Proses ddwy ffordd yw gwirfoddoli, sy’n gwneud gwahaniaeth i bawb sy’n gysylltiedig â hi

05 Tachwedd 2020
  • Mae fy mhrofiadau diweddar wedi dyfnhau fy nysgu personol; o ran llywodraethu, cyfathrebu, rheoli a’r doniau cuddiedig o fewn cymuned. Gadewch imi egluro.

    Gofynnwyd i mi unwaith ystyried rôl fel Prif Weithredwr sefydliad gwirfoddol mawr, cenedlaethol. Atebais ei bod yn ddigon anodd arwain ac ysbrydoli gweithlu cyflogedig a bod yn rhaid ei bod yn llawer mwy anodd arwain gwirfoddolwyr. Bellach, ar ôl dau brofiad grymus o wirfoddoli, y naill yn gwirfoddoli ar ward Hosbis a’r llall, yn fwy diweddar, yn sefydlu Ymateb Cymunedol COVID-19 yn Rhosili, Gŵyr, mae fy marn wedi aeddfedu. Gallaf sefyll yn ôl a myfyrio’n fwy cynhwysfawr ac ystyriol ar werth gwirfoddoli i’n cenedl.

    Yn ddiamau, mae gwirfoddoli yn broses ddwy ffordd anhygoel. Mae’r sawl sy’n derbyn y gwirfoddoli yn derbyn rhywbeth na fyddent efallai wedi ei gael fel arall a gall wneud yr holl wahaniaeth i ansawdd eu bywyd. Mae’r gwirfoddolwr hefyd yn cael ymdeimlad o les drwy roi o’i amser/sgiliau/profiad. Adroddir am hyn yn aml yn nerthol drwy straeon ar lefel ddynol, yn ogystal â thrwy fynegi rhai ffigurau pwerus, sy’n dangos gwerth economaidd gwirfoddoli i’r wlad.

    Mae fy mhrofiadau diweddar wedi dyfnhau fy nysgu personol; o ran llywodraethu, cyfathrebu, rheoli a’r doniau cuddiedig o fewn cymuned. Gadewch imi egluro.

    Pwysigrwydd llywodraethu da

    Mae fy nghefndir gyrfaol wedi fy nhrwytho mewn trefniadau llywodraethu; o ddiogelu i GDPR. Fe wnes i ddefnyddio hyn wrth ddatblygu systemau a threfniadau ar gyfer cefnogi’r rhai sy’n agored i niwed mewn ffordd ddiogel yn ein cymuned yn Rhosili yn ystod COVID-19. Roedd rhai yn gweld hyn braidd yn ormodol, ond rwyf i’n glynu at y wybodaeth yn fy mhen fy hun a’r teimlad greddfol sydd gennyf fod llywodraethu da yn ein hamddiffyn ni i gyd. 

    Cyfathrebu effeithiol

    Mae’n rhaid i gyfathrebu fod yn glir, yn gryno ac yn amserol, yn enwedig ar adegau o argyfwng. Dydy hyn ddim yn wyddoniaeth astrus, ond, wrth weithio gyda gwirfoddolwyr, gwelais fod ar lawer eisiau amser i "sgwrsio" ac mae hynny’n bwysig hefyd. Fodd bynnag, mae’n rhaid i’r gallu i fod yn glir ynghylch unrhyw angen a disgwyliadau sydd gan unigolion a grwpiau ar ryw bwynt gael ei fynegi mewn ffordd sy’n glynu. Roedd yn rhaid cydgysylltu cyfathrebu i fyny, tuag allan ac â chyrff gwirfoddol eraill. Roedd cael un pwynt cyswllt i sicrhau eglurder a chysondeb yn dra phwysig.

    Gwybod ble mae’r rheolaeth yn gorffwys

    Mae’n well gen i’r gair atebolrwydd. Mae’n rhaid i hyn fod yn glir. Nid yw’n golygu bod y person sy’n atebol yn well nac yn uwch nag eraill; ond mae eglurder ynglŷn ag atebolrwydd yn golygu y gall yr holl ddarnau yn y system gydweithio’n dda.

    Adnabod a defnyddio doniau cuddiedig

    Yn ddiamau, roedd gan bawb, yr wyf wedi gweithio gyda nhw yn ystod y cyfnod heriol hwn, dalentau rhyfeddol y gallem eu cydweddu ag anghenion yr ymateb cymunedol. Trin data, tosturi, ymgysylltu â’r gymuned, adeiladu gwefannau, rheoli prosiectau, cyfryngau cymdeithasol, gwybodaeth leol a charedigrwydd dynol dibendraw. Chwaraeodd y rhain i gyd eu rhan. Mae edrych allan am y doniau cuddiedig hyn a’u defnyddio yn allweddol i lwyddiant.

    Rwyf yn hoffi meddwl bod fy nghydweithwyr a’m ffrindiau yn y gymuned yn teimlo eu bod wedi gallu cyfrannu mewn ffordd oedd yn anrhydeddu eu doniau ac eto bod eu cyfraniad wedi bod yn amhrisiadwy i’r system gyfan.

    Yn y cyfnod tawel hwn, mae’n amser i fyfyrio, ailgrwpio ac adennill egni. Mae llawer o’m cydweithwyr yn Archwilio Cymru ac yn fy nghymuned yn dal i weithio’n gyflym a than bwysau wrth ymateb i’r sefyllfa bresennol. Mae llawer hefyd yn edrych i’r dyfodol yn awr at yr hyn a all ddigwydd nesaf ac adeiladu ar y dysgu a gafwyd hyd yma.

    Yn yr ysbryd hwn y mae Archwilio Cymru wedi ymgymryd â’r darn pwerus hwn o waith o amgylch Prosiect Dysgu Covid. Mae’r ffocws presennol ar wirfoddoli yn ymwneud â rhannu’r enghreifftiau o’r hyn y mae pobl wedi’i wneud fel bod dysgu’n lledaenu. Fy ngobaith i yw y bydd yn cyrraedd y rheiny sy’n parhau i wneud gwahaniaeth a’r rheiny a allai wneud gwahaniaeth.

    Rwyf wedi tyfu, wedi cael fy narostwng ac wedi teimlo’n ddiolchgar am y cyfle i ddefnyddio fy noniau yn ystod y cyfnod hwn. Fy nymuniad yw parhau i ddysgu a gwneud fy rhan mewn bywyd cyhoeddus, fel dinesydd ac fel gwirfoddolwr.

    Gwybodaeth am yr awdur:

    Mae gan Isobel gyrfa bortffolio gwmpasog a’r thema gyffredin sy’n deillio yw gwella gwasanaethau cyhoeddus. Mae'n darparu arweinyddiaeth drwy ei rôl fel Cadeirydd Archwilio Cymru. Yn ogystal, Isobel yw’r prif Anweithredydd Arweiniol yn Swyddfa Cymru yn Whitehall ac yn ddiweddar mae hi wedi cwblhau tymor estynedig fel aelod Bwrdd Anweithredol y Gweithrediad Iechyd a Diogelwch (HSE) sy’n adrodd i Weinidogion ar lefel y DU.Mae hi wedi cadeirio’r Pwyllgorau Sicrwydd Archwilio a Risg ar gyfer yr HSE a Swyddfa Cymru. Rôl Uwch Weithredwr mwyaf diweddar Isobel oedd Prif Weithredwr Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam o 2003 i 2011.Mae Isobel hefyd yn ymgymryd â gwaith datblygu arweinyddiaeth ar gyfer Swyddogion Gweithredol ac Anweithredol ac mae hi hefyd yn Fentor i nifer o unigolion.