Eich Tref, Eich Dyfodol – Astudiaeth Adfywio Canol Trefi

10 Mai 2021
  • Wrth edrych ymlaen at ein digwyddiad ar Fai'r 20fed, mae'r tîm sy'n gweithio ar astudiaeth Eich Tref, Eich Dyfodol ar adfywio canol trefi yn rhannu eu safbwyntiau. Gallwch gofrestru ar gyfer y digwyddiad yma.

    Wrth i’r pandemig barhau i gael effaith ar ganol ein trefi, mae’n amlwg y bydd y dyfodol yn wahanol iawn i’r gorffennol. Dengys ymchwil ddiweddar fod un o bob saith siop ar y stryd fawr yng Nghymru yn wag bellach a bod elw wedi gostwng tua 40% yn ystod y 12 mis diwethaf.

    Mae’r gostyngiad sydyn hwn yn dilyn dirywiad tymor hwy mewn llawer o ganol trefi ble mae safleoedd gwag cynyddol a cholli sefydliadau allweddol, fel banciau, swyddfeydd post a gwasanaethau cyhoeddus hanfodol. Mae’r symudiad at wasanaethau digidol, y twf mewn siopa ar-lein, sydd wedi cynyddu 10% yn y 12 mis diwethaf, a’r heriau parhaus o ran ardrethi busnes a manwerthu y tu allan i’r dref, yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus wneud penderfyniadau dewr a beiddgar i helpu i droi’r llanw.

    Nid yw’n syndod felly gweld bod Cynllun Ail-greu ar ôl COVID-19 Llywodraeth Cymru yn hybu adfywio canol trefi fel blaenoriaeth allweddol. Mae’r geiriau hyn yn bwysig, a’r gweithredoedd yn fwy felly. A dyna pam mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi bron i £0.5 biliwn ar gyfer adfywio trefi yn ystod y saith mlynedd diwethaf, ac yn parhau i wneud hynny wrth symud ymlaen.

    Mae Archwilio Cymru wedi bod yn cyflawni astudiaeth yn edrych ar ganol trefi yng Nghymru a’u dyfodol. Mae aelodau o dîm y prosiect – Nick Selwyn, Meleri Bethell, Matt Brushett a Sara Leahy – yn rhoi eu gwahanol fyfyrdodau ar yr hyn y maent wedi ei ddysgu yn yr astudiaeth hon.

     

    Nick

    Mae’r 14 mis diwethaf wedi bod yn her i bawb – methu â chwrdd a gweld teulu, ffrindiau a chydweithwyr; dod yn fwyfwy dideimlad i’r newyddion diweddaraf dyddiol ynghylch nifer yr achosion a’r marwolaethau; a gweld cymdeithas a gwasanaethau’n newid mewn ffyrdd na ragwelwyd erioed.

    A bu hynny’n wir am Archwilio Cymru hefyd.

    Yn ôl ym mis Mawrth 2020, pan ddechreuon ni gwmpasu ein hadolygiad adfywio canol trefi, daeth y tîm at ei gilydd i ddechrau cynllunio’r astudiaeth. Wrth edrych yn ôl, mae’n amlwg na feddyliais erioed y byddai’r pandemig yn para cyn hired â hyn (pwy wnaeth!) ac y byddai gofyn i ni ddod yn greadigol iawn o ran sut yr ydym ni’n cyflawni’r gwaith hwn.

    Ac yn union fel y trefi yng Nghymru – rydym ni wedi gorfod dysgu sut mae addasu ac mae’r hyn a wnawn, a sut yr ydym yn ei wneud, yn teimlo’n wahanol iawn 14 mis yn ddiweddarach.

    Lansiwyd yr astudiaeth gennym 8 mis yn ôl wrth i ni orffen y cyfyngiadau symud cyntaf. Ers hynny, rydym ni wedi arolygu dros 2,000 o bobl a 450 o fusnesau yng Nghymru ynghylch canol eu trefi. Rydym wedi cyfweld pob swyddog arweiniol ar gyfer adfywio mewn cynghorau ac mae nifer o rai eraill wedi darllen nifer enfawr o ddogfennau ac wedi dadansoddi llawer iawn o ddata. Rydym hefyd wedi darllen a chlywed straeon gan lawer o bobl ynghylch dyfodol eu trefi: y cyfnodau gorau, y cyfnodau gwaethaf, y da, y drwg, y dewr a’r optimistaidd. Rydym hefyd wedi bod drwy ddau gyfnod arall o gyfyngiadau symud.

