Kathryn Chamberlain

Llun pen ac ysgwyddau o Kathryn Chamberlain

Daeth Kate i'r Brifysgol yng Nghymru yn yr 1980au a dyw hi erioed wedi gadael. Un o'i swyddi cyntaf oedd gydag Archwiliad Dosbarth Cymru, un o ragflaenwyr Swyddfa Archwilio Cymru, ac mae'n canmol y profiad hwn gan roi sylfaen gref yng nghyswllt gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru sydd wedi ei dilyn drwy gydol ei gyrfa. 

Ar hyn o bryd hi yw Prif Weithredwr cyntaf yr Awdurdod Monitro Annibynnol ar gyfer y Cytundebau Hawliau Dinasyddion (yr IMA). Yn ystod 2020 arweiniodd raglen i greu'r sefydliad newydd hwn mewn ymateb i ymrwymiadau a nodwyd yn y Cytundebau Ymadael yn dilyn ymadawiad y Deyrnas Unedig â'r Undeb Ewropeaidd.

Cyn hynny treuliodd Kate saith mlynedd yn Brif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, deng mlynedd fel Prif Ystadegydd Llywodraeth Cymru a Phennaeth Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddol, a deng mlynedd yn gweithio i'r Comisiwn Archwilio ac Archwiliad Dosbarth Cymru yn cynnal adolygiadau o wasanaethau cyhoeddus ar draws Cymru a'r Gororau. Mae gan Kate PhD mewn ystadegau mathemategol a phrofiad helaeth o ran rheoleiddio, llywodraethu, a phenderfyniadau ar sail tystiolaeth. 

I ffwrdd o'i gwaith mae Kate yn byw gyda'i theulu mewn pentref bach y tu allan i Aberhonddu lle mae'n ymroi i'w hobsesiynau efo garddio ac ymchwilio i hanes ei theulu.