Mae’r adroddiadau hyn yn cwmpasu amrywiaeth o bynciau a fyddai o ddiddordeb i chi o bosib.

Mae modd i chi chwilio am adroddiad penodol drwy ddefnyddio’r teclyn chwilio. Gallwch roi gosodiadau chwilio i ddarganfod cyhoeddiad ar destun neu o fewn ardal ddaearyddol benodol.

Os ydych angen unrhyw un o’n cyhoeddiadau mewn ffurf ac/neu iaith wahanol cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion canlynol:

Ffôn: 029 2032 0500

E-bost: post@archwilio.cymru

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg a Saesneg. Gallwch ysgrifennu atom hefyd, yn Gymraeg neu’n Saesneg, ac fe wnawn ymateb yn yr iaith rydych chi wedi ei defnyddio. Ni fydd gohebu yn Gymraeg yn arwain at oedi.

Adroddiadau hŷn

Galwch gael gafael ar adroddiad a gyhoeddwyd cyn 2010 drwy edrych ar hen fersiynau o’n gwefan Archif we'r DU [agorir mewn ffenest newydd]. Gallwch gysylltu â ni’n uniongyrchol hefyd a byddwn yn hapus i roi copi electronig i chi.

Gweler Hefyd: Arfer Da

Find documents

12 Gorff 2019 - 10:32yb

Archwiliodd yr adroddiad hwn y cynnydd a wnaed o ran mynd i'r afael â'r argymhellion a nodwyd yn yr Adolygiad 2014 o Godio Clinigol.

10 Gorff 2019 - 4:50yp

Archwiliodd yr adroddiad hwn y cynnydd a wnaed o ran mynd i'r afael â'r argymhellion a nodwyd yn yr Adolygiad 2014 o Godio Clinigol.

18 Meh 2019 - 2:33yp

Cynhaliom yr adolygiad hwn ar drefniadau corfforaethol gan Gyngor Sir Ceredigion dros ddiogelu plant ac oedolion, a cheisio ateb y cwestiwn hwn: A yw trefniadau llywodraethu a rheoli’r Cyngor yn rhoi sicrwydd bod plant ac oedolion yn cael eu diogelu?

10 Meh 2019 - 10:00yb

Ceisiodd ein hadolygiad ateb y cwestiwn, ‘A yw anghenion, profiadau a dyheadau defnyddwyr gwasanaethau yn llywio’r broses o gynllunio a darparu gwasanaethau er mwyn diwallu eu hanghenion yn well?’ Yn yr adolygiad hwn, canolbwyntiwyd ar ymagwedd y Cyngor tuag at symud gwasanaethau ar-lein fel rhan o newid sianeli.

4 Meh 2019 - 4:00yp

Archwiliwyd gennym i ba raddau mae Cyngor Sir Penfro yn gweithredu yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy wrth 'hybu ffyrdd o fyw gweithgar er mwyn gwella lles meddyliol a chorfforol’, sef ‘cam’ y mae’r Cyngor yn ei gymryd i ddiwallu eu hamcanion llesiant.

4 Meh 2019 - 10:01yb

Cynhaliodd Swyddfa Archwilio Cymru adolygiad i ateb y cwestiwn: a yw trefniadau llywodraethu a rheoli corfforaethol Cyngor Sir Penfro yn rhoi sicrwydd bod plant ac oedolion yn cael eu diogelu?

 

4 Meh 2019 - 10:00yb

Cynhaliodd Swyddfa Archwilio Cymru adolygiad i ateb y cwestiwn: a yw'r Cyngor wedi cymryd camau effeithiol i fynd i'r afael â'r cynigion ar gyfer gwella a gynhwyswyd yn ein hadroddiad ym mis Mawrth 2018, Adolygiad o bolisïau a gweithdrefnau chwythu'r chwiban a chwynion yn Sir Benfro Cyngor Sir?

24 Ebr 2019 - 10:00yb

Mae’r gwaith a wnaed ers yr Adroddiad Gwella Blynyddol diwethaf, gan gynnwys gwaith y rheoleiddwyr perthnasol, wedi’i nodi yn yr adroddiad hwn

1 Ebr 2019 - 9:45yb

Ystyriwyd i ba raddau y mae Cyngor yn gweithredu yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy wrth 'gynyddu'r ystod o gyfleoedd gweithgarwch corfforol sydd ar gael i blant, a thargedu'r rhai sy'n wynebu risg uwch o segurdod', 'cam' y mae'r Cyngor yn ei gymryd i gyflawni ei amcanion llesiant.

22 Maw 2019 - 10:45yb

Mae angen i gyrff y GIG sicrhau bod trefniadau rhyddhau o'r ysbyty yn ddiogel ac yn amserol. 

Tudalennau