O fes bach… Sut mae angen i rôl Llywodraeth Leol wella er mwyn helpu'r trydydd sector i dyfu

05 Tachwedd 2020
  • blog-post-acorn-imageYn y blog canlynol, mae Rheolwr Llywodraeth Leol Swyddfa Archwilio Cymru, Nick Selwyn, yn ystyried pwysigrwydd y gydberthynas rhwng llywodraeth leol a'r trydydd sector yng Nghymru, yn dilyn cyhoeddi adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru Y Modd y mae Awdurdodau Lleol yn Ariannu Gwasanaethau’r Trydydd Sector. Mae Nick yn rhannu ei farn am hyn ac adnodd hunanasesu newydd i helpu'r sector i sicrhau'r gwerth mwyaf posibl am arian.

    Mae'r rhan fwyaf ohonom yn sylweddoli pa mor bwysig yw'r trydydd sector bellach i gymunedau ledled Cymru. Mae'n cefnogi'r celfyddydau, yn helpu'r tlawd, yn gofalu am bobl sy'n agored i niwed, yn hyrwyddo llywodraeth well ac yn cefnogi addysg a'r amgylchedd gan ddarparu'r cyswllt rhwng dinasyddion a'r wladwriaeth. Mae'r trydydd sector yn elfen hanfodol o'n bywyd o ddydd i ddydd, ond yn aml yn cael ei anwybyddu wrth gyflwyno gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru.

    Beth yw'r trydydd sector?

    Y trydydd sector yw'r term a ddefnyddir i ddisgrifio'r amrywiaeth o sefydliadau nad ydynt yn cael eu rheoli gan y wladwriaeth nac yn rhan o'r sector preifat ac mae'n cynnwys sefydliadau gwirfoddol a chymunedol, elusennau cofrestredig a sefydliadau di-elw eraill. Mae sefydliadau trydydd sector yn amrywio o ran eu maint a'u cwmpas, o grwpiau cymunedol bach, lleol i elusennau rhyngwladol, mawr.

    O fes bach y tyf pethau mawr

    Mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru'n amcangyfrif bod y trydydd sector yng Nghymru yn cynnwys dros 32,000 o sefydliadau gwahanol ac yn cyflogi dros 50,000 o bobl a bod ganddo 1.13 miliwn o wirfoddolwyr. Mae sefydliadau yn y trydydd sector yn denu cyllid o amrywiaeth o ffynonellau, gan gynnwys awdurdodau lleol sydd, ar hyn o bryd, yn buddsoddi oddeutu chwarter biliwn o bunnau y flwyddyn yn y sector.

    Hefyd, disgwylir i'r trydydd sector dyfu'n sylweddol wrth i dirwedd gwasanaethau cyhoeddus Cymru newid yn y blynyddoedd i ddod. Er y bydd cyflymder a chanlyniadau'r newid hwn yn amrywio ledled y wlad a rhwng awdurdodau lleol, un thema gyson fydd darparu gwasanaethau trwy gymysgedd o sefydliadau yn y sector cyhoeddus, y sector busnes, y trydydd sector, y sector cymunedol a'r sector mentrau cymdeithasol yn hytrach na modelau blaenorol lle roedd awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill yn darparu'r rhan fwyaf o wasanaethau ac yn eu rheoli'n uniongyrchol.

    Troi mes yn goed

    Fel mae pob garddwr yn gwybod, mae rhai pethau sydd eu hangen ar bob planhigyn i oroesi. Yr elfennau cyffredin hyn – golau, dŵr ac aer – fydd yn rhoi'r maethynnau sylfaenol i'r planhigyn, yr amodau iddo dyfu a goroesi.

    Nid yw'r trydydd sector yng Nghymru yn wahanol.

    Er mwyn helpu'r sector i dyfu a blodeuo, mae angen i awdurdodau lleol ddatblygu strategaethau corfforaethol sy'n seiliedig ar ddata anghenion cywir o ansawdd da i lywio penderfyniadau, cynlluniau a gweithgarwch. Mae rhyw fath o gymorth ariannol i sefydliadau yn y trydydd sector ariannu cymorth seilwaith, gweithgarwch datblygu sefydliadol ac adeiladu cymunedau a gweithgareddau pwysig eraill hefyd yn hanfodol.

    O ystyried maint a phwysigrwydd y trydydd sector, swm yr arian a fuddsoddir a'r cynnydd disgwyliedig mewn gweithgarwch yn y dyfodol, yn ddiweddar cwblhaodd Archwilydd Cyffredinol Cymru adolygiad o'r modd y mae awdurdodau lleol yn ariannu gwasanaethau'r trydydd sector a gyhoeddwyd ar 26 Ionawr 2017.

