Atal dychwelyd i gysgu allan ar ôl y pandemig

Thursday, July 23, 2020 - 9:37am

Dengys ein hymchwil fod y sector cyhoeddus wedi bod yn gwario hyd at £210 miliwn yn adweithio i gysgu allan, yn hytrach na’i hatal – mae hyn yn wastraff arian

Mae pandemig COVID-19 yn gyfle i gyrff cyhoeddus ddechrau mynd i’r afael â gwendidau o ran gweithio mewn partneriaeth i helpu i fynd i’r afael â chysgu allan.

Yn ôl canfyddiadau ein hadroddiad, er bod llawer o gyff cyhoeddus wedi bod yn gweithio gyda phobl a oedd yn cysgu allan dros y blynyddoedd diwethaf, nid oedd gwasanaethau wastad wedi’u cydgysylltu ac yn helpu pobl pan oedd angen hynny arnynt. Canfuom nifer o enghreifftiau o bobl yn cael eu cynorthwyo i symud oddi ar y strydoedd ac i mewn i lety dros dro, ond nid oeddent yn cael y cymorth yr oedd ei angen arnynt i fynd i’r afael ag achosion sylfaenol eu digartrefedd ac roeddent yn aml yn diweddu’n ôl lle dechreuon nhw. 

Mae gwir nifer y pobl yn cysgu allan yng Nghymru bob blwyddyn yn anhysbys. Yn seiliedig ar wybodaeth gan elusennau arbenigol sy’n gweithio gyda phobl sy’n cysgu allan, mae tua 3,000 o achosion o gysgu allan bob blwyddyn. Mae’r data diweddaraf a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn dangos bod nifer y bobl a oedd yn cysgu allan yn dal i gynyddu cyn y pandemig, gan gynyddu 17% rhwng mis Tachwedd 2018 a mis Tachwedd 2019.

Dengys ein hymchwil fod pobl sy’n cysgu allan yn ddiweddarach yn eu hoes yn aml wedi profi cam-drin domestig neu rywiol, problem camddefnyddio sylweddau, wedi cael eu cam-drin gartref, wedi profi anawsterau yn yr ysgol, neu wedi byw mewn tlodi o oedran ifanc.

I roi diwedd ar gysgu allan, mae angen i ddatrysiadau fynd i’r afael ag anghenion llety a chymorth ac mae angen i lawer o gyrff cyhoeddus – gan gynnwys cynghorau, yr Heddlu, cyrff iechyd, cymdeithasau tai ac eraill – newid y ffordd y maent yn gweithio a’r hyn y maent yn ei wneud i drechu problem cysgu allan. 

Rydym ni’n credu mai’r allwedd i drechu’r broblem hon yw bod cyrff cyhoeddus yn darparu un ymateb gan wasanaethau cyhoeddus sydd wedi’i dargedu at bobl sy’n cysgu allan. I ategu hyn, rydym wedi cynnwys offeryn hunanfyfyrio yn ein hadroddiad i gyrff cyhoeddus ei ddefnyddio i wella sut y gallant fynd i’r afael ag anghenion cymhleth ar y cyd yn y dyfodol.

Bu newid gwirioneddol a phwyslais go iawn ar gysgu allan ers i’r pandemig daro, gyda gwasanaethau cyhoeddus yn camu i fyny i helpu pobl i symud oddi ar y strydoedd ac i mewn i lety. Yn awr mae angen i wasanaethau cyhoeddus fanteisio ar y gwaith hwn a darparu datrysiadau tymor hwy i roi diwedd ar pobl yn cysgu ar ein strydoedd. 

Rwy’n credu, am y tro cyntaf mewn cenhedlaeth, bod dileu cysgu allan yng Nghymru’n bosibilrwydd. Mae ein hadroddiad yn nodi sut y gallwn ni i gyd weithio tuag at y nod hwn. Rhaid i gyrff cyhoeddus beidio â chanolbwyntio dim ond ar sicrhau bod gan bobl do uwch eu pennau; mae angen i’r holl bartneriaid gydweithio i fynd i’r afael ag achosion sylfaenol digartrefedd.

Adrian Crompton, yr Archwilydd Cyffredinol

Nodiadau i olygyddion:

  • Mae’r adroddiad hwn yn ystyried sut y gall cyrff cyhoeddus helpu i roi diwedd ar pobl yn cysgu allan yng Nghymru. Hwn yw gwaith ail gam ein hadolygiad o weithio mewn partneriaeth ac mae’n dilyn ein hadroddiad yn bwrw golwg ar Fyrddau Gwasanaethau Lleol a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2019.
  • Rydym wedi cynhyrchu dau flog cyn cyhoeddi’r adroddiad hwn – Rhan 1: Mwy na dim ond problem tai [agorir mewn ffenest newydd]; a Rhan 2: Effaith y coronafeirws ar bobl sy’n cysgu allan [agorir mewn ffenest newydd].
  • Fel rhan o’r gwaith hwn rydym wedi cynhyrchu offeryn data [agorir mewn ffenest newydd] gydag ymchwil fanwl arcysgu allan.
  • Yr Archwilydd Cyffredinol yw archwilydd allanol statudol annibynnol y sector cyhoeddus datganoledig yng Nghymru. Mae’n gyfrifol am fynd ati’n flynyddol i archwilio’r mwyafrif o’r arian cyhoeddus a gaiff ei wario yng Nghymru, gan gynnwys y £15 biliwn o arian y pleidleisir arno’n flynyddol gan Senedd Cymru. Caiff elfennau o’r cyllid hwn eu trosglwyddo gan Lywodraeth Cymru i’r GIG yng Nghymru (dros £7 biliwn) ac i lywodraeth leol (dros £4 biliwn).
  • Mae annibyniaeth archwilio’r Archwilydd Cyffredinol o’r pwys mwyaf. Fe’i penodir gan y Frenhines, ac nid yw ei waith archwilio’n cael ei gyfarwyddo na’i reoli gan Senedd Cymru na’r Llywodraeth. 
  • Corff corfforaethol sy’n cynnwys Bwrdd statudol ac iddo naw aelod yw Swyddfa Archwilio Cymru sy’n cyflogi staff ac yn darparu adnoddau eraill ar gyfer yr Archwilydd Cyffredinol, sydd hefyd yn gweithredu fel Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu’r Bwrdd. Mae’r Bwrdd yn monitro ac yn cynghori’r Archwilydd Cyffredinol, o ran arfer ei swyddogaethau.
  • Archwilio Cymru yw’r enw ymbarél ar gyfer Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru. Mae Archwilio Cymru yn nod masnach cofrestredig, ond nid yw’n endid cyfreithiol ynddo’i hun.