Shared Learning Webinar
Gyda'n gilydd gallwn – creu'r amodau i rymuso ein cymunedau i ffynnu

Rhannu canfyddiadau ein hadroddiadau ar fentrau cymdeithasol a gwydnwch cymunedol, gan gynnwys enghreifftiau o arfer da.

Ynglŷn â'r digwyddiad hwn

Bydd y digwyddiad dysgu ar y cyd hwn yn dod â phobl ynghyd o bob rhan o wasanaethau cyhoeddus i rannu syniadau, dysgu a gwybodaeth.

Byddwn hefyd yn rhannu enghreifftiau o ddulliau gweithredu gan sefydliadau yng Nghymru a'r DU sy'n cael effaith wirioneddol ar draws cymunedau.

Yn ystod y 15 mlynedd ddiwethaf, mae llywodraeth leol yng Nghymru wedi wynebu pwysau sylweddol, gan ddelio ag argyfwng ar ôl argyfwng, sydd wedi newid y ffordd mae gwasanaethau yn cael eu darparu. Gwnaeth gyni roi gallu llywodraeth leol i newid ac ymateb ar brawf.

Addasodd awdurdodau lleol yn dda wrth ymateb i'r her hon, gan ddyfeisio a gweithredu ystod o fesurau effeithlonrwydd a oedd yn lleihau cost gwasanaethau, ond hefyd dod o hyd i ffyrdd arloesol o weithio.

Ond erbyn hyn, mae gwasanaethau cyhoeddus yn wynebu eu heriau mwyaf sylweddol ers cenhedlaeth. Eisoes mae gan Gymru rhai o'r lefelau tlodi mwyaf a dyfnaf ym Mhrydain Fawr ac mae cymunedau'n wynebu argyfwng costau byw. Ynghyd â rhagolygon ariannol heriol a phoblogaeth sy'n heneiddio, mae'n amlwg y bydd angen i wasanaethau cyhoeddus ddod o hyd i wahanol ffyrdd o gynnal gwasanaethau a pharhau i ategu'r gymuned ehangach ac yn arbennig y rhai sydd fwyaf mewn angen.

Gwnaethom gyhoeddi cyfres o adroddiadau yn ddiweddar. Roedd ein hadroddiad cyntaf yn darparu llinell sylfaen sy'n dangos mai tlodi yw'r her fawr sy'n wynebu pob haen o lywodraeth. Gyda'r cyd-destun hwn mewn golwg, edrychodd ein hail adroddiad ar sut mae awdurdodau lleol yn gweithio i dyfu ac ehangu mentrau cymdeithasol i helpu llywodraeth leol i ddarparu mwy o wasanaethau a lleihau'r galw. Yn olaf, canolbwyntiodd ein trydydd adroddiad ar ddeall sut mae awdurdodau lleol yn creu'r amodau sydd eu hangen i drawsnewid ffyrdd o weithio a grymuso cymunedau i ffynnu mor annibynnol â phosibl.

Nod ein hargymhellion yw ategu awdurdodau lleol i ddefnyddio ein hadroddiad i hunan-werthuso cyfathrebu, rheoli, perfformiad ac ymarfer cyfredol er mwyn nodi lle mae angen gwella.

You have no upcoming events
You have no upcoming events

Os hoffech gael eich hysbysu, cofrestrwch a dilynwch y digwyddiad hwn

Bydd rhagor o wybodaeth am y digwyddiad hwn yn cael ei ychwanegu yn fuan

You have no upcoming events