Cynyddu'r paratoadau at Brexit 'heb gytundeb', ond mae'r darlun yn amrywio ar draws gwasanaethau cyhoeddus Cymru

19 Chwef 2019 - 12:08yb

Yr Archwilydd Cyffredinol yn amlinellu negeseuon allweddol i holl gyrff cyhoeddus Cymru wrth iddynt gynllunio i reoli goblygiadau Brexit

Mae cynllunio at Brexit 'heb gytundeb' yn cael ei gymryd o ddifrif ledled Cymru ac mae nifer o gyrff cyhoeddus wedi cynyddu eu hymdrechion ers haf 2018, ond mae'r darlun yn amrywio ar draws y wlad. Dyna gasgliad adroddiad, a gyhoeddwyd heddiw, gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. Ynddo, mae'n amlinellu rhai negeseuon clir i holl gyrff cyhoeddus Cymru wrth iddynt fynd i'r afael â phrif heriau ac ansicrwydd Brexit.

Mae adroddiad heddiw yn nodi'n glir na all ansicrwydd fod yn rheswm dros beidio â gweithredu. Er bod rhai cyrff cyhoeddus wedi paratoi'n drylwyr; dywedodd eraill fod ansicrwydd parhaus yn golygu mai ychydig o baratoadau yn unig a wnaed ganddynt hyd yn hyn. Mae'r Archwilydd Cyffredinol yn ymwybodol o bryderon di-sail y byddai'n beirniadu sefydliadau am gymryd camau rhesymol i liniaru risgiau sy'n gysylltiedig â Brexit. Nid dyma'r achos. Ym mis Ionawr 2019, anfonodd lythyr at Brif Weithredwyr yr holl gyrff cyhoeddus yng Nghymru i gael gwared ar unrhyw amheuon a chadarnhau na ddylid edrych ar archwiliad fel rhwystr i baratoi at Brexit.

Mae Llywodraeth Cymru yn chwarae rôl arweiniol wrth nodi a rheoli risgiau cenedlaethol a strategol, gan weithio gyda chydweithwyr yn Llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig eraill. Mae cyrff cyhoeddus yng Nghymru wedi adnabod meysydd risg sy'n cynnwys: porthladdoedd; cadwyni cyflenwi meddygol; cadwyn cyflenwi bwyd; gweithlu; risgiau ariannol; deddfwriaeth; allforion amaethyddol; effeithiau economaidd, a lles cyffredinol. Fodd bynnag, mae'r graddau y mae gan gyrff cyhoeddus gynlluniau i liniaru'r risgiau a adnabuwyd ganddynt yn amrywio'n sylweddol.

Dywed yr adroddiad fod cynllunio at Brexit wedi sbarduno sefydliadau i weithio ar draws ffiniau traddodiadol, ond y dylid gwneud mwy i fabwysiadu dull 'un gwasanaeth cyhoeddus' at gynllunio a pharatoadau - mae hyn yn cynnwys cynllunio a rheoli risgiau ar y cyd, rhannu arbenigedd a chyfnewid gwersi a ddysgir.

Mae cyrff cyhoeddus yn adrodd am ddiffyg gallu i reoli Brexit, sy'n ei dro yn cael effaith ar wasanaethau eraill. Mae Llywodraeth Cymru wedi creu 198 o swyddi newydd ychwanegol ar gontractau cyfnod penodol i weithio ar Brexit. Fodd bynnag, mewn nifer o achosion, yn hytrach na recriwtio staff newydd, mae staff presennol wedi cael eu symud i swyddi Brexit gyda rhai o’r staff newydd yn cyflenwi swyddi gwag pobl sy’n symud i weithio mewn swyddi â blaenoriaeth ar Brexit. Mae swyddogion yn adrodd bod bylchau wrth gyflawni gwaith nad yw’n ymwneud â Brexit.

Mae'r Archwilydd Cyffredinol yn galw am wneud mwy i gryfhau arweinyddiaeth ddinesig drwy graffu manwl a rhagor o ymgysylltu â'r cyhoedd. Hyd yn hyn, ac eithrio Llywodraeth Cymru ei hun, mae cynllunio at Brexit yn cael ei arwain yn bennaf gan dimau gweithredol gyda goruchwyliaeth a her, anweithredol, annibynnol cyfyngedig.

Mae ymgysylltu â'r cyhoedd yn glir, mesuradwy a chyson hefyd yn ofynnol i helpu i osgoi panig a thrafferthion di-angen. Mae safle ar-lein Llywodraeth Cymru Paratoi Cymru [agorir mewn ffenest newydd] yn darparu man cychwyn defnyddiol, ond mae'r holl gyrff cyhoeddus nawr angen chwarae eu rhan wrth ledaenu'r negeseuon hyn i gyhoedd Cymru. Mae cyrff cyhoeddus ledled Cymru wedi bod yn disgwyl i ymgysylltu â'r cyhoedd hyd nes iddynt gael mwy o sicrwydd ynghylch canlyniad Brexit. Fodd bynnag, gyda dyddiad ymadael y DU yn agosáu, mae'n hanfodol bod cyrff cyhoeddus yn cynyddu eu hymdrechion nawr.

