COVID-19 wedi gwaethygu problemau rhestr aros GIG Cymru ond hefyd wedi creu cyfle unigryw i lunio system gofal wedi’i chynllunio’n well

dydd Iau, Medi 17, 2020 - 7:05yb

Nodi deg cyfle allweddol ar gyfer sut y gall y GIG yng Nghymru ailgychwyn ac ailosod systemau gofal cynlluniedig yn dilyn y pandemig 

 

Er bod mwy o gleifion yn wynebu amseroedd aros hir, mae gan y GIG yng Nghymru gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i ailosod ac ailgychwyn ei system gofal wedi’i gynllunio, er mwyn sicrhau ei bod yn canolbwyntio mwy ar y claf, ac yn gallu rheoli’r galw mewn ffordd fwy cynaliadwy, yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.

Ddydd Gwener 13 Mawrth 2020, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai’n atal pob triniaeth gofal wedi’i gynllunio nad oedd yn rhai brys mewn ysbytai er mwyn paratoi ar gyfer y don arfaethedig o gleifion COVID-19. Daeth hyn o flaen cyhoeddiadau tebyg ar gyfer Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae’r GIG wedi parhau i drin y cleifion gyda’r anghenion mwyaf brys. Ond mae cannoedd o filoedd o bobl yng Nghymru bellach yn wynebu amseroedd aros hir iawn am eu diagnosis a’u triniaeth. Ddiwedd mis Mai 2020, roedd tua 148,000 o gleifion wedi bod yn aros yn hwy na chwe mis (i fyny o 77,000 ym mis Ionawr). O’r cleifion hynny, roedd 79,000 yn dal i aros am eu hapwyntiad claf allanol cyntaf (i fyny o 33,000 ym mis Ionawr).

Fodd bynnag, cyn i’r pandemig COVID-19 daro, roedd y GIG yng Nghymru eisoes yn cael trafferth gydag amseroedd aros cynyddol ar gyfer gofal wedi’i gynllunio. Bu dirywiad cyflym yn ystod 2019-20, yn bennaf oherwydd rheolau treth newydd a barodd i staff y GIG fod yn llai tebygol o weithio sifftiau ychwanegol. Gwnaed rhywfaint o gynnydd mewn meysydd penodol ers i’r Archwilydd Cyffredinol adrodd ar amseroedd aros a gwasanaethau orthopedig yn 2015. Ond ni welwyd y mathau o newid system gyfan sydd ei angen i greu system gofal wedi’i gynllunio sy’n gynaliadwy ac yn gallu bodloni targedau amseroedd aros.

Mae’r GIG bellach yn wynebu’r her o fynd i’r afael â’r ôl-groniad sylweddol hwn o driniaeth ddewisol wrth barhau i ddelio ag effeithiau’r pandemig. Mae’r adroddiad heddiw’n nodi deg cyfle i’r GIG yng Nghymru wrth iddo geisio ailgyflwyno gofal wedi’i gynllunio. Mae pump o’r cyfleoedd yn canolbwyntio ar ffyrdd o ail-afael mewn gwasanaethau yn y tymor byr, tra bod y pum cyfle arall yn edrych ar newid tymor hwy yn y system gofal wedi’i gynllunio.

Mae’r pum cyfle uniongyrchol a nodwyd wrth i ofal wedi’i gynllunio ailgychwyn yn cynnwys:

  • Parhau i ddatblygu systemau sy’n sicrhau bod y GIG yn blaenoriaethu’r cleifion hynny sydd â’r angen mwyaf am driniaeth.
  • Ymgysylltu â’r cyhoedd a chleifion i egluro’r heriau y mae’r GIG yn eu hwynebu a realiti amseroedd aros hir i lawer, a gweithio gyda chleifion i ystyried a allai fod opsiynau amgen ar gyfer eu triniaeth.
  • Ailgyflwyno gwasanaethau mewn ffordd ofalus ac wedi’i chynllunio, gan sicrhau diogelwch pawb dan sylw ond bod yn ddigon hyblyg i ymateb yn gyflym i heriau COVID-19 parhaus.
  • Clinigwyr a gwyddonwyr data yn cydweithio i fynd drwy restrau aros, i brofi’n drylwyr ai’r llawdriniaeth neu’r driniaeth honno yw’r opsiwn gorau i’r claf.
  • Gan adeiladu ar negeseuon diogelu iechyd y cyhoedd i annog pobl i gymryd cyfrifoldeb am eu hiechyd eu hunain ac iechyd pobl eraill, er enghraifft drwy fanteisio ar frechlynnau ffliw, cynnal hylendid da a chadw pellter cymdeithasol a lleihau lledaeniad pob math o heintiau, nid dim ond COVID-19, gan ddiogelu capasiti’r GIG dros gyfnod anodd yr hydref/gaeaf.

