Shared Learning Webinar
Paned a Sgwrs - Robyn Lovelock

Rhywbeth Difyr gyda Rhywun Difyr

Ynglŷn â'r digwyddiad hwn

Ydych chi yn gyfrifol am gomisiynu adeiladau neu isadeiledd? Neu â diddordeb dysgu mwy am sut mae prosiectau o’r fath yn digwydd?

Wel, ar Fai 25ain 2023 mae gennym rywun difyr gyda rhywbeth difyr i chi!

Mae 50% o allyriadau carbon y DU yn deillio o adeiladu ac isadeiledd, ac mae eu hadeiladu hefyd yn cyfrannu at leihau bioamrywiaeth a difodiant rhywogaethau.

Dewch i ddysgu am fethodoleg arloesol sydd yn cefnogi prosiectau adeiladu i weithredu ar sero net, fydd yn lleihau allyriadau carbon wedi eu hymgorffori o 40% ac sydd yn anelu i yrru cynnydd o 10% mewn bioamrywiaeth!

Robyn Lovelock yw Arweinydd Gwireddu Buddion ac mae’n Rheolwr Rhaglen yn Uchelgais Gogledd Cymru. Mae ganddi dros 20 mlynedd o brofiad o ddylunio, cyflawni a mesur rhaglenni datblygu cynaliadwy yn rhyngwladol, ac mae bellach yn gweithio i gyflawni twf cynaliadwy a chynhwysol i Ogledd Cymru. Mae’r erthygl ddiweddar yma a gyhoeddwyd gan yr Sefydliad Materion Cymreig yn ddiweddar [agor mewn ffenest newydd] yn crynhoi rhywfaint o’r gwaith mae Robyn yn ei arwain gyda thîm Uchelgais Gogledd Cymru.

Mae gweithio tuag at nodau cynaladwyedd uchelgeisiol, yn ogystal a chael amcanion caffael â gwerth cymdeithasol cryf yn heriol, a bydd angen arloesi i’w gyflawni. Ymunwch â ni er mwyn dysgu gan rywun sydd yn wynebu’r heriau yma.

 

Os hoffech gael eich hysbysu, cofrestrwch a dilynwch y digwyddiad hwn

Bydd rhagor o wybodaeth am y digwyddiad hwn yn cael ei ychwanegu yn fuan