Canolbwyntiai'r archwiliad ar y trefniadau i gyflenwi gwasanaethau gwella iechyd drwy dimau iechyd cyhoeddus lleol. Cyflenwi gwasanaethau gwella iechyd oedd prif swyddogaeth y rhan fwyaf o'r staff a weithiai yn y timau hynny, yn ôl yr hyn a ddywedwyd wrthym.
Nid yw trefniadau cydweithredol ar gyfer rheoli adnoddau iechyd cyhoeddus lleol yn gweithio mor effeithiol ag y dylent.