    Helpu'r coed i flodeuo neu gymynu'r goedwig?

    Er bod awdurdodau lleol wedi cynyddu eu cyllid i'r trydydd sector, nodwyd gennym fod llawer o wendidau i weithio strategol gyda'r trydydd sector. Prin yw'r awdurdodau lleol sydd â strategaethau neu fframweithiau corfforaethol, cynhwysfawr sy'n seiliedig ar ddata anghenion cywir o ansawdd da i lywio penderfyniadau, cynlluniau a gweithgarwch ar gyfer y trydydd sector. Hyd yn oed lle mae bwriad strategol yn datblygu, mae gweithgarwch i droi dyheadau awdurdodau lleol yn gamau gweithredu'n amrywio'n fawr.

    Mae awdurdodau lleol sy'n perfformio'n well yn dechrau cynnal adolygiadau cynhwysfawr o'u trefniadau ar gyfer ariannu'r trydydd sector er mwyn nodi cyfanswm y gwariant ar y trydydd sector yn gywir a llywio penderfyniadau buddsoddi a sicrhau eu bod yn gyson. Fodd bynnag, nid yw pob awdurdod wedi mabwysiadu'r dull hwn o weithredu.

    Hefyd, mae angen i awdurdodau lleol fod â phrosesau gweinyddol da ar gyfer dyfarnu a rheoli cronfa waith y trydydd sector. Os cânt eu cyflawni'n wael, gall y prosesau ariannu osod beichiau trwm ar y trydydd sector ac arwain at wastraffu adnoddau. Er bod awdurdodau'n cydnabod pwysigrwydd creu systemau effeithlon a syml i reoli eu harian, mae llawer o wendidau ac nid yw'n glir a yw awdurdodau lleol yn sicrhau gwerth am arian o'u buddsoddiad.

    At hynny, nid yw llawer o sefydliadau trydydd sector yn glir ynghylch yr hyn sy'n ofynnol ganddynt ac mae angen iddynt gael cymorth gwell gan awdurdodau lleol.  Mae trefniadau rheoli perfformiad gwael hefyd yn gwanhau atebolrwydd ac yn cyfyngu ar allu Aelodau Etholedig i graffu ar weithgarwch a pherfformiad yn effeithiol. Nid yw'r rhan fwyaf o awdurdodau lleol wedi pennu mesurau i'w galluogi i farnu effaith eu gwaith gyda'r trydydd sector yn gyson ac mae anghysondebau o ran trefniadau rheoli risg yn ei gwneud yn anodd i awdurdodau lleol ddangos pa mor dda y maent yn gweithio gyda'r trydydd sector.

    Troi coed yn goedwigoedd

    Mae Llywodraeth Leol wedi gorfod ymdrin â chyfyngiadau mewn cyllid na welwyd mo'u tebyg o'r blaen yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Ynghyd â thirwedd wleidyddol newidiol diwygio llywodraeth leol a gofynion gweithredu deddfwriaeth bellgyrhaeddol, megis Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, mae awdurdodau lleol yn wynebu heriau sylweddol.

    Un o themâu cyffredin y dirwedd newidiol y mae'r awdurdodau lleol yn gweithredu ynddi yw'r disgwyliad y byddant yn gweithio hyd yn oed yn agosach gyda'r trydydd sector; a bydd rôl gynyddol i'w chwarae gan y trydydd sector wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol ledled Cymru. Mae'r disgwyliadau newidiol hyn yn gyfle ac yn her.

    Er mwyn helpu i ateb yr heriau hyn, rydym wedi gwneud cyfres o argymhellion i awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru. At hynny, rydym wedi datblygu rhestr wirio hunanasesu fanwl er mwyn galluogi awdurdodau lleol i werthuso a nodi lle mae angen atgyfnerthu'r prosesau a'r systemau sy'n sail i'w gwaith gyda'r trydydd sector ac yn ei gefnogi.

    Bydd defnyddio'r asesiad hwn yn helpu awdurdodau i sefydlu'r systemau cywir er mwyn sicrhau bod eu dewisiadau buddsoddi yn cael y gwerth gorau am arian. Bydd hyn, yn ei dro, yn eu galluogi i droi'r mes yn goed a'r coed yn goedwigoedd er budd pob un ohonom.

    Ynglŷn â’r awdur

    Nick SelwynMae Nick Selwyn yn Rheolwr Llywodraeth Leol yn Swyddfa Archwilio Cymru, gyda chyfrifoldebau am ein rhaglen o astudiaethau Cymru-gyfan. Mae wedi gweithio i’r Swyddfa Archwilio am wyth mlynedd mewn amryw o wahanol swyddi ac mae’n Gymrawd i’r Sefydliad Siartredig Tai.