Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi canfyddiadau’r gwaith archwilio a wnaed yn Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn ystod 2018.
Mae cyfrifon yr Ymddiriedolaeth wedi’u paratoi’n briodol ac yn faterol gywir, ac ni nodwyd unrhyw wendidau perthnasol o ran rheolaethau mewnol yr Ymddiriedolaeth sy’n berthnasol i archwilio’r cyfrifon, gan arwain at farn ddiamod ar eu paratoad.