    Fy mhrif fyfyrdod yw ein bod ni wedi cyflawni llawer iawn o waith o fewn amserlen fer iawn. Rydym ni wedi dysgu llawer; addasu’n helaeth; dod o hyd i ffyrdd gwahanol o weithio, sy’n well yn aml; a pharhau i feddwl tybed a fyddwn ni byth yn gweld ein gilydd yn y cnawd eto!

    Mae dyfyniad enwog yr Athronydd o Awstria, Martin Bruber - ‘Mae gan bob taith gyrchfannau cyfrinachol nad yw’r teithiwr yn ymwybodol ohonynt’ - yn crynhoi fy mhrofiad ar y prosiect hwn yn berffaith.

    Gan fynd ymlaen at wanwyn 2021, rydym bellach wrthi’n casglu ein canfyddiadau at ei gilydd a byddwn yn adrodd yn yr haf. Ar 20 Mai, byddwn yn cynnal gweminar er mwyn amlinellu rhai o’n canfyddiadau a gwrando ar rai o’r straeon ysbrydoledig am adfywio oddi wrth bobl ledled Cymru a thu hwnt. Rhywbeth arall a wnaethom ni am y tro cyntaf, gweminar i gasglu tystiolaeth yn hytrach nag adrodd ar ganfyddiadau.

    Mae’r cyfan wedi bod yn gyffrous, wedi gwneud rhywun i feddwl ac, os meiddiaf ddweud hynny, yn bleserus.

     

    Meleri

    Mae “Gallwch dynnu’r person allan o’r lle, ond allwch chi ddim cymryd y lle allan o berson” yn ddywediad sy’n disgrifio’n berffaith y berthynas sydd gen i â’m tref enedigol, Aberystwyth.  Mae’r un dywediad yn wir hefyd am y dref: 

    • yr wyf yn byw ynddi ar hyn o bryd,
    • ble’r astudiais yn y brifysgol,
    • y mae fy nheulu estynedig yn byw ynddi,
    • ble byddaf yn byw yn y dyfodol...

    ... gallai’r rhestr fod yn ddiddiwedd.  Gwnaeth imi sylweddoli, ble bynnag y mae rhywun yn byw, y gallai fod â lefel uchel o ddiddordeb mewn nifer o Ganol Trefi ledled y wlad a thu hwnt.  Dyma un o’r rhesymau lawer pam mae’r prosiect hwn wedi bod yn arbennig o ddiddorol i mi.

    O’r gwaith, rwyf wedi mwynhau deall ychydig yn fwy am gyfleoedd a heriau penodol sy’n wynebu Canol Trefi, a chlywed sôn am lwyddiannau o ran sut mae cymunedau wedi llwyddo i weddnewid pethau.  Mae’r gwaith wedi dangos i mi fod mwy nag un ffordd o wneud Canol Tref yn lle sy’n ffynnu, ac efallai na fydd yr hyn a weithiodd mewn un gymuned yn gweithio i gymunedau eraill.  Mae hyn yn dangos bod pob tref yn unigryw, ac mae hyn yn rhywbeth i ymfalchïo ynddo.

    Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn arbennig o heriol, a dim ond un o’r sgil-effeithiau niferus oedd siopau’r stryd fawr yn cau mewn Canol Trefi ledled y wlad.  Rwy’n obeithiol y bydd hyn yn cael ei ddefnyddio fel cyfle i newid, efallai drwy ddenu rhagor o siopau lleol annibynnol i’r stryd fawr a defnyddio gofod llawr masnachol ar gyfer gwahanol ddefnyddiau eraill yn ogystal â manwerthu.   Rwy’n hyderus y gallai Canol ein Trefi fod yn gwbl unigryw yn y dyfodol agos ac y gallent fod yn rhywle yr ydym yn teimlo hyd yn oed mwy o gyfrifoldeb tuag atynt.

