• Archwilwyr Wrth Gefn
    £ 37,573 (band cyflog 3) £20.64 yr awr
    Mae'r cyflog wrth apwyntiad o leiaf yr ystod
    Cymru

Ynglŷn â'r swydd hon

Description

Ein swydd yn Archwilio Cymru yw archwilio sut mae cyrff cyhoeddus yn rheoli ac yn gwario arian cyhoeddus, gan gynnwys sut y maent yn sicrhau gwerth wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus. 

Ein nod yw i:

  • Rhoi sicrwydd i bobl Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei reoli'n dda
  • Egluro sut mae arian cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio a sut mae'n diwallu anghenion pobl 
  • Ysbrydoli a grymuso'r sector cyhoeddus yng Nghymru i wella.

Fel rhan o'n gwaith, rydym yn awyddus i ddefnyddio Archwilwyr Wrth Gefn cymwysedig CCAB i ddarparu cymorth tymor byr, ad hoc wrth gynnal ein harchwiliadau cyfrifon.

Mae lleoliad ein swyddi Archwilwyr Wrth Gefn yn hyblyg ac mae cyfleoedd ar gael ledled Cymru.

Oherwydd natur y gwaith sydd ar gael, cynigir y swyddi hyn ar sail wrth gefn yn unig, ni allwn roi unrhyw oriau penodol o waith ac nid oes rheidrwydd ar ymgeiswyr llwyddiannus i dderbyn gwaith.

Mae ein gwerthoedd a'n hymddygiadau yn Archwilio Cymru yn diffinio'r ffordd rydym yn gweithio a sut rydym yn gweithio gyda'n gilydd i gyflawni ein nodau. Mae ein holl bobl wedi ymrwymo'n llwyr i ddangos ein gwerthoedd a'n hymddygiadau fel y gallwn weithio'n effeithiol gyda'n gilydd a gwneud penderfyniadau da. Maen nhw'n ein helpu ni i fod y gorau y gallwn ni fod ac yn sicrhau bod gennym y sgiliau a'r profiadau cywir yn y lle iawn.

Mae ein gwerthoedd wedi'u cynllunio gan staff i helpu i gynyddu amrywiaeth ein gweithlu, yn enwedig ar y lefelau uwch, a datblygu diwylliant hyfforddi i sicrhau amodau ffyniannus ar gyfer llwyddiant sefydliadol.

Disgwyliwn i ymgeiswyr llwyddiannus gyfrannu'n llawn at feithrin diwylliant cadarnhaol a'n helpu i dyfu drwy fyw ein gwerthoedd a'n hymddygiad.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y cyfrifoldebau, y sgiliau a'r profiad sydd eu hangen yn y disgrifiad swydd.  Am drafodaeth anffurfiol am y swydd cysylltwch â Lisa Williams ar 029 20320500

Sylwer: mae ein swyddfeydd ar hyn o bryd ar gau a bydd pob cyfweliad yn cael ei gynnal ar-lein

Mae Archwilio Cymru yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan bawb, gan gynnwys grwpiau sydd wedi'u tangynrychioli ar hyn o bryd yn ein gweithlu megis pobl o gefndir Ddu, Asiaidd neu Leiafrif Ethnig a phobl anabl.

Mae Archwilio Cymru yn gyflogwr hyblyg

Dyddiad Cau

  • 31/12/2022
Darganfyddwch sut brofiad yw gweithio yn Archwilio CymruDarllen mwy