Mae’r Cyngor yn debygol o fodloni ei ofynion statudol mewn perthynas â gwelliant parhaus ar yr amod ei fod yn gwreiddio trefniadau a fydd yn ei alluogi i wynebu heriau presennol a heriau’r dyfodol.
Wrth bennu hyd a lled y gwaith a gyflawnwyd yn ystod y flwyddyn, ystyriwyd graddau’r wybodaeth archwilio ac arolygu a gasglwyd yn ogystal â ffynonellau eraill o wybodaeth a oedd ar gael.