Mae’r adroddiadau hyn yn cwmpasu amrywiaeth o bynciau a fyddai o ddiddordeb i chi o bosib.

Mae modd i chi chwilio am adroddiad penodol drwy ddefnyddio’r teclyn chwilio. Gallwch roi gosodiadau chwilio i ddarganfod cyhoeddiad ar destun neu o fewn ardal ddaearyddol benodol.

Os ydych angen unrhyw un o’n cyhoeddiadau mewn ffurf ac/neu iaith wahanol cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion canlynol:

Ffôn: 029 2032 0500

E-bost: post@archwilio.cymru

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg a Saesneg. Gallwch ysgrifennu atom hefyd, yn Gymraeg neu’n Saesneg, ac fe wnawn ymateb yn yr iaith rydych chi wedi ei defnyddio. Ni fydd gohebu yn Gymraeg yn arwain at oedi.

Adroddiadau hŷn

Galwch gael gafael ar adroddiad a gyhoeddwyd cyn 2010 drwy edrych ar hen fersiynau o’n gwefan Archif we'r DU [agorir mewn ffenest newydd]. Gallwch gysylltu â ni’n uniongyrchol hefyd a byddwn yn hapus i roi copi electronig i chi.

Gweler Hefyd: Arfer Da

Find documents

28 Ion 2016 - 7:30yb

Mae'r Asesiad Strwythuredig 2015 yn archwilio trefniadau o fewn y Bwrdd Iechyd sy'n cefnogi llywodraethu da a defnydd effeithlon, effeithiol a darbodus o adnoddau.

27 Ion 2016 - 12:00yp

Ar ran yr Archwilydd Cyffredinol, rydym ni wedi archwilio penderfyniad Llywodraeth Cymru i gaffael a dod yn berchen ar Faes Awyr Caerdydd.

27 Ion 2016 - 9:00yb

Roedd ein gwaith maes ar gyfer yr Asesiad Corfforaethol yn canolbwyntio ar y graddau y mae trefniadau’n cyfrannu at wella perfformiad gwasanaethau a’u canlyniadau i ddinasyddion. Ceisiai’r asesiad corfforaethol ateb y cwestiwn canlynol: ‘A yw’r Cyngor yn gallu cyflawni ei flaenoriaethau a sicrhau canlyniadau gwell i’w ddinasyddion?’

14 Ion 2016 - 12:01yb

Dyma'r pumed adroddiad blynyddol ar gyfrifon cyrff llywodraeth leol. Mae’n crynhoi canlyniadau'r gwaith ar gyfer 2014-15 yn y mathau canlynol o gyrff llywodraeth leol (cyrff a archwilir) yng Nghymru: Awdurdodau unedol, Cronfeydd pensiwn llywodraeth leol, Comisiynwyr heddlu a throseddu a phrif gwnstabliaid, Awdurdodau tân ac achub, Awdurdodau parciau cenedlaethol, Cydbwyllgorau & Awdurdodau porthladdoedd.

13 Ion 2016 - 10:55yb

Roedd yr adolygiad yma, a gynhaliwyd rhwng mis Ebrill 2015 a mis Mehefin 2015, yn ceisio ateb y cwestiwn: 'A yw’r Bwrdd Iechyd yn rheoli apwyntiadau dilynol i gleifion allanol mewn modd effeithiol?'

5 Ion 2016 - 1:45yp

Mae'r adroddiad hwn yn crynhoi canfyddiadau y gwaith archwilio mewn perthynas â Chomisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru a Phrif Gwnstabl De Cymru yn ystod 2015. 

17 Rhag 2015 - 11:40yb

Ar ran yr Archwilydd Cyffredinol, mae staff Swyddfa Archwilio Cymru wedi paratoi’r adroddiad hwn er mwyn rhoi darlun o ymateb gwasanaethau cyhoeddus datganoledig i’r heriau y maent wedi bod yn eu hwynebu a’u cynlluniau i fynd i’r afael â’r pwysau yn y dyfodol.

8 Rhag 2015 - 12:01yb

Mae'r adroddiad hwn yn darparu datganiad sefyllfa am adnoddau a gallu’r Cyngor i sicrhau gwelliant parhaus. Mae’n adrodd ar berfformiad a chanlyniadau blaenorol y Cyngor yn ogystal â’r trefniadau allweddol sydd eu hangen i ategu gwelliannau mewn gwasanaethau a swyddogaethau.

 

28 Tach 2015 - 12:00yb

Seilir yr adolygiad diagnostig ar ddadansoddi’r data cymharol ac ar farn sampl o staff sy’n defnyddio systemau TGCh glinigol yn rheolaidd. 

23 Tach 2015 - 4:19yp

Diben yr adolygiad, a gynhaliwyd rhwng mis Ebrill 2015 a mis Mehefin 2015, oedd ateb y cwestiwn: ‘A yw’r Bwrdd Iechyd yn rheoli apwyntiadau dilynol cleifion allanol yn effeithiol?’

Tudalennau