Offer hygyrchedd

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

COP26: Taflu goleuni ar ymateb Cymru i newid hinsawdd

03 Tachwedd 2021
  • Mae cynhadledd hinsawdd y Cenhedloedd Unedig yn foment allweddol yn y frwydr fyd-eang yn erbyn newid hinsawdd.

    Gydag arweinwyr y byd yn ymgynnull ar gyfer COP26 yn Glasgow, mae newid hinsawdd yn flaenllaw ar yr agenda wleidyddol. Mae hyn yn gyfle i gytuno ar gamau byd-eang i fynd i'r afael â’r her sy’n diffinio ein cenhedlaeth.

    Rwyf i’n dymuno i Archwilio Cymru chwarae ei ran yn yr ymateb i newid hinsawdd. Yn gynharach eleni, ymrwymais i ddefnyddio ein sefyllfa unigryw a breintiedig yn Archwilio Cymru i graffu ar y camau gweithredu ar newid hinsawdd ac ysbrydoli gwelliannau.

    ,
    Rydym bellach yn cyflymu ein gwaith, gan ddechrau gydag adolygiad sylfaenol o gamau gweithredu cyrff cyhoeddus i gyrraedd targedau datgarboneiddio. Felly, heddiw rwyf wedi ysgrifennu at tua 50 o'r cyrff yr ydym yn eu harchwilio, i ofyn iddynt beth y maent yn ei wneud i leihau allyriadau carbon a chyrraedd targedau 2030 a bennwyd gan Lywodraeth Cymru.
    ,

    Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed i Gymru gyflawni allyriadau carbon sero-net erbyn 2050. Ond yn fwy heriol efallai yw'r targedau ar gyfer 2030, sef y nod o leihau 63% mewn allyriadau yn gyffredinol a sector cyhoeddus carbon niwtral erbyn y dyddiad hwnnw. Bydd ein hadolygiad sylfaenol yn canolbwyntio ar dargedau 2030, o ystyried yr angen i weithredu nawr.

    Yn ogystal â lleihau eu hallyriadau eu hunain, gall cyrff cyhoeddus arwain drwy esiampl yn y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. Gallant ddefnyddio eu dylanwad i ddwyn perswâd ar fusnesau ac unigolion i leihau allyriadau. Fodd bynnag, mae ein hadroddiad Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus eisoes wedi tynnu sylw at rai o'r heriau sy'n wynebu cyrff cyhoeddus wrth iddynt weithio tuag at gyfnod pontio teg i economi carbon isel.

    Wrth i'n gwaith newydd fynd rhagddo, byddwn yn parhau i gyhoeddi a hyrwyddo ein canfyddiadau, ac yn dod â phobl at ei gilydd i rannu’r hyn a ddysgwyd a chefnogi datblygiad syniadau a dulliau newydd – taflu goleuni ar ddigonolrwydd ymateb Cymru i'r newid yn yr hinsawdd.

    ,

    Am yr awdur

    Daeth Adrian Crompton yn Archwilydd Cyffredinol Cymru yn 2018.

    Fel pennaeth Swyddfa Archwilio Cymru, bydd yn goruchwylio gwaith archwilio oddeutu £20 biliwn o arian trethdalwyr ac fe’i penodwyd am dymor o wyth mlynedd. 

    ,

    Cyhoeddi cysylltiedig

    Chwarae ein rhan yn yr ymateb i newid yn yr hinsawdd

    View more