Cyflwyno adroddiadau ariannol amserol

Rhaid i bob un o'r cyrff hyn lunio datganiad blynyddol o gyfrifon. Er mwyn gwella systemau rheoli ariannol y sector cyhoeddus, mae angen cyflwyno adroddiadau ar ganlyniadau ariannol cyn gynted â phosibl yn ystod y flwyddyn ac ar ôl i'r flwyddyn ddod i ben. Mae hyn yn ategu gwelliannau i'r broses o reoli adnoddau, gwneud penderfyniadau a rheoli risg yn ogystal â helpu cyrff cyhoeddus i ymateb i reoliadau sy'n pennu terfynau amser cynt ar gyfer cyflwyno adroddiadau ariannol.

Diben y canllaw hwn yw eich helpu i gynllunio ar gyfer y gwaith o gau cyfrifon eich corff yn gyflymach – mewn geiriau eraill, gwella amseroldeb eich adroddiadau ariannol.

Mae'r canllaw hwn yn cynnwys:

  • Beth yw cyflwyno adroddiadau ariannol amserol;
  • Beth yw'r manteision;
  • Beth yw'r heriau; a
  • Chyngor ar bwy sy’n rhan o’r broses.

Lluniwyd y canllaw hwn ar gyfer cyrff cyhoeddus a'u harchwilwyr allanol.