Mae’r adroddiadau hyn yn cwmpasu amrywiaeth o bynciau a fyddai o ddiddordeb i chi o bosib.

Mae modd i chi chwilio am adroddiad penodol drwy ddefnyddio’r teclyn chwilio. Gallwch roi gosodiadau chwilio i ddarganfod cyhoeddiad ar destun neu o fewn ardal ddaearyddol benodol.

Os ydych angen unrhyw un o’n cyhoeddiadau mewn ffurf ac/neu iaith wahanol cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion canlynol:

Ffôn: 029 2032 0500

E-bost: post@archwilio.cymru

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg a Saesneg. Gallwch ysgrifennu atom hefyd, yn Gymraeg neu’n Saesneg, ac fe wnawn ymateb yn yr iaith rydych chi wedi ei defnyddio. Ni fydd gohebu yn Gymraeg yn arwain at oedi.

Adroddiadau hŷn

Galwch gael gafael ar adroddiad a gyhoeddwyd cyn 2010 drwy edrych ar hen fersiynau o’n gwefan Archif we'r DU [agorir mewn ffenest newydd]. Gallwch gysylltu â ni’n uniongyrchol hefyd a byddwn yn hapus i roi copi electronig i chi.

Gweler Hefyd: Arfer Da

Find documents

4 Ion 2019 - 9:57yb

Mae’r adolygiad hwn yn crynhio canfyddiadau ymateb Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i offeryn casglu data yr Archwilydd Cyffredinol a dylid ei ddarllen ynghyd â’n hadroddiad cenedlaethol ar ddefnydd data

30 Tach 2018 - 7:00yb

Nod ein hadolygiad oedd ateb y cwestiwn: A oes gan y Cyngor drefniadau effeithiol ar waith i gyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC) erbyn 2020?

28 Tach 2018 - 4:31yp

Fel rhan o raglen archwilio 2014, cynhaliodd yr Archwilydd Cyffredinol adolygiad o wasanaethau nyrsio ardal ym mhob un o’r saith bwrdd iechyd yng Nghymru.

23 Tach 2018 - 11:11yb

Mae’r Bwrdd Iechyd wedi mynd i’r afael yn sylweddol â’r heriau gweithredol a strategol a oedd yn gysylltiedig â’i wasanaeth mamolaeth sydd bellach ag arweinyddiaeth gref, er bod cyfraddau Toriad Cesaraidd yn dal i fod yn uchel.

21 Tach 2018 - 3:09yp

Mae'r llythyr hwn yn crynhoi'r negeseuon allweddol sy'n deillio o'm cyfrifoldebau statudol o dan Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 a'm cyfrifoldebau adrodd o dan y Cod Ymarfer Archwilio.

14 Tach 2018 - 4:28yp

Ar y cyd â phob un o'r 22 o gynghorau yng Nghymru, roedd yr adolygiad hwn yn archwilio pa mor ‘addas i'r dyfodol’ yw eu swyddogaethau craffu.

8 Tach 2018 - 12:18yp

Dechreuodd y diweddariad ar gynnydd hwn ym mis Rhagfyr 2017 a gofynnodd y cwestiwn canlynol: ‘A yw’r Bwrdd Iechyd wedi gwneud digon o gynnydd mewn ymateb i’r canfyddiadau a’r argymhellion a wnaed yn yr adolygiad gwreiddiol’?

7 Tach 2018 - 3:23yp

Bu'r adolygiad hwn yn archwilio pa mor 'addas ar gyfer y dyfodol' yw swyddogaethau craffu pob un o'r 22 o gynghorau yng Nghymru.

30 Hyd 2018 - 11:08yp

Fe wnaeth yr Archwilydd Cyffredinol archwilio trefniadau’r byrddau iechyd ar gyfer rheoli apwyntiadau cleifion allanol.

23 Hyd 2018 - 12:11yp

Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi canfyddiadau’r Fenter Twyll Genedlaethol ddwyflynyddol yng Nghymru yn ystod y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2016 a 31 Mawrth 2018.

Tudalennau