Dioddefwyr a goroeswyr cam-drin domestig a thrais rhywiol yn cael eu gadael i lawr gan system dameidiog

20 Tach 2019 - 10:47yb

Mae gwasanaethau’n anghyson, yn gymhleth ac yn fyrdymor, ac mae dioddefwyr a goroeswyr yn ei chael yn anodd cael y cymorth y mae ei angen arnynt.

Mae gwybodaeth am nifer yr achosion o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yng Nghymru’n annibynadwy ac nid oes darlun eglur o faint y broblem. Mae bwlch yn y data ynghylch pa ddioddefwyr, goroeswyr a chyflawnwyr sy’n defnyddio gwasanaethau cyhoeddus a pha wasanaethau sydd ar gael.

Er y gwnaed peth cynnydd da gyda gweithio’n rhanbarthol, codi ymwybyddiaeth a chyflwyno hyfforddiant, mae cynnydd o ran cyflawni’r agweddau allweddol ar y Ddeddf Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) yn wael ac nid yw wedi cael yr effaith a ddymunir. Yn arbennig, mae cyllido gwasanaethau allweddol yn dal i fod yn her gyda gormod o ddulliau gwahanol sy’n gorgyffwrdd ac yn anghyson â’i gilydd ledled Cymru.

Mae gwaith ataliol yn mynd rhagddo mewn rhai ardaloedd ac yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ar gyfer dioddefwyr a goroeswyr. Mae Hwb Cam-drin Domestig Abertawe a rhaglen ‘Teuluoedd Cydnerth’ Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn enghreifftiau da o’r modd y mae gwasanaethau’n gwella. Serch hynny, mae llawer o waith i’w wneud o hyd ar mwyn i gyrff cyhoeddus ymateb yn gyson ac yn effeithiol a rhoi’r cymorth y mae ar oroeswyr a dioddefwyr ei angen. 

Mae ein hadroddiad yn gwneud nifer o argymhellion gan gynnwys:

  • bod gwaith i asesu anghenion a mapio’r ddarpariaeth gwasanaethau gan gyrff cyhoeddus yn cael sylw o’r newydd a bod y modd y caiff pobl eu cynnwys yn cael ei ehangu a’i wella;
  • bod asiantaethau darparu (awdurdodau lleol, cyrff iechyd, yr heddlu, awdurdodau tân ac achub a’r trydydd sector) yn adolygu eu dull o weithio’n rhanbarthol i integreiddio gwasanaethau’n well a chynyddu i’r eithaf yr effaith gadarnhaol y gallant ei chael er ddioddefwyr a goroeswyr;
  • bod awdurdodau lleol yn adolygu eu trefniadau comisiynu i gael gwared ar ddyblygu a gorgyffwrdd; rhesymoli trefniadau gweinyddu; symleiddio a safoni trefniadau comisiynu; a phennu mesurau perfformiad, targedau a meincnodau priodol.

Meddai’r Archwilydd Cyffredinol, Adrian Crompton, heddiw: “Rwy’n cyhoeddi’r adroddiad hwn yn union cyn Diwrnod Rhyngwladol Diddymu Trais yn erbyn Menywod. Mae’n achos pryder canfod, bedair blynedd ar ôl cyflwyno’r ddeddfwriaeth hon a oedd yn torri tir newydd, bod dioddefwyr a goroeswyr cam-drin domestig a thrais rhywiol yn dal i gael eu gadael i lawr gan system anghyson a chymhleth.

Mae cydweithio a gweithio ar y cyd yn hanfodol i sicrhau bod y gwasanaethau hyn yn effeithlon ac yn effeithiol, yn enwedig o ystyried natur dameidiog y trefniadau darparu ar draws cyrff cyhoeddus.”

Diwedd

Nodiadau i Olygyddion:

  • Mae’r adroddiad hwn yn archwilio sut y mae’r dyletswyddau a’r cyfrifoldebau newydd yn Neddf Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) (2015) yn cael eu cyflwyno a’u cyflawni ledled Cymru.
  • Cyhoeddir yr adroddiad hwn yn union cyn Diwrnod Rhyngwladol Diddymu Trais yn erbyn Menywod ar 25 Tachwedd 2019.
  • Mae gan nifer o gyrff gyfrifoldebau am helpu dioddefwyr a goroeswyr cam-drin a thrais domestig. Mae’r rhain yn cynnwys awdurdodau lleol, yr heddlu, cyrff iechyd lleol a chyrff y GIG, sefydliadau tai a sefydliadau’r trydydd sector
  • Fe gyfwelom ni â nifer o oroeswyr a ddarparodd wybodaeth fanwl ar ein cyfer am eu profiadau o’r modd y mae cyrff cyhoeddus wedi ymateb i’w hanghenion. Byddwn yn rhannu dyfyniadau gan oroeswyr trwy’n cyfrifon ar y cyfryngau cymdeithasol.
  • Fe arolygom ni awdurdodau lleol, byrddau iechyd, awdurdodau tân ac achub, yr heddlu a chomisiynwyr heddlu a throseddu o ran eu dull strategol o ymdrin â Thrais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol ac effeithiolrwydd trefniadau gweithredol presennol. Fe wnaethom hefyd arolygu’r holl brif ddarparwyr tai cymdeithasol yng Nghymru a darparwyr gwasanaethau Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol arbenigol yn y trydydd sector.
  • Mae astudiaethau achos i’w cael ar dudalennau 21, 22, 28, 29 a 39.
  • Yr Archwilydd Cyffredinol yw archwilydd allanol statudol annibynnol y sector cyhoeddus datganoledig yng Nghymru. Mae’n gyfrifol am fynd ati’n flynyddol i archwilio’r mwyafrif o’r arian cyhoeddus a gaiff ei wario yng Nghymru, gan gynnwys y £15 biliwn o arian y pleidleisir arno’n flynyddol gan y Cynulliad Cenedlaethol. Caiff elfennau o’r cyllid hwn eu trosglwyddo gan Lywodraeth Cymru i’r GIG yng Nghymru (dros £7 biliwn) ac i lywodraeth leol (dros £4 biliwn).
  • Mae annibyniaeth archwilio’r Archwilydd Cyffredinol o’r pwys mwyaf. Fe’i penodir gan y Frenhines, ac nid yw ei waith archwilio’n cael ei gyfarwyddo na’i reoli gan y Cynulliad Cenedlaethol na’r Llywodraeth. 
  • Corff corfforaethol sy’n cynnwys Bwrdd statudol ac iddo naw aelod yw Swyddfa Archwilio Cymru sy’n cyflogi staff ac yn darparu adnoddau eraill ar gyfer yr Archwilydd Cyffredinol, sydd hefyd yn gweithredu fel Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu’r Bwrdd. Mae’r Bwrdd yn monitro ac yn cynghori’r Archwilydd Cyffredinol, o ran arfer ei swyddogaethau.