Roedd y gwaith archwilio yn canolbwyntio ar flaenoriaethau strategol, gan gynnwys llywodraethu, yn ogystal â'r risgiau ariannol a gweithredol a wynebai'r Bwrdd Iechyd.
Mae'r adroddiad yn casglu:
- bod cyfrifon y Bwrdd Iechyd wedi'u paratoi mewn modd priodol, a'u bod yn gywir ym mhob ffordd berthnasol;
- bod gan y Bwrdd Iechyd amgylchedd rheolaeth effeithiol er mwyn lleihau'r risg o gamddatganiadau o bwys yn y datganiadau ariannol; a
- bod systemau ariannol a chyfrifyddu pwysig y Bwrdd Iechyd yn cael eu rheoli a'u gweithredu'n briodol yn ôl y bwriad; er bod angen i reolwyr gymryd camau i ymdrin â rhai gwendidau mewn systemau.