Mae’r adroddiadau hyn yn cwmpasu amrywiaeth o bynciau a fyddai o ddiddordeb i chi o bosib.

Mae modd i chi chwilio am adroddiad penodol drwy ddefnyddio’r teclyn chwilio. Gallwch roi gosodiadau chwilio i ddarganfod cyhoeddiad ar destun neu o fewn ardal ddaearyddol benodol.

Os ydych angen unrhyw un o’n cyhoeddiadau mewn ffurf ac/neu iaith wahanol cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion canlynol:

Ffôn: 029 2032 0500

E-bost: post@archwilio.cymru

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg a Saesneg. Gallwch ysgrifennu atom hefyd, yn Gymraeg neu’n Saesneg, ac fe wnawn ymateb yn yr iaith rydych chi wedi ei defnyddio. Ni fydd gohebu yn Gymraeg yn arwain at oedi.

Adroddiadau hŷn

Galwch gael gafael ar adroddiad a gyhoeddwyd cyn 2010 drwy edrych ar hen fersiynau o’n gwefan Archif we'r DU [agorir mewn ffenest newydd]. Gallwch gysylltu â ni’n uniongyrchol hefyd a byddwn yn hapus i roi copi electronig i chi.

Gweler Hefyd: Arfer Da

Find documents

15 Maw 2013 - 8:49yb

Mae gofyn i’r Archwilydd Cyffredinol, o dan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009, adrodd ar waith archwilio ac asesu o ran os yw’r Cyngor wedi cyflawni ei ddyletswyddau a chwrdd ag anghenion y Mesur

1 Maw 2013 - 9:02yb

Mae'r adroddiad hwn yn crynhoi fy nghanfyddiadau o'r gwaith archwilio rwyf wedi'i gyflawni yn Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru (yr Ymddiriedolaeth) yn ystod 2012.

21 Chwef 2013 - 9:35yb

Mae’r adroddiad hwn yn ymchwilio i p’un a yw cyrff cyhoeddus yng Nghymru yn caffael ac yn rheoli gwasanaethau ymgynghori mewn ffordd sy’n sicrhau gwerth da am arian. 

31 Ion 2013 - 9:02yb

Yn dilyn sylw yn y wasg a cheisiadau a godwyd gan y tîm rheoli yn Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (yr Ymddiriedolaeth), cychwynnais adolygiad o'r broses o gaffael 42 o ambiwlansys wedi’u trosi a ddechreuodd ym mis Awst 2010, drwy dendr 0212, a fyddai'n cyflawni fy nyletswyddau statudol fel Archwilydd Cyffredinol. Gelwir y broses gaffael benodol a gaiff ei hadolygu yn 'Broses Gaffael 0212'. 

17 Ion 2013 - 9:35yb

Mae’r adroddiad hwn yn ystyried p’un a yw CCC, lle y bo’n briodol ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru, wedi gweithredu argymhellion archwiliadau blaenorol yn effeithiol er mwyn sicrhau’r manteision hirdymor mwyaf posibl o ran coedwigaeth. Er mwyn amlinellu cynnydd CCC mewn modd ystyrlon, rydym wedi grwpio argymhellion fesul thema, megis caffael, rheoli risg a rheoli grantiau. 

 

1 Ion 2013 - 12:20yp

Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi fy nghanfyddiadau o’r gwaith archwilio a wnaed gennyf ym Mwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda (y BIP) yn ystod 2013. Mae’r gwaith rwyf wedi’i wneud yn y BIP yn fy ngalluogi i gyflawni fy nghyfrifoldebau o dan Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (Deddf 2004) o ran archwilio cyfrifon a threfniadau’r BIP i sicrhau effeithlonrwydd, effeithiolrwydd a darbodusrwydd o ran ei ddefnydd o adnoddau.

20 Rhag 2012 - 9:35yb

Ceisiodd ein hadolygiadau ateb y cwestiwn: “A yw trefniadau cynghorau ar gyfer datblygu, defnyddio a chefnogi technoleg yn debygol o sicrhau gwelliant parhaus?” Gwnaethom gynnal yr adolygiadau hyn yng nghyd-destun strategol nod Llywodraeth Cymru i ddatblygu ymagweddau cyffredin tuag at TGCh.

17 Rhag 2012 - 8:56yb

Mae'r adroddiad hwn yn nodi canlyniadau fy arolygiad arbennig o Gyngor Sir Penfro (y Cyngor) o dan Adran 21 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 (y Mesur). Mae'r Mesur yn ei gwneud yn ofynnol i mi grybwyll unrhyw fater lle credaf, o ganlyniad i'r arolygiad, bod y Cyngor yn methu â chydymffurfio â gofynion Rhan 1 o'r Mesur (gwella llywodraeth leol). Er nad yw fy arolygiad wedi gwneud i mi amau bod y Cyngor wedi cydweithredu â'r Bwrdd na'r potensial sy'n bodoli, nododd bryderon difrifol a pharhaus. 

6 Rhag 2012 - 9:35yb

Ystyriodd ein hastudiaeth p’un a yw Deddf Argyfyngau Sifi l Posibl 2004 wedi arwain at drefniadau effeithiol ar gyfer cynllunio at argyfwng a chydnerthedd mewn cymunedau sy’n diogelu’r cyhoedd yng Nghymru yn ddigonol.

4 Rhag 2012 - 9:35yb

Mae’r adroddiad hwn, sef fy ail adroddiad blynyddol ar gyfrifon awdurdodau lleol, yn crynhoi canlyniadau gwaith yr archwilwyr ar gyfer 2011-12 yn y mathau canlynol o awdurdodau yng Nghymru: Awdurdodau unedol (gan gynnwys wyth cronfa bensiwn), Awdurdodau'r heddlu, Awdurdodau tân ac achub ac Awdurdodau'r parciau cenedlaethol.

Tudalennau