     

    Matt

    Dyma un o’r astudiaethau mwyaf diddorol yr wyf wedi bod yn rhan ohoni, a’r hyn a’m trawodd yn gyntaf oedd na allai ein hastudiaeth fod wedi bod yn fwy amserol. Pan gyrhaeddodd y pandemig, ac fe aeth llawer ohonom i’n byd rhithwir ar-lein, un o’r cwestiynau cyntaf a berodd hynny oedd ‘pa mor berthnasol yw canol trefi yn yr amgylchedd ‘normal newydd’ hwn?’. ‘A yw pobl yn dal i’w gwerthfawrogi nhw?’

    Wrth gwrs, cafodd COVID effaith mor uniongyrchol ar ganol trefi, ond cyflymodd yr hyn yr oedd arweinwyr busnes a chymunedol yn gwybod oedd yn dod. Roedd heriau wedi bodoli ers blynyddoedd wrth i ddisgwyliadau ac arferion siopa ar-lein newid, ond nid oeddent yn disgwyl gorfod mynd i’r afael â hyn dros nos.

    Darparodd ein harolwg o dros 2000 yr atebion i’r cwestiynau cychwynnol hyn:

    Mae angen trefi ar bobl. Maent yn eu gwerthfawrogi nhw. Maent yn llunio eu hunaniaeth nhw.

    Ond gofynnwyd cwestiwn arall - a ydynt yn dal i fod yn addas i’w diben?

    Mae disgwyliadau’n newid. Mae pobl wrth eu boddau â’u siopau lleol, ond maen nhw’n dymuno bod â mwy na manwerthu yn unig. Mae pobl yn teimlo’n ynysig ac yn crefu am brofiadau, sy’n rhoi cyfle unigryw i drefi gynnig rhywbeth gwahanol.

    Yn ystod yr astudiaeth, rwyf wedi gweld sut mae adfywio yn llawer mwy nag adfywio ffisegol. Mae trefi yn fannau cyfarfod cymhleth ar gyfer diwylliannau, syniadau a phobl amrywiol. Gallant fod yn ffynonellau hapusrwydd ac ysbrydoliaeth, sy’n gyfoethog o ran y celfyddydau a diwylliant. Gallant fod yn fannau ar gyfer digwyddiadau, yn farchnadoedd neu’n lleoedd i ymlacio ac i gysylltu â natur. Yn ogystal ag ailadeiladu, mae adfywio’n ymwneud ag adfywio cyfoeth a rhagolygon tref, ysbrydoli ei phobl a chreu mannau diogel ble gall pobl deimlo’n fodlon.

    Mae hyn yn gofyn am wneud penderfyniadau dewr yn seiliedig ar dystiolaeth, arbenigedd a meddwl yn yr hirdymor. Mae cynghorau’n chwarae rhan allweddol gan weithredu fel hwyluswyr newid. Drwy greu mannau agored, peidio â bod ofn defnyddio pwerau gorfodi i lanhau’r dref ac i wneud penderfyniadau beiddgar efallai.

    I arweinwyr, mae hyn yn golygu adnabod eich asedau ac adeiladu arnynt. Mae’n golygu peidio â cheisio bod yn bopeth i bawb. Bydd rhai trefi yn dibynnu’n drwm ar eraill yn eu hardal. Nid oes dim o’i le ar hyn ar yr amod ei fod yn rhan o strategaeth leol gref. Mae’n bosibl y bydd trefi eraill sy’n fwy gwledig yn annibynnol iawn, gan ystyried eu tref leol yn hanfodol, sy’n gofyn am bwyslais annibynnol cryf. Mae edrych ar yr hyn y mae’r data yn eu dweud wrthym am sut mae pobl yn defnyddio trefi yn allweddol wrth nodi annibyniaeth tref. Mae’r Sefydliad Materion Cymreig wedi edrych ar hyn, gan ddefnyddio data ar symudiadau pobl, asedau a dangosyddion amddifadedd er mwyn nodi cyd-ddibyniaeth tref ar eu map rhyngweithiol Deall Lleoedd Cymru.

