Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

  • Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n gyfrifol am ddynodi safleoedd yn Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig a’r rheolaeth reoleiddiol arnynt. Yn ôl CNC, ceir 1,083 o Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yng Nghymru ar hyn o bryd.

    Fe wnaeth ein hadroddiad ystyried a oes gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ddull effeithiol o ddynodi Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig wrth iddo weithio i ddiogelu natur ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

    Yr hyn a ganfuom

    Canfuom nad yw CNC wedi bod yn dynodi llawer o Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, er ei fod yn gwybod am lawer o leoedd a allai fod yn gymwys i gael eu diogelu trwy eu dynodi’n Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Mae cyfyngiadau ar gapasiti staff, bylchau mewn data allweddol, a systemau digidol tameidiog yn dal y sefydliad yn ôl. Mae ein hadroddiad hefyd yn egluro bod CNC yn sefydliad sydd dan bwysau ac yn wynebu ansicrwydd parhaus.

    Yn ein hadroddiad, rydym yn gwneud 8 argymhelliad i Cyfoeth Naturiol Cymru.

    ,

    Cyhoeddi cysylltiedig

    Cyfoeth Naturiol Cymru yn ei chael hi’n anodd cyflawni ei ymrwymiad i ehangu’r rhwydwaith o Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig a’u cysylltu’n well

    Gweld mwy
CAPTCHA