Rhwng mis Mawrth a mis Mehefin 2015, gwnaed gwaith dilynol gennym ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys, i asesu i ba raddau yr oedd wedi rhoi argymhellion cenedlaethol yr Archwilydd Cyffredinol a wnaed yn 2012 ynghylch arlwyo ysbytai a maeth cleifion ar waith.
Mae’r Bwrdd Iechyd wedi gwneud cynnydd da o ran rhoi sylw i argymhellion i wella gwasanaethau arlwyo a maetheg. Mae angen gwneud rhagor o waith i gryfhau rhai agweddau ar y profiad amser bwyd, i reoli costau’n fwy effeithiol ac i wella’r broses o adrodd ar berfformiad.