Mae anodd profi bod dulliau ataliol yn talu

Thursday, September 21, 2017 - 3:51pm

Mae Seth Newman yn sôn rhagor am ein hadolygiad [yn agor mewn ffenestr newydd] o Raglen Cefnogi Pobl Llywodraeth Cymru (y Rhaglen) a gynhaliwyd yn ddiweddar. Mae’n ystyried yr anawsterau sydd ynghlwm wrth geisio gwerthuso’r Rhaglen a rhaglenni ataliol tebyg.

Mae Cefnogi Pobl [yn agor mewn ffenestr newydd], a gyflwynwyd yn 2003, yn helpu amrywiaeth eang o bobl agored i niwed drwy roi’r sgiliau a’r hyder sy’n caniatáu iddynt fyw’n annibynnol, ac sydd, drwy hynny, yn lleihau’r galw ar wasanaethau cyhoeddus eraill, fel ysbytai neu gartrefi gofal preswyl. Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru yn gwario tua £125 miliwn y flwyddyn ar y Rhaglen.

Daeth yr adolygiad cynhwysfawr diwethaf o’r Rhaglen, a gynhaliwyd yn 2010 [yn agor mewn ffenestr newydd] i’r casgliad bod difäwr angen mabwysiadu system fwy cadarn o werthuso gwasanaethau Cefnogi Pobl. Ymatebodd Llywodraeth Cymru drwy gyflwyno ‘fframwaith canlyniadau’ newydd yn 2012, i geisio mesur sut roedd lles unigolion wedi gwella oherwydd y Rhaglen.  Yn ein hadroddiad Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus [yn agor mewn ffenestr newydd] a gyhoeddwyd yn 2015, amlygwyd bod diddordeb cynyddol mewn mesur ‘canlyniadau personol’, gan ddangos sut y gellir integreiddio canlyniadau personol yn y fframwaith cofnodi canlyniadau cenedlaethol.

Fodd bynnag, yn ein hadroddiad diweddaraf ar Gefnogi Pobl, tynnwyd sylw at nifer o gyfyngiadau yn y modd y mae Llywodraeth Cymru yn gwerthuso Cefnogi Pobl, sy’n ei gwneud yn anodd llunio barn gynhwysfawr am lwyddiant y Rhaglen. Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu adolygu’r fframwaith canlyniadau ac mae wedi cwblhau ymgynghoriad  [yn agor mewn ffenestr newydd] yn ddiweddar ynghylch ei chynigion i fynd i’r afael â rhai o’r pryderon presennol.

Hefyd, comisiynydd Llywodraeth Cymru ymchwil (Saesneg yn unig) [yn agor mewn ffenestr newydd], a gyhoeddwyd yn 2016, yn archwilio’r posibilrwydd o ddefnyddio system cysylltu data [yn agor mewn ffenestr newydd] i werthuso’r Rhaglen. Mae rhywfaint o dystiolaeth yn codi o’r gwaith hwn yn dangos nad yw’r rhai sy’n cael cymorth drwy’r Rhaglen yn defnyddio gwasanaethau iechyd mor aml â’r rhai mewn grŵp rheolydd. Fodd bynnag, yn yr adroddiad a gyhoeddwyd yn 2016, tanlinellwyd hefyd fod angen set ddata ehangach a mwy dibynadwy cyn penderfynu’n derfynol ar effaith y Rhaglen ar y galw am wasanaethau iechyd. Ers hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu rhagor o waith ymchwil dros y blynyddoedd nesaf i wella ansawdd y data ac i chwilio am dystiolaeth am effaith ymyriadau Cefnogi Pobl ar agweddau eraill ar wasanaethau cyhoeddus, fel y gwasanaethau cymdeithasol.

At hyn, mae rhai awdurdodau lleol wedi cynhyrchu enghreifftiau o astudiaethau achos (Saesneg yn unig) [yn agor mewn ffenestr newydd] sy’n tynnu sylw at y modd y gall ymyriadau Cefnogi Pobl sicrhau arbedion posibl mewn gwasanaethau statudol eraill. Mae’r astudiaethau achos yn amlinellu’r gwahanol ffyrdd y mae’r Rhaglen wedi helpu pobl sydd â salwch meddwl neu broblemau camddefnyddio alcohol a chyffuriau, pobl sy’n cael eu cam-drin yn ddomestig a phobl ifanc sy’n gadael y system gofal.

Pan gyhoeddwyd ein hadroddiad, cafwyd ymateb cryf ar y cyfryngau cymdeithasol gan amrywiaeth eang o bobl sy’n ymwneud â gwasanaethau a gaiff eu hariannu gan y Rhaglen, neu bobl y mae gwasanaethau o’r fath yn effeithio arnynt. Roedd mwyafrif llethol y sgyrsiau ar-lein yn dangos bod pobl yn credu bod y Rhaglen yn darparu gwasanaethau hanfodol i bobl sy’n agored i niwed.