Mae gennym dipyn i'w wneud eto i droi'r cynllunio yn realiti, gorffen cynlluniau, profi trefniadau a gwneud yn siŵr eu bod yn wydn.

Dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru, Adrian Crompton heddiw:

Mae Brexit yn her mewn cyfnod o heddwch nas gwelwyd o'r blaen i bawb ar draws y gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, ac rwy'n ymwybodol iawn nad oes yr un llawlyfr 'oddi ar y silff' ar gyfer delio â hyn a bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn glir nad yw hyn yn bosib i leddfu pob traweffaith Brexit heb gytundeb. Dyna pam nad wyf yn disgwyl i bob corff cyhoeddus gael cynlluniau cynhwysfawr ar gyfer pob goblygiad, risg a chyfle. Er hynny, gyda phythefnos yn unig nes y posibilrwydd o Brexit 'heb gytundeb', mae'n glir bod gan gyrff cyhoeddus lawer i'w wneud i baratoi eu hunain a chyhoedd Cymru o hyd. Dylai'r negeseuon allweddol yn fy adroddiad ymddwyn fel sbardun i gryfhau a chyflymu cynllunio ledled Cymru."

Diwedd

Nodiadau i Olygyddion:

  • Mae'r adroddiad hwn yn ystyried y trefniadau mae cyrff cyhoeddus ledled Cymru yn eu cyflwyno i reoli goblygiadau, risgiau a chyfleoedd Brexit.
  • Dyma'r cyntaf mewn cyfres o adroddiadau esboniadol, gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, ar faterion yn cynnwys Brexit.   
  • Mae nifer o feysydd polisi perthnasol wedi eu cadw gan Lywodraeth y DU, ac mae'r adroddiad yn ymdrin â chyrff datganoledig yn unig. Mae'n darparu trosolwg lefel uchel o sut mae cyrff cyhoeddus yng Nghymru yn rheoli goblygiadau, risgiau a chyfleoedd Brexit. Mae’r adroddiad yn nodi bod Llywodraeth cymru wedi’i chael yn anodd weithiau cael gwybodaeth llawn ac amserol gan rai adrannau Llywodraeth y DU. Rydym wedi cael gwybod bod y perthnasau yma wedi gwella yn ystod y misoedd diwethaf.
  • Ym mis Tachwedd 2018, rhoddodd yr Archwilydd Cyffredinol wahoddiad i Brif Weithredwyr pob corff cyhoeddus datganoledig yng Nghymru i rannu tystiolaeth o'u paratoadau at Brexit; mae pob un wedi ymateb, a'r rhan fwyaf hefyd wedi cwblhau hunan-asesiad.
  • Ar adeg cyhoeddi'r adroddiad hwn, mae siawns uchel o Brexit heb gytundeb o hyd.
  • Nid oes gan Archwilydd Cyffredinol Cymru farn ynghylch y trafodaethau gwleidyddol na'r penderfyniadau gwleidyddol o ran y llwybr y dylai Brexit ei ddilyn.
  • Yr Archwilydd Cyffredinol yw archwilydd allanol statudol annibynnol y sector cyhoeddus datganoledig yng Nghymru. Mae'n gyfrifol am yr archwiliad blynyddol o'r rhan fwyaf o'r arian cyhoeddus sy'n cael ei wario yng Nghymru, gan gynnwys y £15 biliwn o gronfeydd y pleidleisir yn flynyddol arnynt gan y Cynulliad Cenedlaethol. Mae elfennau o'r cyllid hwn yn cael eu trosglwyddo gan Lywodraeth Cymru i'r GIG yng Nghymru (dros £7 biliwn) ac i lywodraeth leol (dros £4 biliwn).
  • Mae annibyniaeth archwilio'r Archwilydd Cyffredinol yn hollbwysig. Fe'i penodir gan y Frenhines, ac nid yw ei waith archwilio yn destun cyfarwyddyd neu reolaeth gan y Cynulliad Cenedlaethol na'r llywodraeth. 
  • Mae Swyddfa Archwilio Cymru (WAO) yn gorff corfforaethol sy'n cynnwys naw aelod o'r Bwrdd statudol sy'n cyflogi staff ac yn darparu adnoddau eraill i'r Archwilydd Cyffredinol, sydd hefyd yn Brif Weithredwr ac yn Swyddog Cyfrifyddu'r Bwrdd. Mae'r Bwrdd yn monitro ac yn cynghori'r Archwilydd Cyffredinol, o ran arfer ei swyddogaethau.