Webinar
Gweminar byw: Rhaglen Prentisiaeth Cyllid Sector Cyhoeddus Cymru Gyfan
Ynglŷn â'r digwyddiad hwn

Ydych chi'n chwilio am ddewis arall yn lle'r brifysgol ond gyda'r un rhagolygon hirdymor? Oes gennych chi ddiddordeb mewn gyrfa ym maes cyllid a chyfrifyddiaeth?

 Ymunwch â'n gweminar byw i gael gwybod beth sydd gan Raglen Brentisiaeth Cyllid Sector Cyhoeddus Cymru Gyfan i'w gynnig.

 Cyflwynir y rhaglen newydd arloesol hon mewn partneriaeth ag aelodau o'r Grŵp Datblygu Sgiliau Cyllid; partneriaeth sydd â'r nod o ddatblygu sgiliau arwain cyllid ledled Cymru.

 Cewch glywed gan aelodau'r Grŵp Datblygu Sgiliau Cyllid am yr hyn y gallwch ei ddisgwyl gan y rhaglen newydd gyffrous, yn ogystal â sut i wneud cais.

 Ddim yn siŵr ai prentisiaeth yw'r llwybr cywir i chi? Cewch gyfle i ofyn eich cwestiynau i'r panel a chlywed gan gyn-brentisiaid am eu profiadau nhw.

Sylwch, bydd y gweminar yn cael ei recordio a'i storio ar YouTube i’w wylio yn y dyfodol.

Sut ydw i'n cofrestru fy niddordeb?

Llenwch eich manylion ar y ffurflen archebu i'r dde o'r dudalen hon. Pan fyddwch yn cofrestru ar gyfer digwyddiad yr ydym wedi'i drefnu, rydym yn casglu gwybodaeth benodol amdanoch fel cynrychiolydd, hwylusydd neu gyfrannwr. Gall digwyddiadau gynnwys cynadleddau, ymgysylltu, neu gyfarfodydd a digwyddiadau eraill. I gael gwybod mwy, darllenwch ein hysbysiad prosesu teg digwyddiadau [PDF agorir mewn ffenestr newydd]. Cynhelir y weminar ar Zoom. Gall gweithredwyr y feddalwedd gasglu gwybodaeth gennych chi i’w defnyddio yn unol â’u polisi preifatrwydd [agorir mewn ffenest newydd].

Caiff cyfarwyddiadau ymuno eu dosbarthu 1-2 ddiwrnod cyn y digwyddiad. Sicrhewch eich bod yn darparu eich cyfeiriad e-bost wrth archebu lle i sicrhau y gallwn anfon gwybodaeth atoch.

 

Os hoffech gael eich hysbysu, cofrestrwch a dilynwch y digwyddiad hwn

Bydd rhagor o wybodaeth am y digwyddiad hwn yn cael ei ychwanegu yn fuan