Mae’r adroddiad hwn yn rhoi rhagor o wybodaeth am berfformiad ac achosion amseroedd aros hir yng Nghymru.
Mae Rhan 1 yn cynnwys dadansoddiad pellach o berfformiad GIG Cymru yn erbyn ei dargedau amseroedd aros ei hun. Mae Rhan 2 yn darparu tystiolaeth ychwanegol yn ymwneud â’r ffactorau sy’n cyfrannu at berfformiad amseroedd aros cyfredol a’r meysydd lle mae cyfle i ddefnyddio capasiti cyfredol yn well. Darllenwch y prif adroddiad.