Mae’r pum cyfle a nodwyd ar gyfer y tymor hwy yn cynnwys:

  • Gwneud rhai penderfyniadau dewr ynghylch a yw’r targedau presennol yn helpu gwasanaethau i ganolbwyntio ar y rhai sydd â’r angen mwyaf a’r pethau sydd bwysicaf i gleifion a’u teuluoedd.
  • Cryfhau arweinyddiaeth ynghylch newid a gwella, dysgu gwersi o’r ffordd y cafodd rhaglenni cenedlaethol eu cynnal o’r blaen ac o’r dulliau o arwain a ddatblygwyd fel rhan o’r ymateb i COVID-19.
  • Cyfuno ac ehangu newidiadau diweddar i wasanaethau, a sicrhau bod y rhain yn cael eu gwneud mewn ffyrdd sy’n cynnwys cleifion.
  • Cael adolygiad trylwyr a gonest o’r capasiti a’r adnoddau sydd eu hangen dros y tymor hwy i ddarparu gofal wedi’i gynllunio cynaliadwy ar gyfer GIG Cymru.
  • Datblygu ffyrdd o fesur cynnydd a llwyddiant ar gyfer gofal wedi’i gynllunio sy’n seiliedig ar yr hyn sy’n bwysig i gleifion.

 

 

Wrth ymateb i COVID-19, mae’r GIG yng Nghymru wedi dangos y gall addasu a newid yn gyflym. Fel y mae datblygiadau diweddar wedi dangos, mae’r feirws yn dal i fod gyda ni a disgwylir i’r gaeaf hwn fod yn arbennig o heriol. Wrth geisio ailgyflwyno gofal wedi’i gynllunio mewn ffordd ddiogel, mae’n hanfodol bod pob cyfle’n cael ei gymryd i ail-afael ynddi yn well a mynd i’r afael â phroblemau a oedd yn amlwg yn y system cyn COVID-19. Rwy’n gobeithio bod yr adroddiad hwn yn ysgogiad defnyddiol i’r meddylfryd sydd eisoes wedi dechrau cyflawni’r nod pwysig hwnnw

Adrian Crompton, Archwilydd Cyffredinol

Nodiadau i Olygyddion:

  • Pan gyflwynwyd y cyfyngiadau symud yn y DU ym mis Mawrth, roedd Archwilio Cymru yn cwblhau gwaith dilynol yn edrych ar y cynnydd a wnaed ers cyhoeddi adroddiadau ar amseroedd aros am wasanaethau gofal ac orthopedig dewisol yn 2015. Mae’r adroddiad hwn yn defnyddio canfyddiadau’r gwaith archwilio hwnnw ac yn ail-fframio’r negeseuon allweddol i lywio cynlluniau sy’n dod i’r amlwg ar gyfer ailgychwyn gwasanaethau gofal wedi’i gynllunio, yn ogystal â thrafodaethau ehangach ar sut mae angen i’r GIG fod yn y cyfnod wedi COVID-19.
  • Mae’r adroddiad yn awgrymu deg cyfle a allai helpu i greu newidiadau cynaliadwy ar gyfer system gofal wedi’i gynllunio y GIG, a fyddai’n cyd-fynd â’r pum ffordd o weithio a nodir yn Neddf Cenedlaethau’r Dyfodol.
  • Mae gofal wedi’i gynllunio, sydd hefyd yn cael ei alw’n ofal dewisol, yn cynnwys diagnosis a thriniaeth cleifion mewn ffordd wedi’i chynllunio o ran gofal eilaidd, ar ôl iddynt gael eu hatgyfeirio gan feddyg teulu neu weithiwr iechyd proffesiynol arall. Un o nodweddion allweddol gofal wedi’i gynllunio yw bod cleifion fel arfer yn aros wythnosau neu fisoedd am eu diagnosis a’u triniaeth. Mae gofal wedi’i gynllunio yn cael ei gyferbynnu â gofal heb ei drefnu, sy’n cwmpasu gofal brys nad yw wedi’i gynllunio, er enghraifft drwy adrannau damweiniau ac achosion brys.
  • Yr Archwilydd Cyffredinol yw archwilydd allanol statudol annibynnol y sector cyhoeddus datganoledig yng Nghymru. Mae’n gyfrifol am archwilio’r rhan fwyaf o’r arian cyhoeddus a gaiff ei wario yng Nghymru yn flynyddol, gan gynnwys yr £20 biliwn o gyllid y pleidleisir arno bob blwyddyn gan Senedd Cymru. Caiff elfennau o’r arian hwn eu trosglwyddo gan Lywodraeth Cymru i’r GIG yng Nghymru (dros £8 biliwn) ac i lywodraeth leol (dros £4 biliwn).
  • Mae annibyniaeth archwilio yr Archwilydd Cyffredinol yn hollbwysig. Caiff ei benodi gan y Frenhines, ac nid yw ei waith archwilio yn destun cyfarwyddyd na rheolaeth gan Senedd Cymru na’r Llywodraeth.
  • Corff corfforaethol sy’n cynnwys naw aelod bwrdd statudol yw Swyddfa Archwilio Cymru. Mae’n cyflogi staff ac yn darparu adnoddau eraill i’r Archwilydd Cyffredinol, sydd hefyd yn Brif Weithredwr i’r Bwrdd ac yn Swyddog Cyfrifyddu. Mae’r Bwrdd yn monitro ac yn cynghori’r Archwilydd Cyffredinol ynghylch y modd o arfer ei swyddogaethau.
  • Archwilio Cymru yw’r enw ymbarél ar gyfer Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru. Mae Archwilio Cymru yn nod masnach cofrestredig ond nid yw’n endid cyfreithiol yn ei rinwedd ei hun.