Yn ôl ein hadolygiadau ni, ac adolygiadau gan gyrff eraill, mae Llywodraeth Cymru wedi wynebu anawsterau tebyg wrth geisio dangos effeithiau rhai o rhaglenni ataliol eraill. Aethom ati i gynnal adolygiad [yn agor mewn ffenestr newydd] o werth am arian rhaglen Cymunedau yn Gyntaf yn ôl yn 2009. Er i’r adolygiad ddod o hyd i enghreifftiau clir o fuddion lleol, daeth i’r casgliad nad oedd y Llywodraeth a oedd mewn grym ar y pryd yn gallu dangos bod y rhaglen, yn gyffredinol, yn cyflawni ei hamcanion. Yn fwy diweddar,  cyhoeddwyd adolygiad o brosesau [yn agor mewn ffenestr newydd] yn 2015 ac adroddiad yn esbonio’r gwersi a ddysgwyd [yn agor mewn ffenestr newydd], a gynhyrchwyd gan Bwyllgor Llywodraeth Leol a Chymunedau Cynulliad Cenedlaethol Cymru  ym mis Gorffennaf 2017, yn amlygu’r gwendidau sy’n parhau yn nhrefniadau rheoli a gwerthuso perfformiad Cymunedau yn Gyntaf.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi comisiynu ‘asesiadau o’r graddau y gellir gwerthuso’ [yn agor mewn ffenestr newydd] rhaglenni Dechrau’n Deg a Theuluoedd yn Gyntaf sydd wedi amlygu problemau tebyg. Yn ôl asesiadau mis Tachwedd 2016 [yn agor mewn ffenestr newydd] a mis Mai 2017 [yn agor mewn ffenestr newydd], hyd yma, nid oes digon o dystiolaeth i asesu effeithiau’r ddwy raglen yn llawn, er eu bod ar waith ers blynyddoedd lawer. Roedd yn asesiadau’n cynnwys argymhellion ynghylch sut y dylid gwerthuso’r rhaglenni’n fwy cadarn yn y dyfodol.

Fodd bynnag, rydym yn llawn sylweddoli bod anawsterau ynghlwm wrth geisio dangos effeithiau rhaglenni ataliol o’r fath ar fywydau unigolion a gwasanaethau cyhoeddus eraill, yn enwedig y rhaglen Cefnogi Pobl, sy’n cynorthwyo amrywiaeth anhygoel o bobl drwy gynnig gwasanaethau sydd yr un mor amrywiol. Mae rhaglenni ataliol ac, yn wir, rhaglenni eraill a ariennir o’r pwrs cyhoeddus, yn wynebu’r her o briodoli unrhyw newidiadau er gwell mewn canlyniadau personol i effaith y rhaglen, a hynny oherwydd bod yr unigolion sy’n cael eu cynorthwyo’n aml yn cael cymorth gan amrywiaeth o wasanaethau cyhoeddus eraill hefyd. Un ffodd o briodoli newidiadau o’r fath i raglen benodol yw drwy gynnal ymchwil hydredol ac ansoddol trylwyr, ac nid oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw gynlluniau i gynnal gwaith gwerthuso o’r fath.

Hefyd, wrth gwrs, mae’n hynod anodd profi beth fyddai wedi digwydd pe na bai’r Rhaglen yn bod.  Mae’r astudiaethau achos a nodir uchod yn dangos sut y gall ymyriadau Cefnogi Pobl sicrhau arbedion posibl i wasanaethau cyhoeddus eraill. Fodd bynnag, yn ymarferol, mae’n anodd cadarnhau a fyddent wedi gorfod ysgwyddo’r costau hyn oni bai am yr ymyriadau dan sylw. Un ffordd o gael syniad o’r hyn a allai fod wedi digwydd oni bai am y Rhaglen, yw sefydlu grŵp rheolydd a chymharu canlyniadau’r rhai sy’n rhan o’r Rhaglen â chanlyniadau’r grŵp rheolydd. Mae Llywodraeth Cymru yn gwneud hyn gan ddefnyddio’r gwaith cysylltu data a ddisgrifiwyd uchod. Dros gyfnod, mae’n bosibl y gallai’r gwaith hwn arwain at ddadansoddiad cost a budd o’r Rhaglen.

Yn ystod gwanwyn 2018 bydd Swyddfa Archwilio Cymru yn cynlluynio digwyddiad ar y thema yma er mwyn ymateb i’r heriau hyn fel rhan o’i raglan Gyfnewidfa Arfer Da. Nid yw union gylch gwaith y digwyddiad hwn wedi cael ei benderfynu eto, ond cadwch lygad am fwy o fanylion [yn agor mewn ffenestr newydd].

Ynghylch yr awdur

Ymunodd Seth Newman â Swyddfa Archwilio Cymru o swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru 18 mis yn ôl. Mae wedi gweithio i amryw o awdurdodau lleol yn Ne Cymru yn ogystal â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac Uned Data Llywodraeth Leol. Mae ei gefndir mewn Diogelwch cymunedol a throseddeg