Mae pwyslais yr adolygiad hwn ar effeithiolrwydd trefniadau llywodraethu’r Cyngor ar gyfer penderfynu ar newidiadau sylweddol i wasanaethau: rydym yn diffinio hyn fel unrhyw newid sylweddol, wrth ddarparu gwasanaethau, a/neu ym mhrofiad defnyddwyr gwasanaeth allanol o’r gwasanaethau.
Mae trefniadau llywodraethu’r Cyngor ar gyfer newidiadau sylweddol i wasanaethau yn gymesur â’u graddfa a’u cymhlethdod ond mae’r gwerthusiad o’u heffaith yn anghyson.