Sut mae Swyddfa Archwilio Queensland yn dadansoddi data i archwilio’n fwy effeithiol

05 Tachwedd 2020
  • Beth allwn ni ddysgu o'r ffordd mae Swyddfa Archwilio Queensland yn dadansoddi ei data ar gyfer eu harchwiliadau? Cafodd Dyfrig Williams sgwrs ffôn yn hynod o gynnar yn y bore er mwyn darganfod mwy.

    Fel rydw i wedi dweud o’r blaen yn fy mlogbost ar brosiect Archwilio Sydd ar Flaen y Gad, rwy’n edrych i nodi ffyrdd o wneud defnydd gwell o ddata a thechnoleg i drawsnewid y ffordd rydyn ni’n gweithio. Fe wnes i ddod ar draws yr erthygl hon ar sut mae Swyddfa Archwilio Queensland yn dadansoddi data i gael mewnwelediad gwell iddo. Trwy fy nghydweithiwr Tom Haslam trefnais sgwrs yn gynnar iawn yn y bore rhyngof i a fy nghydweithwyr (Steve Lisle a Nigel Blewitt) a Daniele Bird, yr Archwilydd Cyffredinol Cynorthwyol ar gyfer Archwilio Perfformiad yn Queensland, Ben Jiang, y Cyfarwyddwr Cynorthwyol dros Ddadansoddi Data Archwilio a David Toma, y Cyfarwyddwr Cynorthwyol ar gyfer Gwasanaethau Archwilio Perfformiad.

    Beth mae Swyddfa Archwilio Queensland yn gwneud?

    Edrychodd y swyddfa ar gyfleoedd i ddefnyddio offer delweddu data mewn ffordd fwy soffistigedig yn ôl yn 2014 er mwyn cael dealltwriaeth well o’r cyrff maen nhw’n archwilio. Fe wnaethon nhw dreialu a phrofi Qlikview, sef meddalwedd sy’n gallu cael ei ddefnyddio trwy’r we neu ar ben desg. Fe wnaethon nhw sefydlu tîm dadansoddi data yn 2015, ble roedd pob un ohonynt yn gyn-archwilwyr. Fe wnaeth y tîm derbyn hyfforddiant i ddechrau, ond ers hynny mae eu datblygiad wedi dod o hunan-ddysgu. Y cynllun ar y dechrau oedd gweithio ar Archwilio Perfformiad. Fodd bynnag, symudodd y ffocws i Archwilio Ariannol gan fod yr un setiau o ddata yn cael ei ddefnyddio tro ar ôl tro, felly roedd yn haws i alluogi gwaith effeithlon ac effeithiol o'i gymharu â'r mathau gwahanol iawn o ddata sydd eu hangen ar gyfer astudiaethau Archwilio Perfformiad.

    Y pwysigrwydd o berthnasau

    Fe wnaeth ein seminarau yn 2015 a 2016 ar gau cyfrifon yn gynt dangos i mi fod rhaid i'r archwilydd a'r corff sy’n cael ei archwilio i gydweithio'n agos i weithio'n effeithiol. Adeiladodd Swyddfa Archwilio Queensland prosesau a systemau awtomatig i gasglu data, ond roeddwn nhw’n dal i gael cwestiynau o gleientiaid am y diogelwch o beth roedden nhw’n gwneud a beth roedden nhw’n mynd i wneud  gyda'r data. Rhoddir tudalen Cwestiynau a Ofynnir yn Aml at ei gilydd yn fewnol fel y gallai arweinwyr y timau archwilio tawelu meddyliau’r sefydliadau ac adeiladu ymddiriedaeth. Fe wnaethon nhw hefyd cymryd y baich o newid i ffwrdd o’r cyrff drwy eu galluogi i anfon y data heb ei fformatio. Gwnaeth y Tîm Dadansoddi Data y gwaith o drawsnewid a glanhau'r data, ac maen nhw’n awr yn gallu cynnig mewnwelediad unigryw i’r data gan eu bod nhw’n casglu data o gyrff amrywiol. Maen nhw’n gallu ffurfio trosolwg o faterion yn gyflym, ac maen nhw hefyd yn gallu meincnodi perfformiad cleientiaid er mwyn dangos sut maen nhw’n cymharu â'u cyfoedion (cewch gip ar y sleid isod). Maen nhw hefyd yn gallu defnyddio’r meddalwedd i gynnal ymchwiliadau fel Dadansoddiad Benford, sy'n nodi'n glir pwy sydd yn bell o’r norm. Mae hyn yn arbennig o ddefnyddiol wrth nodi twyll.

