Shared Learning Webinar
Adfywio Canol Trefi - Gweminar i Aelodau Etholedig

Ymunwch â ni am 10:30 o’r gloch yb ar 10 Rhagfyr 2021 i drafod heriau adfywio canol trefi yng Nghymru

Ynglŷn â'r digwyddiad hwn

Adfywio Canol Trefi – Gweminar i Aelodau Etholedig

Ym mis Medi 2021, cyhoeddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru ei adroddiad ar Adfywio Canol Trefi. Ochr yn ochr â'r adroddiad, ceir offeryn data ac offeryn hunanarfarnu hefyd.

Mae'r adroddiad yn gwneud argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol ac mae wedi ysgogi llawer o ddiddordeb ar yr heriau sy'n wynebu cymunedau ledled Cymru a'r hyn sydd angen digwydd yn y dyfodol.

Mae'r weminar am 10:30 o’r gloch yb ar 10 Rhagfyr 2021, ac mae'n agored i bob aelod etholedig ond yn benodol y rhai sydd â phortffolio cabinet ar gyfer adfywio ac ar gyfer aelodau etholedig sy'n gyfrifol am graffu ar adfywio canol trefi. Bydd y weminar yn eich darparu â’r:

  • cyfle i glywed gan Archwilio Cymru am eu hadolygiad a'u canfyddiadau;
  • gwybodaeth am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud mewn ymateb i'r adroddiad a beth arall y mae wedi'i gynllunio; a’r
  • cyfle i ofyn cwestiynau, cwrdd ag aelodau etholedig eraill ar-lein a rhannu dysgu.

Ymunwch â ni am 10:30 o’r gloch yb ar 10 Rhagfyr 2021 i drafod heriau adfywio canol trefi yng Nghymru.

You have no upcoming events
You have no upcoming events

Os hoffech gael eich hysbysu, cofrestrwch a dilynwch y digwyddiad hwn

Bydd rhagor o wybodaeth am y digwyddiad hwn yn cael ei ychwanegu yn fuan

You have no upcoming events