Cyflwynwyd llythyr blynyddol interim i Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg (y Bwrdd Iechyd) ym mis Mehefin 2010. Roedd yr adroddiad hwnnw’n ymwneud â’mgwaith archwilio yn ystod chwe mis olaf cyrff rhagflaenol y Bwrdd Iechyd hyd 30 Medi 2009. Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi canfyddiadau gwaith archwilio rwyf wedi’i gyflawni yn y Bwrdd Iechyd yn ystod rhan olaf 2009 a gydol 2010.
Drwy fy ngwaith ar archwilio cyfrifon, rwyf wedi rhoi barn ddiamod ar ddatganiadau ariannol y Bwrdd Iechyd. Deuthum hefyd i’r casgliadau canlynol:
- roedd cyfrifon y Bwrdd Iechyd wedi’u paratoi’n briodol ac yn gywir ym mhob ffordd berthnasol;
- roedd gan y Bwrdd Iechyd amgylchedd rheolaeth fewnol effeithiol i leihau’r perygl o gynnwys camddatganiadau perthnasol yn y Datganiadau Ariannol; ac
- roedd systemau ariannol a chyfrifyddu pwysig y Bwrdd Iechyd yn cael eu rheoli’n briodol ac yn gweithredu fel y dylent.