Ceisiai’r Asesiad Corfforaethol hwn ateb y cwestiwn canlynol: ‘A yw’r Cyngor yn gallu cyflawni ei flaenoriaethau a sicrhau canlyniadau gwell i’w ddinasyddion?
Daeth ein hadolygiad i'r casgliad fod gweledigaeth ac uchelgais Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn helpu i sicrhau canlyniadau gwell i’w ddinasyddion, ond gall rhai trefniadau sydd wedi dyddio fod yn cyfyngu ar gyflymder y cynnydd.