Mae’r adroddiadau hyn yn cwmpasu amrywiaeth o bynciau a fyddai o ddiddordeb i chi o bosib.

Mae modd i chi chwilio am adroddiad penodol drwy ddefnyddio’r teclyn chwilio. Gallwch roi gosodiadau chwilio i ddarganfod cyhoeddiad ar destun neu o fewn ardal ddaearyddol benodol.

Os ydych angen unrhyw un o’n cyhoeddiadau mewn ffurf ac/neu iaith wahanol cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion canlynol:

Ffôn: 029 2032 0500

E-bost: post@archwilio.cymru

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg a Saesneg. Gallwch ysgrifennu atom hefyd, yn Gymraeg neu’n Saesneg, ac fe wnawn ymateb yn yr iaith rydych chi wedi ei defnyddio. Ni fydd gohebu yn Gymraeg yn arwain at oedi.

Adroddiadau hŷn

Galwch gael gafael ar adroddiad a gyhoeddwyd cyn 2010 drwy edrych ar hen fersiynau o’n gwefan Archif we'r DU [agorir mewn ffenest newydd]. Gallwch gysylltu â ni’n uniongyrchol hefyd a byddwn yn hapus i roi copi electronig i chi.

Gweler Hefyd: Arfer Da

Find documents

1 Tach 2013 - 12:00yb

Yn ystod blwyddyn ariannol 2012-13, daeth Deddf Diwygio’r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011 i rym. Roedd y ddeddfwriaeth hon yn cyflwyno Comisiynydd Heddlu a Throseddu etholedig yn lle awdurdodau’r heddlu o 22 Tachwedd 2012. Roedd y Ddeddf hefyd yn creu Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu a’r Prif Gwnstabl fel endidau cyfreithiol ar wahân.

1 Hyd 2013 - 1:20yp

Cydnabyddir yn gyffredinol bod nifer o rannau o system iechyd a gofal cymdeithasol Cymru o dan gryn bwysau. Nid yw'r sefyllfa bresennol yn gynaliadwy oherwydd mae'r gwasanaethau hyn yn parhau i wynebu galw gormodol yn wyneb adnoddau ariannol cyfyngedig ac erbyn hyn mae angen trawsnewid y gwasanaeth a newid y system gyfan ar fyrder.

27 Medi 2013 - 10:02yb

Paratowyd y ddogfen hon at ddefnydd mewnol Bwrdd Iechyd Hywel Dda fel rhan o'r gwaith a gyflawnir yn unol â swyddogaethau statudol, y Cod Ymarfer Archwilio a'r Datganiad o Gyfrifoldebau a gyhoeddwyd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. 

 

27 Medi 2013 - 10:02yb

Mae'r ddogfen hon wedi'i pharatoi at ddefnydd mewnol Iechyd Cyhoeddus Cymru fel rhan o waith sy'n cael ei gyflawni yn unol â swyddogaethau statudol, y Cod Ymarfer Archwilio a'r Datganiad o Gyfrifoldebau a gyhoeddwyd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. 

 

26 Medi 2013 - 10:35yb

Mae’r adroddiad hwn yn ceisio ateb y cwestiwn: ‘A yw awdurdodau gwella (awdurdodau) yn cynllunio, darparu ac adrodd eu gwelliannau’n effeithiol?’

17 Medi 2013 - 10:35yb

Aethom ati i archwilio trefniadau cyfl enwi ar gyfer absenoldeb athrawon mewn ysgolion mewn partneriaeth ag Estyn – Arolygiaeth ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru. Mae adroddiad Estynyn canolbwyntio ar sut mae absenoldeb athrawon yn effeithio ar gynnydd dysgwyr. Yn yr adroddiad hwn, gan ddefnyddio canfyddiadau Estyn, rydym yn ceisio ateb y cwestiwn ehangach, sef a yw dysgwyr, ysgolion a phwrs y wlad yn cael eu gwasanaethu’n dda gan drefniadau cyfl enwi ar gyfer absenoldeb athrawon.

13 Medi 2013 - 10:35yb

Roedd archwiliad allanol o gyfrifon cynghorau lleol ar gyfer 2011-12 yn dangos bod angen i gynghorau lleol roi ffocws clir ar wella’u trefniadau llywodraethu a rheolaeth ariannol.

12 Medi 2013 - 10:35yb

Nod yr adroddiad hwn yw olrhain y cynnydd a wneir gan wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru i fynd i’r afael â’r prif faterion a godwyd gennym ym mis Rhagfyr 2009. Rydym hefyd yn anelu at amlygu’r prif heriau sy’n parhau a’r cyfleoedd ar gyfer gwella. Edrychodd ein hadolygiad ar y cynnydd o ran trawsnewid gwasanaethau gofal heb ei drefnu er mwyn mynd i’r afael â’r materion a nodwyd yng nghyhoeddiadau blaenorol Swyddfa Archwilio Cymru

12 Medi 2013 - 10:35yb

Nod yr adroddiad hwn yw olrhain y cynnydd a wneir gan wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru i fynd i’r afael â’r prif faterion a godwyd gennym ym mis Rhagfyr 2009. Rydym hefyd yn anelu at amlygu’r prif heriau sy’n parhau a’r cyfleoedd ar gyfer gwella. Edrychodd ein hadolygiad ar y cynnydd o ran trawsnewid gwasanaethau gofal heb ei drefnu er mwyn mynd i’r afael â’r materion a nodwyd yng nghyhoeddiadau blaenorol Swyddfa Archwilio Cymru.

1 Medi 2013 - 1:20yp

Gall lefelau uchel o salwch gael effaith andwyol ar allu sefydliad i gyflawni ei amcanion, costio llawer o arian, cymryd llawer o amser i’w rheoli, ac, yn y pen draw, effeithio ar ansawdd y gwasanaeth neu'r gofal a roddir i gleifion.

Tudalennau