigedd ac arweinyddiaeth i ysgogi cyflawniad y weledigaeth ddata. Rydym yn gweithio ar ystod eang o brosiectau data hynod ddiddorol ac arloesol, gan gydweithio'n agos â'n cydweithwyr archwilio.

Ein proses asesu

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais am y rôl hon, nodwch y bydd eich cais yn cael ei sifftio i benderfynu a ydych yn addas i symud ymlaen i gyfweliad ac asesu.

 

Bydd y sifftio, a'r camau cyfweliad ac asesu dilynol, yn adolygu'r meini prawf canlynol.

 

Byddai hefyd yn ddymunol i ddeiliad y swydd ddangos y meini prawf hyn:

  • Diddordeb mewn deallusrwydd artiffisial (AI), gyda phrofiad o ddefnyddio modelau AI yn ei waith.
  • Profiad o sganio'r gorwel, gan ddangos diddordeb parhaus mewn technolegau sy'n dod i'r amlwg.
  • Profiad o ddefnyddio Microsoft Copilot, gyda gwybodaeth ymarferol am ei gryfderau a'i wendidau.

Dysgwch fwy

Gallwch ddysgu mwy am y cyfrifoldebau, y sgiliau a'r profiad sydd eu hangen ar gyfer y rôl yn y disgrifiad swydd. Am drafodaeth anffurfiol ynghylch y cyfle cyffrous hwn, cysylltwch â Steve Lisle (stephen.lisle@archwilio.cymru) neu Helen Goddard (helen.goddard@archwilio.cymru).

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 23:59 y nos ar y 7fed o Awst 2026.

Cynhelir yr holl asesiadau a chyfweliadau wyneb yn wyneb yn ein swyddfa yng Nghaerdydd – 1 Cwr y Ddinas, Stryd Tyndall, Caerdydd, CF10 4BZ.


Wrth wneud cais ar-lein, cofiwch bwyso'r botwm 'parhau' ar ôl cyflwyno eich cais – unwaith y byddwch wedi gwneud hyn, cewch gydnabyddiaeth yn cadarnhau bod eich cais wedi'i gyflwyno. Os na chewch gydnabyddiaeth, cysylltwch â'n Tîm Adnoddau Dynol ar unwaith ar 02920 320500 neu drwy HRandPayroll@audit.wales

Rydym yn croesawu ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg; ni chaiff cais a gyflwynir yn Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

 

Noder hefyd nad ydym yn gallu noddi fisâu gwaith.

Dyddiad Cau

  • 07/08/2026