Roedd ein hadolygiad yn ceisio ateb y cwestiwn: A yw’r Cyngor wedi gweithredu ar yr argymhellion a’r cynigion ar gyfer gwella yn adroddiadau cenedlaethol a lleol yr Archwilydd Cyffredinol a gyhoeddwyd yn 2014 a 2015?
Mae’r Cyngor wedi gweithredu, neu weithredu’n rhannol, ar y rhan fwyaf o’n hargymhellion blaenorol a’n cynigion blaenorol ar gyfer gwella, ond rydym wedi adnabod rhai cynigion pellach ar gyfer gwella i gryfhau agweddau ar drefniadau diogelu corfforaethol y Cyngor.