Ar ran yr Archwilydd Cyffredinol, ein staff wedi archwilio a yw trefniadau Llywodraeth Cymru ar gyfer consortia rhanbarthol yn debygol o gyflwyno’r gwelliannau a fwriedir i gynorthwyo ysgolion ac awdurdodau lleol. Wrth adolygu datblygiad y consortia rhanbarthol, gwnaethom ganolbwyntio ar effeithiolrwydd y trefniadau llywodraethu yn seiliedig ar The Good Governance Standard for Public Services.
Daethom i’r casgliad fod sylfeini’r gwasanaethau rhanbarthol ar gyfer gwella ysgolion yn cael eu sefydlu, ar ôl cychwyn ansicr, ac mae arwyddion cadarnhaol o gynnydd, ond mae gwendidau sy’n parhau i amharu ar ddatblygiad y system gyfan ac ar ddulliau effeithiol o lywodraethu a rheoli cyllid y consortia rhanbarthol.