Rheoli Cyflyrau Cronig yng Nghymru – Diweddariad

27 Maw 2014 - 12:00yb

Mae cyflyrau cronig yn her gynyddol i iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru. Amcangyfrifir bod 800,000 o bobl yn nodi bod ganddynt o leiaf un cyflwr cronig fel diabetes, clefyd y galon, neu glefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint. Mae nifer yr achosion o gyflyrau cronig yn cynyddu gydag oedran, sy’n debygol o roi mwy o bwysau ar y system iechyd wrth i fwy o bobl fyw’n hŷn.

Mae’r adroddiad yn dangos bod cynnydd wedi’i wneud. Mae strategaethau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ers 2008 yn darparu gweledigaeth glir ar gyfer gwella’r broses o reoli cyflyrau cronig. Mae mynediad wedi gwella ar lefel leol i raglenni addysg cleifion, sy’n helpu pobl i reoli cyflyrau hirdymor eu hunain. Mae cyllidebau ar gyfer gwasanaethau cymunedol wedi cynyddu, mae mwy o nyrsys yn gweithio mewn lleoliadau cymunedol, ac mae cleifion yn gallu dod o hyd i wasanaethau cymunedol yn gynt. Gyda’i gilydd, mae’r ffactorau hyn wedi lleihau nifer y bobl sy’n cael eu derbyn i’r ysbyty oherwydd salwch sy’n gysylltiedig â chyflyrau cronig.

Fodd bynnag, mae’r adroddiad hefyd yn nodi’r meysydd lle mae angen cynnydd pellach. Mewn sawl bwrdd iechyd, nid yw’r cynlluniau sy’n nodi sut y bydd gofal yn cael ei symud o ysbytai i leoliadau cymunedol yn ddigon clir. Mae’r rhan fwyaf o wasanaethau cymunedol ar gyfer cyflyrau cronig ar gael yn ystod yr wythnos yn unig, ac mae angen gwella’r broses o gydgysylltu gwaith y grwpiau a thimau staff gwahanol sy’n gofalu am gleifion â chyflyrau cronig. Mae angen gwneud mwy o waith hefyd i sefydlu’r prosesau ar gyfer nodi a chefnogi cleifion sydd â’r risg fwyaf o gael eu derbyn i’r ysbyty fel achosion heb eu cynllunio.

Hoffen ni gael eich adborth

Darganfod dogfennau