     

    [caption id="attachment_3358" align="alignnone" width="1022"]Graff sy'n dangos llawer o ddotiau at ei gilydd ac un sydd glir ymhell i ffwrdd ar werth dyledion drwg Sut mae Swyddfa Archwilio Queensland yn cael mewnwelediad i werth dyledion drwg[/caption]

    Archwilio Perfformiad

    Mae'r Tîm Dadansoddi Data hefyd yn cefnogi staff Archwilio Perfformiad. Mae'r tîm yn defnyddio cloddio testun i archwilio pynciau amrywiol, er enghraifft i weld beth mae athrawon yn nodi fel eu nodau datblygu. Mae hyn wedi galluogi iddynt gynhyrchu Wordclouds a chrynodebau testun o’r 10 datganiad uchaf. Maen nhw hefyd yn defnyddio’r dechneg yma i ysgubo trwy Hansards.

     

    Mae'r tîm hefyd yn edrych ar sut y gall hyn helpu staff i ddewis pynciau i archwilio iddynt. Maen nhw’n dadansoddi teimlad ar Twitter, sy’n bwydo i mewn i'r cynllunio strategol. Mae hyn yn eu helpu nhw i ddeall y materion sydd yn bwysig i’r byd ehangach a beth mae pobl yn dweud amdano’n nhw. Er bod y dechnoleg wedi cael ei hadeiladu ar gyfer Twitter, gallai hefyd gael ei ddefnyddio ar gyfer rhwydweithiau fel LinkedIn, a fyddai'n galluogi archwilwyr i gael gafael ar wahanol ddefnyddwyr a safbwyntiau. Maen nhw hefyd wedi adeiladu offer sy’n graddio pwysigrwydd y trydar. Mae hyn yn galluogi archwilwyr i ganolbwyntio adnoddau ar y negeseuon pwysig.

    Creu amgylchedd gwaith cadarnhaol

    Fe wnaeth Daniele, Ben a David gydnabyddi’r pwysigrwydd o arweinyddiaeth gref i greu amgylchedd ble mae gwaith y Tîm Dadansoddi Data yn ffynnu. Maen nhw wedi derbyn cefnogaeth o’r lefel uchaf o’r Archwilydd Cyffredinol blaenorol a'r Archwilydd Cyffredinol Dros Dro cyfredol. Mae hyn yn rhywbeth ni’n gweld o'n Harchwilydd Cyffredinol ein hunain yn natblygiad y prosiect Archwilio Sydd ar Flaen y Gad, a gobeithio y gall canfyddiadau ein gwaith ni ein helpu ni i ddarparu sylfaen i ddatblygu ein ffordd o weithio. Roedd e’n ddiddorol i glywed sut mae'r sefydliad yn edrych yn barhaus i ddatblygu eu gwaith ac adeiladu ar arferion presennol. Ar hyn o bryd maen nhw’n edrych i weld os all symud o Qlikview i Qlik Sense rhoi manteision pellach iddynt.

     

    Mae gwaith y Tîm Dadansoddi Data wedi cyflawni arbedion effeithlonrwydd, yn bennaf trwy arbed amser y gellir ei ail-fuddsoddi mewn ei gwaith, ond maen nhw hefyd yn edrych i arbed mwy i wneud mwy. Mae'r amgylchedd ehangach yn newid yn gyflym ac mae cyllid cyhoeddus cyfyngedig yn rhoi her i bob gwasanaeth cyhoeddus. Mae Swyddfa Archwilio Queensland wedi wynebu’r her yma ac maen nhw’n gweithio mewn ffordd wahanol i ddarparu gwasanaeth gwell. Mae gwaith ei staff yn awr yn fwy ystyrlon a diddorol, ac mae archwilwyr yn datblygu sut maen nhw’n meddwl yn feirniadol. Fe fyddai’n defnyddio ein hegwyddorion Cyfnewidfa Arfer Da wrth i ni fyfyrio dros ein sgwrs â Swyddfa Archwilio Queensland, fel ein bod ni’n meddwl am sut rydyn ni’n gallu addasu'r dull gweithredu hwn fel ein bod ein gwaith ni, fel y gwasanaethau rydyn ni’n archwilio, yn cyflawni’r canlyniadau gorau posibl i bobl Cymru.