    Rydym wedi cwrdd â chymaint o arweinwyr cymunedol brwdfrydig a staff / cynghorwyr angerddol ar draws llywodraeth leol, yr oedd pob un ohonynt yn ymdrechu i wella canol eu tref. Rydym wedi gweld mai dim ond pan fo pobl yn gweithio gyda’i gilydd y gall hyn ddigwydd. Mae angen i gynghorau sicrhau bod y sylfeini yno flynyddoedd ymlaen llaw, gan sefydlu dulliau i gynnwys eraill, felly pan fo pobl yn y gymuned yn cael syniadau gwych ar gyfer newid, gallant helpu i lywio eu tref a’u dyfodol eu hunain.

     

    Sara

    Wrth edrych yn ôl ar y gwaith ar gyfer yr astudiaeth hon, rwy’n myfyrio ar y blog cynharach a ysgrifennais ynghylch adfywio canol trefi. Siaradais o’r blaen am y ffordd hiraethus yr wyf i, a llawer o bobl eraill rwy’n siŵr, yn edrych yn ôl ar anterth y stryd fawr gan gynnwys tripiau i brynu ‘pick and mix’ a chryno ddisgiau o Woolworths.

    Sawl mis yn ddiweddarach ers y blog hwnnw, ac wrth i ni gyrraedd camau olaf yr astudiaeth, rwyf wedi sylweddoli i ba raddau y mae adfywio canol trefi yn ehangach ac yn fwy cymhleth. Yn ystod y gwaith, rydym wedi clywed am agweddau ar adfywio yn y gorffennol a oedd, wrth edrych yn ôl, yn llai adeiladol a chynaliadwy na’r hyn y gobeithiwyd amdano neu’r hyn a fwriadwyd:

    • parciau manwerthu y tu allan i’r dref;
    • adeiladu canolfannau siopa mawr sy’n canolbwyntio ar fanwerthu;
    • y seilwaith a adeiladwyd o amgylch ceir yn bennaf, er mwyn cael mynediad i drefi; a
    • datblygu gwasanaethau cyhoeddus allweddol gan gynnwys ysgolion, swyddfeydd y sector cyhoeddus ac ysbytai y tu allan i drefi.

    Mae’r themâu hyn yn ganlyniad i ddegawdau o dueddiadau a phenderfyniadau a wnaed ers y cyfnod ar ôl rhyfel, ond dyma ble’r ydym ni, a does dim rhaid i ddirywiad canol trefi fod yn anochel. Er bod cydnabod y cyd-destun hwn a’r heriau yn bwysig, mae’n allweddol cynllunio ar gyfer y dyfodol hefyd.

    Ond beth sy’n gwneud i dref ffynnu? Wel, yn y bôn, pobl.

    Mae angen i drefi ‘weithio’ ar gyfer y bobl y maent yn eu gwasanaethu a helpu i wneud cymunedau’n gryf. Gall trefi fod yn lleoliad allweddol ar gyfer gwaith, cymdeithasu, hamdden, ymarfer corff, diwylliant, tai ac yn bennaf oll, yn lle i fwynhau treulio ein hamser. Trwy gydol yr ychydig fisoedd diwethaf, rydym wedi clywed am enghreifftiau sy’n sefyll allan, ble gall trefi a chymunedau ffynnu a ble gall trefi ddarparu ar gyfer eu cymunedau.

    Bydd gweminar y Gyfnewidfa Arfer Da yn ddiweddarach ym mis Mai yn gyfle i glywed am rai o’r enghreifftiau o’r gwaith sy’n digwydd o ran adfywio mewn trefi ledled Cymru a thu hwnt, ac i fyfyrio arnynt.

    Fel y mae teitl y digwyddiad, ‘Eich Tref, Eich Dyfodol’, yn awgrymu, pwysleisir bod pobl yn ganolog i drefi, ond pwysleisir hefyd ar ganolbwyntio ar adfywio yn y dyfodol.

    • Beth sydd ei angen arnoch o ganol eich tref?
    • Beth sy’n dod â chi i’ch tref?
    • Beth ydych chi’n dymuno ei weld yn eich tref yn y dyfodol?

    Dewch draw i’n gweminar i archwilio’r cwestiynau hyn ymhellach ac i ddechrau sgwrs ynghylch dyfodol canol trefi yng Nghymru.