Shared Learning Webinar
Paned a Sgwrs - Gemma Lelliott

Rhywbeth Difyr gyda Rhywun Difyr

Ynglŷn â'r digwyddiad hwn

Gemma Lelliott yw Cyfarwyddwr Cymru ar gyfer y Gymdeithas Trafnidiaeth Gymunedol ac mae'n gweithio i gefnogi Cymdeithasau Teithio Cymunedol yng Nghymru trwy ddarparu gwybodaeth, eiriolaeth, hyfforddiant a chynnal lle i aelodau ddod at ei gilydd.

Mae trafnidiaeth gymunedol yn darparu atebion hyblyg a hygyrch dan arweiniad y gymuned mewn ymateb i anghenion trafnidiaeth leol sydd heb eu diwallu, ac yn aml mae'n cynrychioli'r unig fodd o drafnidiaeth i lawer o bobl fregus ac ynysig, yn aml pobl hŷn neu bobl ag anableddau. Yn aml, dyma hefyd y ffordd fwyaf dibynadwy, gwydn a hygyrch o sicrhau bod modd diwallu'r ystod ehangaf o anghenion trafnidiaeth.

Bydd Gemma yn rhannu rhai prosiectau mae'r Gymdeithas Cludiant Cymunedol wedi ymgymryd â nhw yn ddiweddar yng Nghymru sydd wir yn dangos yr effaith gadarnhaol y gall trafnidiaeth wedi'i harwain gan y gymuned ei gael.

Nod Paned a Sgwrs yw dod â phobl at ei gilydd a hwyluso trawsbeillio syniadau fel rhan greiddiol o waith Cyfnewidfa Arfer Da Archwilio Cymru.

Mae'n gyfres o sesiynau hunangynhwysol sydd wedi'u hanelu at hwyluso cysylltiadau rhwng pobl ddiddorol, a rhannu rhywbeth diddorol.

 

Sut ydw i'n cofrestru fy niddordeb?

Llenwch eich manylion ar y ffurflen gofrestru sydd ar ochr dde y dudalen yma os gwelwch yn dda. Rydym yn darparu hysbysiad preifatrwydd [agorir mewn ffenest newydd] i gynrychiolwyr, sy’n dweud wrthych chi sut rydym yn delio gyda’ch data personol fel rhan o’r broses gofrestru.  

I gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiad, anfonwch e-bost i Arfer.Da@archwilio.cymru 

Dosberthir cyfarwyddiadau ymuno 1-2 diwrnod cyn y digwyddiad. Sicrhewch eich bod yn darparu eich cyfeiriad e-bost wrth archebu lle er mwyn sicrhau ein bod yn gallu anfon gwybodaeth atoch.

Os hoffech gael eich hysbysu, cofrestrwch a dilynwch y digwyddiad hwn

Bydd rhagor o wybodaeth am y digwyddiad hwn yn cael ei ychwanegu yn fuan