Gallai gwasanaethau cyhoeddus golli hyd at £1 biliwn y flwyddyn yn sgil twyll

11 Meh 2019 - 12:08yb

Mae angen adnoddau ychwanegol i frwydro yn erbyn twyll a chadw’n gyfredol â dulliau cyfnewidiol twyllwyr

Mae'r darlun o drefniadau atal twyll yn sector cyhoeddus Cymru yn amrywio ledled Cymru, ond mae lle ar gyfer mwy o gydweithio a gweithio ar draws asiantaethau i frwydro yn erbyn twyll.

Mae'r colledion a achoswyd gan dwyll yn y sector cyhoeddus yn sylweddol ac, ar adeg o gyni, mae pob punt a gollir i dwyll yn bunt a allai gael ei gwario ar wasanaethau cyhoeddus. Mae amcangyfrifon o'r colledion hyn yn amrywio o £100 miliwn i £1 biliwn y flwyddyn, sy'n rhoi arwydd o'r risgiau posibl o dwyll sy'n wynebu'r sector cyhoeddus yng Nghymru.  

Mae twyll o bob math yn esblygu'n gyson wrth i dwyllwyr addasu ac esblygu i fanteisio ar unrhyw gyfleoedd sydd ar gael, felly mae'n rhaid i fesurau atal twyll gadw’n gyfredol â’r twyllwyr. Mae'r mathau o dwyll a gyflawnir yn y sector cyhoeddus yn amrywiol iawn, o dwyll treuliau a chaffael i seiberdrosedd, ymhlith llawer o fathau eraill. Y ffyrdd mwyaf cyffredin y mae twyll yn cael ei gyflawni yw trwy lygredd, camddefnyddio asedau a thwyll datganiadau ariannol. Fodd bynnag, y math mwyaf cyffredin o dwyll a wynebir gan fusnesau'r DU heddiw yw seiberdrosedd, ac mewn ymateb iddo mae angen i wasanaethau cyhoeddus gydweithio a dod o hyd i ffyrdd i atal troseddwyr rhag manteisio ar wendidau yn eu systemau TG. 

Mae'r adnoddau a glustnodir ar gyfer gweithgareddau atal twyll yn amrywio'n fawr ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru. Mae GIG Cymru yn buddsoddi'n helaeth mewn gweithgareddau atal twyll lleol a chenedlaethol; mae gweithgareddau Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu gwaith ymchwilio yn hytrach nag atal; ac ar draws llywodraeth leol mae trefniadau ar gyfer adnoddau atal twyll yn amrywio o gyngor i gyngor. Yn ychwanegol, gwnaeth sefydlu un gwasanaeth cenedlaethol ar gyfer ymchwilio i dwyll gan yr Adran Gwaith a Phensiynau yn 2014 wanhau yn sylweddol y capasiti ar gyfer atal twyll a'r sail sgiliau o fewn maes llywodraeth leol ledled Cymru.   

Mae ein hadroddiad yn cynnwys astudiaethau achos o wahanol fathau o dwyll ar draws sector cyhoeddus Cymru. Mae dwy enghraifft sydd wedi arwain at erlyniadau llwyddiannus yn cynnwys y canlynol:

  • Gwnaeth cwmnïau Dragon, a sefydlodd ffatri brosesu ym Mhort Talbot ac a anelai at fod yn gyflenwr mwyaf y byd o abwyd melys ar gyfer y diwydiant pysgota, dwyllo'r UE a Llywodraeth Cymru o £4.7 miliwn; a
  • Gwnaeth rheolwr prosiect dros dro ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys sefydlu cwmni preifat a chyflwyno anfonebau ffug ar gyfer cyfanswm o £822,000 i'w gyflogwr gan ddefnyddio enwau ffug.

Dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru, Adrian Crompton, heddiw:

“Mae bygythiadau twyll newydd yn esblygu yn barhaus yng Nghymru ac mewn mannau eraill ar draws y DU a phedwar ban y byd. Nid yw twyllwyr yn parchu ffiniau daearyddol ac mae'r ffyrdd y mae twyll yn cael ei gyflawni yn esblygu'n gyson wrth i gymdeithas a thechnoleg newid – daw hynny'n fwyfwy amlwg yn yr oes ddigidol heddiw. Felly mae'n hanfodol fod cydweithredu a rhannu gwybodaeth ac arferion da o ran mynd i'r afael â thwyll yn digwydd rhwng cyrff cyhoeddus, cyrff preifat a chyrff yn y trydydd sector ar draws Cymru, y DU ac yn rhyngwladol. Ar adeg o gyni parhaus, credaf ei fod yn bwysicach nag erioed i bob corff cyhoeddus yng Nghymru geisio lleihau'r risg o golledion yn sgil twyll. Rhaid i sefydliadau flaenoriaethu atal twyll a gallant helpu i liniaru'r risgiau o dwyll drwy feddu ar y diwylliant sefydliadol cywir wedi'i gefnogi gan drefniadau atal twyll effeithiol.”

Diwedd

Nodiadau i Olygyddion:

  • Mae'r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar effaith a graddfa twyll yn sector cyhoeddus Cymru ac mae'n darparu trosolwg o'r trefniadau atal twyll sydd ar waith. 
  • Rydym wedi amcangyfrif yn yr adroddiad hwn y gallai cost twyll i sector cyhoeddus Cymru fod rhwng oddeutu £100 miliwn ac £1 biliwn y flwyddyn. Rydym wedi cyrraedd at yr amcangyfrif hwn drwy gymhwyso amcangyfrif amrediad canran Swyddfa Cabinet y DU ar gyfer twyll yn y sector cyhoeddus, sydd rhwng 0.5% a 5%, i gyfanswm y gwariant blynyddol datganoledig yng Nghymru o £19.6 biliwn. Mae'r ffigur hwnnw yn cynnwys y grant bloc o £14.5 biliwn ynghyd ag unrhyw wariant arall a ariennir gan fenthyciad lleol, trethi ac incwm arall.
  • Nid oes unrhyw un yn gwybod faint o dwyll sydd heb ei ddatgelu neu heb adrodd amdano. Hyd yn oed ar gyfer yr achosion hynny o dwyll sy'n dod i olau dydd, nid yw cyfanswm y golled bob amser yn hysbys. Mae Cymdeithas yr Archwilwyr Twyll Ardystiedig (ACFE) yn amcangyfrif bod sefydliadau yn colli 5% o'u refeniw blynyddol i dwyll. Yn fyd-eang, mae hyn yn golygu colled economaidd flynyddol o £60 triliwn.
  • Yr Archwilydd Cyffredinol yw'r archwilydd allanol statudol annibynnol ar gyfer y sector cyhoeddus datganoledig yng Nghymru. Ef sy'n gyfrifol am archwilio'r mwyafrif o'r arian cyhoeddus a gaiff ei wario yng Nghymru bob blwyddyn, gan gynnwys y £15 biliwn o gyllid y pleidleisir arno bob blwyddyn gan y Cynulliad Cenedlaethol. Mae Llywodraeth Cymru'n trosglwyddo elfennau o'r cyllid hwn i'r GIG yng Nghymru (dros £7 biliwn) ac i lywodraeth leol (dros £4 biliwn).
  • Mae annibyniaeth archwilio'r Archwilydd Cyffredinol yn hollbwysig. Caiff ei benodi gan y Frenhines, ac ni chaiff ei waith archwilio ei lywio na'i reoli gan y Cynulliad Cenedlaethol na'r llywodraeth. 
  • Mae Swyddfa Archwilio Cymru'n gorff corfforaethol sy'n cynnwys bwrdd statudol naw aelod. Mae'n cyflogi staff ac yn darparu adnoddau eraill ar gyfer yr Archwilydd Cyffredinol, sydd hefyd yn gweithredu fel Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu'r Bwrdd. Mae'r Bwrdd yn monitro'r Archwilydd Cyffredinol ac yn ei gynghori ar sut i gyflawni ei ddyletswyddau.